Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno arloesi digidol y Brifysgol yn ystod Wythnos Dechnoleg Cymru

6 Tachwedd 2023

Daeth arloeswyr digidol o Brifysgol Caerdydd Wythnos Dechnoleg Cymru ynghyd yn ddiweddar i ddangos grym trawsnewid digidol a thechnoleg flaengar yng Nghymru.

Cymerodd nifer o gyrff ymchwil blaenllaw mewn prifysgolion, gan gynnwys y Sefydliad Arloesi er Trawsnewid Digidol, Canolfan Hartree Hwb Caerdydd, Media Cymru, a’r Ganolfan Arloesi Seiber, yn ogystal â thenantiaid sbarc|spark, Empirysys, Yacooba, a Graddedigion Venture ran yn Wythnos Dechnoleg Cymru yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd.

Yn y digwyddiad, a gynhaliwyd rhwng 16 a 18 Hydref, daeth 75 o arddangoswyr a 300 o siaradwyr ynghyd mewn mwy na 70 o sesiynau panel arbenigol a gweithdai gwahanol, a chroesawyd mwy na 5000 o bobl i’r gynhadledd. Daeth arbenigwyr academaidd, selogion byd technoleg, entrepreneuriaid, gweithwyr proffesiynol ac arloeswyr ynghyd i ddathlu a thrafod y tueddiadau diweddaraf ym maes technoleg, trawsnewid digidol ac arloesi.

Ymhlith uchafbwyntiau’r digwyddiad roedd anerchiad agoriadol Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething AS, araith o bwys gan Indro Mukerjee, Prif Swyddog Gweithredol Innovate UK a digwyddiad cyntaf Talent4Tech a grëwyd i ddenu’r genhedlaeth nesaf o dalent technoleg, boed yn brentisiaid, yn raddedigion neu’r rheini sy’n dychwelyd i’r diwydiant a gweithwyr sy'n pontio, a hynny i’w hysbrydoli i ddewis gyrfa ym myd technoleg.

Dyma a ddywedodd Dr Angharad Watson, Rheolwr y Sefydliad Arloesi er Trawsnewid Digidol, a Chanolfan Hartree Hwb Caerdydd: “Ein nod yw bod yn bartner gweithredol ym myd trawsnewid digidol. Rydyn ni’n cydnabod mai’r unig ffordd o gael yr effaith orau yw drwy gydweithio â phartneriaid y tu hwnt i’r Brifysgol – boed yn BBaChau lleol mewn prosiectau arloesol neu gwmnïau rhyngwladol byd-eang. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r effaith a meithrin arloesi sy'n deillio o ymchwil sy'n arwain y byd, mae partneriaethau allanol yn hollbwysig."

Credwn fod Wythnos Dechnoleg Cymru yn blatfform ardderchog i gysylltu â’r partneriaid hyn, cychwyn sgyrsiau a gwybod pa brosiectau eraill sy’n rhannu ein gweledigaeth i ysgogi newidiadau cadarnhaol yng Nghymru.
Dr Angharad Watson Centre Manager for the Digital Transformation Innovation Institute

Dyma a ddywedodd Matthew Turner, Pennaeth Gweithrediadau’r Ganolfan Arloesi Seiber: “Mae Wythnos Dechnoleg Cymru yn bwysig iawn inni, ac mae ein nawdd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i’r digwyddiad hynod hwn. Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi’r cyfle inni gymryd rhan amlwg yn ecosystem lewyrchus technoleg Cymru a bod mewn cysylltiad ag ystod amrywiol o bartneriaid posibl o’r byd academaidd, busnesau, y llywodraeth a’r sectorau preifat a chyhoeddus. Mae’n rhoi llwyfan inni gyflwyno’r gwaith dylanwadol rydyn ni’n ymwneud ag ef a rhannu’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni yn ogystal â’n datblygiadau arloesol gyda chynulleidfa ehangach.”

Sefydlwyd Wythnos Dechnoleg Cymru gan Technology Connected, un o rwydweithiau blaenllaw y diwydiant technoleg yng Nghymru. Mae’r uwchgynhadledd gynhwysol a chynaliadwy hon yn meithrin cysylltiadau a chyfleoedd ar gyfer rhai o unigolion a busnesau mwyaf blaengar y diwydiant technoleg.

Dyma a ddywedodd Avril Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Technology Connected:  “Mae cyfraniad Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys y cymorth yn sgil partneriaeth y Ganolfan Arloesi Seiber a’r Sefydliad Arloesi er Trawsnewid Digidol, yn cyd-fynd â’r diben craidd hwn, gan dynnu sylw penodol at bwysigrwydd ymchwil prifysgolion a datblygu sgiliau i lywio datblygiadau technolegol er budd busnesau Cymru ac i hyrwyddo enw da rhyngwladol Cymru yn ganolbwynt technoleg sydd wrthi’n tyfu.”

Mae Cymru’n parhau i gadarnhau ei safle’n arweinydd byd-eang ym maes technoleg gan fod gennym arbenigwyr o fri rhyngwladol mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch a’r sector creadigol, yn ogystal â datblygiadau ym maes technoleg ariannol, technoleg feddygol, blockchain a ffotoneg. Ym mis Ebrill 2023 llofnodwyd cytundeb partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac Innovate UK, a’r nod yw meithrin prosiectau cryf ar y cyd yn genedlaethol ac yn lleol, ac i gefnogi arloesi a sbarduno twf economaidd yng Nghymru.

Gallwch chi weld uchafbwyntiau diwrnod cyntaf y digwyddiad, ynghyd â chyfweliadau gyda staff y Brifysgol, ar X/Twitter.

Rhannu’r stori hon

Gwybodaeth am sut y gall y Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol gynorthwyo eich gwaith.