Ewch i’r prif gynnwys

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu ei harbenigedd i gynllun ar lefel y DU gyfan sy’n ymchwilio i ddeallusrwydd artiffisial

6 Chwefror 2024

Delwedd cysyniadol o fap y DU a chysylltir y pwyntiau gan linellau golau.
Mae buddsoddiad yr EPSRC yn pwysleisio ymrwymiad y DU i barhau i arwain ar ymchwil ac arloesi ym maes AD yn ogystal â’i ddefnyddio’n foesegol.

Bydd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu eu harbenigedd i dair o naw canolfan deallusrwydd artiffisial (DA) newydd sy’n arloesi ym maes technolegau’r genhedlaeth nesaf fydd yn gwthio’r DU i flaen y gad ym maes ymchwil uwch ar DA.

Boed yn frwydro yn erbyn bygythiadau seiber, cefnogi gwell triniaethau iechyd neu gyflymu’r gwaith o ddatblygu dyfeisiau trydanol a microsglodion, nod y canolfannau yw trawsnewid y ffordd y mae DA yn cael ei greu a'i ddefnyddio, gan ffocysu’n benodol ar ddyluniadau sy'n cyffwrdd â phob thema ac yn canolbwyntio ar bobl.

Mae buddsoddiad gwerth £80 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI), yn pwysleisio ymrwymiad y DU i barhau i arwain ar ymchwil ac arloesi ym maes AD yn ogystal â’i ddefnyddio’n foesegol.

Bydd ymchwilwyr o Ysgol Seicoleg ac Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd yn cefnogi canolfan ‘AI for Collective Intelligence’ (AI4CI) dan arweiniad Prifysgol Bryste.

Bydd y Ganolfan yn datblygu dysgu peirianyddol newydd a thechnolegau asiantiaid clyfar sy’n defnyddio ffrydiau data amser real i sicrhau deallusrwydd a gwybodaeth gyfunol ar gyfer unigolion ac asiantaethau cenedlaethol.

Llun o bobl yn yr efelychydd trafnidiaeth mewn labordy yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd.
Yn rhan o labordy efelychu Canolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriant-Ddynol Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd mae ogof realiti rhithwir ymgolli cyflawn, canolfan gorchymyn a rheoli, ac efelychydd trafnidiaeth.

Dyma a ddywedodd yr Athro Phillip Morgan o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: “Gan ein bod yn dîm amlddisgyblaethol byddwn ni’n cynnal ymchwil sydd ar flaen y gad er mwyn manteisio i’r eithaf ar benderfyniadau dynol ‘clyfar’ a DA mewn meysydd allweddol megis gwybodaeth amgylcheddol, sefydlogrwydd ariannol, ecosystemau gofal iechyd, gwytnwch ar ôl pandemig a dylunio dinasoedd clyfar.”

Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at gyd-arwain thema ddylunio sy’n canolbwyntio ar bobl gan ei bod yn hollbwysig o ran datblygu DA at ddibenion deallusrwydd a gwybodaeth gyfunol yn ein meysydd penodol. Byddwn ni’n defnyddio dulliau ym maes seicoleg wybyddol a chymdeithasol a ffactorau dynol i greu egwyddorion dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl ar gyfer asiantiaid DA dibynadwy effeithiol sy’n arwain at newid ymddygiadol yn ôl yr angen mewn grwpiau dynol-AD cymdeithasol-dechnegol.

Bydd y Ganolfan yn defnyddio arbenigedd Sefydliad Arloesi er Trawsnewid Digidol Prifysgol Caerdydd, Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriant-Ddynol (IROHMS) a grŵp ymchwil Rhagoriaeth Ffactorau Dynol (HuFEx).

Un o feysydd thematig arall y Ganolfan fydd sefydlogrwydd ariannol.

Dyma a ddywedodd yr Athro Maggie Chen o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd a fydd yn cyd-arwain ar y thema hon: “Dyma’r amser perffaith i fynd i’r afael â mater pwysig sefydlogrwydd ariannol, yn enwedig o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol a’r argyfwng parhaus o ran costau byw.”

Mae technolegau ariannol wedi gwella’n gyflym i ymateb i’r heriau sy’n deillio o amodau economaidd a chymdeithasol anodd fel pandemig Covid-19. Ond mae'r atebion hyn hefyd wedi codi llawer o gwestiynau moesegol newydd a hyd yn oed wedi creu gwrthdaro a rhaniadau ar draws y gymdeithas. Felly, peth gwych oedd ennill cystadleuaeth gyllido genedlaethol ar raddfa fawr gan yr EPSRC i ymchwilio i’r ffyrdd y gellir defnyddio’r dechnoleg DA fwyaf blaengar mewn ffyrdd ystyrlon i helpu o ran problemau yn y byd go iawn.

Yr Athro Maggie Chen Senior Lecturer in Financial Mathematics

Bydd y Ganolfan yn defnyddio arweinyddiaeth Prifysgol Caerdydd ym maes ymchwil ar dechnoleg ariannol yng Nghymru, gyda chymorth rhwydweithiau ac ecosystemau technoleg ariannol lleol a chenedlaethol.

