Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth yn gwarchod rhywogaethau Borneo sydd dan fygythiad

13 Gorffennaf 2020

Orangutan

Mae prosiect cadwraeth sy'n gwarchod rhai o rywogaethau Borneo sydd fwyaf dan fygythiad drwy weithio'n agos gyda'r llywodraeth i amddiffyn cynefinoedd y goedwig law wedi cael ei gydnabod am arloesedd.

Am dros ddegawd, mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn cydweithio ag Adran Bywyd Gwyllt Sabah i nodi a gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd yn nhirweddau rhanedig iawn sy'n llawn palmwydd olew ar orlifdir Kinnabatangan - y gwlypdir mwyaf yn Sabah, Borneo Malaysia.

Dechreuodd y prosiect fel arolwg maes a gwaith ecolegol ar anifeiliaid sydd dan fygythiad - gan gynnwys banteng Borneo, eliffant Borneo, y mwnci trwynog a llewpard cymylog Sunda - gan arwain at Gynlluniau Gweithredu Gwladol deg mlynedd a pholisïau amddiffyn coedwigoedd glaw uchel eu parch.

Arweiniwyd gan yr Athro Benoît Goossens,Ysgol y Biowyddorau, mae'r bartneriaeth yn canolbwyntio ar Ganolfan Maes Danau Girang yn Sabah, lle mae'r Athro Goossens bellach yn Gyfarwyddwr.

“Rydym wedi chwarae rhan agos yn natblygiad Cynlluniau Gweithredu Gwladol 10 mlynedd, gyda'r nod o sicrhau bodolaeth barhaus poblogaethau hyfyw llewpard cymylog Sunda, eliffant Borneo, y mwnci trwynog a bantengod Borneo – ac mae pob un ohonynt dan fygythiad gan gyfuniad o golli a darnio cynefin, potsian ac adeiladu ffyrdd."

“Arweiniodd arolygon poblogaethau rhywogaethau cychwynnol at weithdai a chynadleddau rhyngwladol, sydd yn eu tro wedi arwain at waith uniongyrchol gyda'r llywodraeth ar gadwraeth y coedwigoedd glaw, ac Aildyfu Borneo yw'r un mwyaf nodedig - prosiect cydbwyso carbon cyntaf y DU – ym mis Hydref 2019."

“Yn ôl yn 2014, gwnaeth dylanwad cynyddol y bartneriaeth ein galluogi i blannu 20,000 o goed ar y cyd â NGO KOPEL lleol, gan gynhyrchu deg swydd leol," ychwanegodd yr Athro Goossens.

Eleni, mae partneriaeth â Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, Aildyfu Borneo eisoes wedi codi bron i £20,000 ar gyfer plannu coed yn y Kinabatangan Isaf a fydd yn cydbwyso'r carbon a grëwyd drwy deithio yn yr awyr, yn gwella bioamrywiaeth ac yn cefnogi cadwraeth ecolegau lleol yn ogystal â chynnal bywoliaethau a diwylliant lleol.

Dywedodd Mr Augustine Tuuga, Cyfarwyddwr Adran Bywyd Gwyllt Sabah: “Nid yw’r un dalaith arall ym Malaysia wedi lansio mentrau mor uchel eu proffil a seiliedig ar ddeilliannau er mwyn amddiffyn rhai o rywogaethau'r byd sydd fwyaf dan fygythiad. Mae'r cynlluniau gweithredu sydd wedi gallu ffynnu diolch i'r bartneriaeth hon yn darparu canllawiau a strwythur ar gyfer rheoli bywyd gwyllt yn Sabah, gan gynnwys tîm elît o orfodwyr ar lawr gwlad - dull blaengar o amddiffyn anifeiliaid sy'n agored i niwed rhag potsio."

Mae Canolfan Maes Danau Girang wedi croesawu mwy na 55 o fyfyrwyr o 30 o brifysgolion rhyngwladol, cynnal dros 82 o gyrsiau maes, sicrhau £3.5miliwn mewn cyllid grant, cynhyrchu 16 o ysgoloriaethau PhD ac mae wedi cynhyrchu dros 120 o gyhoeddiadau academaidd.

Mae'r prosiect yn un o chwe phartneriaeth a gydnabuwyd am effaith eu harloesedd gan Brifysgol Caerdydd yn 2020 - a chaiff ei arddangos fel rhan o waith cynyddol Caerdydd ar arloesi'n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.