Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn dathlu pŵer partneriaethau

9 Gorffennaf 2020

Stock image of a sparkler

Caiff partneriaethau sy'n ymdrin â materion yn amrywio o dlodi bwyd i HIV eu harddangos ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'r prosiectau'n amlygu gwaith y Brifysgol i gysylltu, cydweithio a chreu wrth iddi adeiladu campws #CartrefArloesedd i'r dyfodol i hybu llesiant yng Nghymru.

Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae digwyddiadau byd-eang yn golygu bod rhaid i brifysgolion ymchwil-ddwys fel Caerdydd ddod o hyd i ffyrdd i ddatgloi pŵer ymchwil. Drwy ffurfio partneriaethau a buddsoddi mewn #CartrfArloesedd i'r dyfodol, gallwn greu cyfleoedd i gyrff sector cyhoeddus, preifat a thrydydd sector ymuno â ni a helpu i roi Cymru'n ôl ar y llwybr cywir ar ôl pandemig COVID-19."

Mae'r chwe phrosiect yn rhychwantu'r gwyddorau bywyd, busnes, y dyniaethau a llywodraeth ar lefelau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol:

  • Ymdrin â thlodi bwyd yng Nghaerdydd a thu hwnt - Dr Yingli Wang a Bwyd Caerdydd;
  • Diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl yn Sabah, Borneo drwy greu polisi llywodraethol newydd, Cynlluniau Gweithredu Gwladwriaeth - yr Athro Benoit Goossens ac Adran Bywyd Gwyllt Sabah;
  • Cymhwyso genomeg fel Gwasanaeth Diagnostig clinigol HIV cenedlaethol - Dr Thomas R Connor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru;
  • Cyflwyno’r dull gwasanaethau ecosystem ar gyfer rheoli dyfroedd croyw yn gynaliadwy - yr Athro Isabelle Durance, Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru;
  • System Logisteg Maes Awyr Arloesol ar gyfer Gweithrediadau Trin Bagiau Cynnal a Chadw ar sail Cyflwr Cost Isel - yr Athro Maneesh Kumar a'r Athro Pauline Found a Siemens Logistics
  • Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern a Gorwelion Iaith: Ail-ddychmygu Eich Byd - yr Athro Claire Gorrara a Chonsortiwm Canolbarth y De.

Dywedodd Dr Nick Bourne, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth Datblygu Masnachol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r pandemig wedi ein harwain at ganslo ein Gwobrau Arloesedd ac Effaith yn 2020. Yn lle hynny rydym ni wedi dewis amlygu chwe phartneriaeth sydd wedi’u cydnabod yn enghreifftiau gwych o arloesedd a chydweithio, a chaiff eu llwyddiant ei arddangos yn ddigidol.

"Mae’r prosiectau'n amlygu sut rydym yn cysylltu, yn cydweithio ac yn creu gyda sefydliadau allanol. Gan amrywio ar draws y gwyddorau bywyd, busnes, y dyniaethau a llywodraeth ar lefelau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol, mae’r partneriaethau hyn yn enghreifftio ein hymrwymiad i weithio gyda phob sector, ynghyd â’r effaith y gallwn ei chyflawni drwy weithio ar y cyd."

Bydd Campws Arloesedd Caerdydd yn dod â meddylwyr, gwneuthurwyr, entrepreneuriaid a chyllidwyr at ei gilydd i droi syniadau gwych yn brosiectau a all bweru adferiad economaidd-gymdeithasol wrth i'r cyfnod clo leddfu.

Mae adeilad arloesedd blaenllaw Caerdydd -sbarc I spark- yn ganolfan i gwmnïau deillio, cwmnïau newydd, menter ac entrepreneuriaeth myfyrwyr ac yn cyfuno gofod swyddfa y gellir ei rentu â chyfleusterau arloesi i greu #CartrefAloesedd.

Mae gan Gaerdydd hanes nodedig o droi syniadau yn atebion yn y byd real ac mae ar y brig ymhlith prifysgolion Cymru am gynhyrchu incwm IP.

I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda Phrifysgol Caerdydd ebostiwch homeofinnovation@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.