Bydd yn cydweithio ag ystod o sefydliadau ariannol ac addysgol, rheoleiddwyr, busnesau bach a chanolig, sefydliadau elusennol a chymunedau i greu atebion ar y cyd sy’n ymarferol, yn gynaliadwy ac yn ddibynadwy ac a fydd yn helpu penderfyniadau ariannol.

Ychwanegodd yr Athro Chen: “Yn aml, mae ein partneriaid yn ysbrydoli ac yn gwthio llawer o ddatblygiadau ym maes technoleg ariannol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw unwaith eto drwy’r Ganolfan, gan ymgysylltu â phartneriaid newydd i gynnal ymchwil ryngddisgyblaethol a chyffrous.”

Bydd ymchwilwyr o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd hefyd yn cefnogi'r ganolfan ddeallusrwydd artiffisial mewn Modelau Cynhyrchiol.

Dan arweiniad Coleg Prifysgol Llundain, bydd y ganolfan yn datblygu offer y gall diwydiant, gwyddoniaeth a llywodraethau eu defnyddio i adeiladu modelau cynhyrchiol cyfrifol fydd yn gweithredu er budd i'r economi a chymdeithas.

Dywedodd yr Athro Yukun Lai o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni wedi gweld datblygiadau arloesol sylweddol o ran modelau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, ac mae rhai enghreifftiau y mae pawb yn gwybod amdanyn nhw’n cynnwys ChatGPT ar gyfer cynhyrchu testun, Stable Diffusion ar gyfer cynhyrchu delweddau a Sora ar gyfer cynhyrchu fideos. Yn y meysydd hyn a llawer mwy o feysydd arbenigol, gall deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol chwyldroi sut mae cynnwys newydd yn cael ei gynhyrchu, gan leihau'n fawr yr ymdrech ddynol sydd ei hangen.

“Gall hefyd symleiddio prosesau busnes, cyflymu darganfyddiadau gwyddonol a sicrhau bod cynnwys ar gael yn hwylus.”

Felly, yma ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o’r consortiwm cenedlaethol sy’n datblygu’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, gan sicrhau eu bod yn ddibynadwy, yn effeithlon ac yn gyfrifol, yn mynd i’r afael â heriau ymarferol ac o fudd i’r economi a chymdeithas.

Yr Athro Yukun Lai Lecturer

Bydd Canolfan National Edge Hub for Real Data hefyd yn defnyddio arbenigedd ymchwilwyr o Ysgolion Cyfrifiadureg a Gwybodeg a Pheirianneg Prifysgol Caerdydd.

Ymchwil deallusrwydd artiffisial ochrol (edge AI) yw'r astudiaeth o’r modd y gellir rhoi technegau deallusrwydd artiffisial ar waith ger ffynhonnell y data, yn lle eu hanfon at gwmwl neu weinydd canolog.

Dan arweiniad Prifysgol Newcastle, bydd y ganolfan yn canolbwyntio ar effaith amhariadau seiber ar effeithiolrwydd a gwydnwch deallusrwydd artiffisial ochrol, gyda ffocws penodol ar fygythiadau seiber a sut i'w wneud yn fwy diogel a chadarn.

Bydd y canolfannau hefyd yn datblygu cenhedlaeth newydd o dalent yn sgil ymchwil ôl-raddedig a chyfleoedd i wneud ymchwil ôl-ddoethurol sy'n canolbwyntio ar dechnolegau a chymwysiadau DA.

Meddai’r Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil ar gyfer Arloesedd a Menter Prifysgol Caerdydd: “Gyda momentwm yn cynyddu’n sylweddol yn y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial, mae'n hanfodol ein bod yn deall y gwaith arloesol a'r technolegau sy'n sail i hyn, fel y gellir rhoi trawsnewidiad digidol ar waith ledled ein cymdeithas, ein heconomi a'n hamgylchedd mewn ffordd gyfrifol.

“Rwy'n falch felly o weld cydweithwyr o bob cwr o Brifysgol Caerdydd yn cyfrannu eu harbenigedd mewn agweddau cymdeithasol-dechnolegol  ar ddeallusrwydd i'r fenter genedlaethol hon.”

Byddant yn mynd i'r afael â chwestiynau sylfaenol mewn dylunio sy'n canolbwyntio ar y dynol, sefydlogrwydd ariannol, seiberddiogelwch ac arloesi cyfrifol gyda chydweithwyr yn y byd academaidd a diwydiant, gan helpu i hyfforddi ymchwilwyr ôl-raddedig a’r rheini sy’n gynnar yn eu gyrfa i fynd i’r afael â’r yr heriau sy’n codi yn wyneb y technolegau chwyldroadol hyn.

Yr Athro Roger Whitaker College Dean of Research
Professor of Mobile and Social Computing

Rhannu’r stori hon

Gwybodaeth am sut y gall y Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol gynorthwyo eich gwaith.