Partneriaeth arloesol yn gwarchod ecosystemau afonol
13 Gorffennaf 2020
Mae partneriaeth sy'n helpu i ddiogelu ecosystemau dŵr croyw drwy siapio polisi'r Llywodraeth wedi'i chydnabod am ei hymagwedd arloesol at reoli dŵr yn gynaliadwy.
Mae prosiect cydweithredol sydd wedi'i hen sefydlu rhwng Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) wedi harneisio arbenigedd ymchwil Caerdydd i ddatblygu ffyrdd newydd i reoli dyfroedd a dalgylchoedd.
Dan arweiniad yr Athro Isabelle Durance o Ysgol y Biowyddorau, bu tîm rhyngddisgyblaethol o Gaerdydd yn mesur a modelu amrywiaeth mewn ecosystemau afonydd i ddangos sut y gall newidiadau mewn defnydd tir yn y dyfodol a newid yn yr hinsawdd effeithio ar fioamrywiaeth dŵr croyw.
Datblygodd yr ymchwilwyr ddealltwriaeth lawn o'r cyswllt rhwng rheoli dalgylchoedd, bioamrywiaeth afonydd a chynaladwyedd y gwasanaethau mae ecosystemau dŵr croyw iach yn gallu eu darparu, fel dŵr glân neu bysgod.
Roedd arbenigedd tymor hir a setiau data Caerdydd yn allweddol ar gyfer arwain elfen dŵr croyw rhaglen strategol Cynaladwyedd Gwasanaeth Bioamrywiaeth ac Ecosystemau (NERC-BESS, 2011-2017) - y rhaglen ymchwil genedlaethol gyntaf o'i math yn y byd.
Bu Caerdydd yn arwain prosiect £3.1m Amrywiaeth mewn Afonydd yr Ucheldir ar gyfer Cynaladwyedd Gwasanaeth Ecosystemau (DURESS) (2012-15), a fu'n mesur y 'ddolen goll' rhwng penderfyniadau tirwedd, bioamrywiaeth afonydd a chynaladwyedd.
Dywedodd yr Athro Durance sy'n arwain Sefydliad Ymchwil Dŵr Caerdydd: "Rydym ni wrth ein bodd fod ein gwaith wedi'i gydnabod am ei arloesedd. Helpodd ein hymagwedd ecosystem gyfannol - ynghyd â'r set o offer a chysyniadau rydym ni wedi'u casglu - i lywio polisïau’r llywodraeth fel Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Bydd gwaddol hir dymor i'r prosiect a'i ganfyddiadau, gan wella bioamrywiaeth ac ansawdd dŵr croyw yng Nghymru, y DU yn ehangach ac yn rhyngwladol."
Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: "Mae'r Athro Durance a thîm Prifysgol Caerdydd nawr yn cefnogi'r busnes gydag amrywiaeth eang o ymchwil a phrosiectau eraill. Yn benodol maen nhw'n cefnogi ein gwaith ar reoli dalgylchoedd sy’n targedu gwell ansawdd dŵr, bioamrywiaeth, rheoli tir yn gynaliadwy a datblygu datrysiadau'n seiliedig ar natur."
Dylanwadodd y bartneriaeth hefyd ar benderfyniad DCWW i lansio Partneriaeth Megadalgylch y Bannau i weithio gyda rheolwyr yr ucheldir ar ddull at wella ansawdd dŵr sy’n seiliedig ar natur yn ardal y Parc Cenedlaethol sy'n cyflenwi bron i hanner dŵr y cwmni.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd Lesley Griffiths: "Rydym ni wrth ein bodd fod gwaith yr Athro Durance a'i thîm yn cael ei gydnabod gan y Brifysgol. Oherwydd y gwaith ymchwil, yr offerynnau a'r technegau a ddatblygwyd gan Gaerdydd, bu'n bosibl i Gymru osod ymagwedd yn seiliedig ar wasanaethau ecosystem wrth galon Deddf yr Amgylchedd (Cymru), sy’n roi Cymru ar y blaen o ran deddfwriaeth amgylcheddol yn y DU."
Mae ymchwil Caerdydd wedi'i mabwysiadu'n rhyngwladol hefyd. Bu'n chwarae rhan bwysig yn sefydlu Cronfa Basn Afon Cubango-Okavango, cronfa annibynnol $250m i gyfoethogi bywoliaeth, gwella gwydnwch ecosystemau a darparu buddion teg i'r gwledydd sy'n rhannu'r safle UNESCO unigryw hwn.
Mae hon yn un o chwe phartneriaeth a gydnabuwyd am effaith eu harloesedd gan Brifysgol Caerdydd yn 2020 - a chaiff ei harddangos fel rhan o waith cynyddol Caerdydd ar arloesi'n genedlaethol a rhyngwladol.