Ewch i’r prif gynnwys

Mae Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â'r Athro Brian Cox i addysgu myfyrwyr ysgol am ddeallusrwydd artiffisial

16 Chwefror 2024

Yr Athro Brian Cox a'r Athro Pete Burnap

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â'r Gymdeithas Frenhinol a'r Athro Brian Cox yn y gyfres nesaf o fideos y Brian Cox School Experiment.

Yn ogystal â helpu athrawon i gyflwyno gwyddoniaeth gyffrous, greadigol ac ymarferol yn yr ystafell ddosbarth, bydd y ffilmiau diweddaraf yn rhoi sgiliau a gwybodaeth i fyfyrwyr am swyddi newydd a diwydiannau ar eu newydd wedd yn sgil datblygiadau gwyddonol.

Dyma a ddywedodd yr Athro Brian Cox, ffisegydd, ac Athro’r Gymdeithas Frenhinol er Ymgysylltu Gwyddonol â’r Cyhoedd: “Bydd y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr yn arwain y ffordd o ran dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i’r afael â newidiadau yn yr hinsawdd, gwella diogelwch bwyd a datblygu deallusrwydd artiffisial (DA) wrth iddo drawsnewid y gymdeithas."

Rwy’n gobeithio y bydd y fideos hyn yn offeryn amhrisiadwy i athrawon, gan wreiddio’r gwaith o ymholi arbrofol yn rhan o’r gwersi, a hynny yng nghyd-destun rhai o faterion pwysicaf ein hoes a chyflwyno myfyrwyr i rai o’r technolegau arloesol sy’n cael eu dylunio i’w datrys.
Yr Athro Brian Cox

Rhannodd yr Athro Pete Burnap, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil er Seiberddiogelwch a’r Ganolfan Arloesi Seiber ym Mhrifysgol Caerdydd, a Chyd-gyfarwyddwr y Sefydliad er Arloesi Trawsnewid Digidol, ei ymchwil ar ddysgu peirianyddol a seiberddiogelwch, gan gyflwyno ymchwil y Brifysgol ar dechnolegau a ddyluniwyd i ddeall bygythiadau i’n lleoedd cyhoeddus a sut i'w gwneud yn fwy diogel.

Dyma a ddywedodd yr Athro Burnap: “Pleser o’r mwyaf oedd bod yn rhan o roi gwybod am hanesion cyffrous ac ysbrydoledig am ddefnyddio dysgu peirianyddol a seiberddiogelwch yn y byd go iawn."

Byd y genhedlaeth nesaf fydd byd DA a chysylltedd digidol, felly mae'n hynod o bwysig eu bod yn cael y cyfle i ddysgu sut i beri iddo weithio er lles dynoliaeth, a hynny er oedran ifanc.
Yr Athro Pete Burnap Lecturer

Parhaodd: Fy ngobaith yw y bydd pobl ifanc yn gweld fideos y Gymdeithas Frenhinol ac yn meddwl yn syth bin – “Rwy eisiau gwneud hynny!””

Ymhlith yr adnoddau, a anelir at fyfyrwyr 11-14 oed, mae pynciau sydd ar flaen y gad o ran ymchwil wyddonol fyd-eang, gan gynnwys golygu genomau i dyfu cnydau cynaliadwy; asideiddio’r cefnforoedd, cipio carbon a cholli bioamrywiaeth; a dysgu peirianyddol a'i ddefnydd ym maes seiberddiogelwch.

Mae adnoddau y gellir eu lawrlwytho ar y tri phwnc ar gael ar wefan y Gymdeithas Frenhinol a’i gwefan ar YouTube, llyfrgell adnoddau dysgu STEM y DU, a thudalennau adnoddau’r Times Education Supplement (TES).