Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigedd academaidd ar gyfer cynnal a chadw rhagfynegol

13 Gorffennaf 2020

Heathrow airport
Heathrow airport

Mae partneriaeth rhwng y diwydiant a’r byd academaidd wedi helpu i hwyluso i drosglwyddo bagiau teithwyr yn ddiogel rhwng awyrennau a therfynfeydd ym Maes Awyr Heathrow.

Mae Siemens Logistics GmbH yn cynnig atebion logisteg i feysydd awyr a chwmnïau awyrennau dros y byd, o codi a chludo bagiau o’r pwynt cyrraedd, drwy’r systemau cludfelt i’w didoli’n effeithiol cyn eu dosbarthu drwy’r cyfleusterau derbyn bagiau.

Wrth i nifer y teithwyr barhau i gynyddu yn 2016, edrychodd y cwmni am ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd i gefnogi datrysiad cost-effeithiol i atal neu ddarganfod methiannau sy’n peryglu bywyd mewn twneli cyswllt cyflym terfynfeydd.

Gyda chefnogaeth Ysgol Busnes Caerdydd, cafodd Siemens Logistics gyfle unigryw i brofi a rhoi methodoleg ymchwil arloesol ar waith (Rhoi Ymchwil Technegol ar Waith yw’r enw am hyn) sy’n galluogi ymchwilydd (sydd fel arfer yn aelod o’r sefydliad) i dreialu a phrofi atebion, a helpu sefydliadau mawr i ddeall, cynllunio a rhoi newid ar waith.

Mae’r ateb arloesol hwn, sydd ar ffurf dulliau cynnal a chadw newydd gan gynnwys monitro offer codi a chludo bagiau gan ddirgryniadau, yn dylanwadu ar feysydd awyr mawr eraill ledled y byd.

Yn ystod y prosiect, roedd modd i’r ddau Athro, Maneesh Kumar a Pauline Found astudio arloesedd cynnal a chadw mewn meysydd lle mae amser yn hollbwysig gyda’r posibilrwydd o’i ddyblygu a’i gyflwyno ar raddfa ehangach mewn meysydd awyr byd-eang eraill.

Dywedodd Frank Koenig, Uwch-reolwr Prosiect Siemens Logistics: “Mae’r bartneriaeth wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae’r prosiect wedi ennill nifer o wobrau yn rhan o Siemens Logistics; ac mae’n cael ei ddefnyddio gan wasanaethau ledled y byd. Mae nifer o randdeiliaid wedi elwa’n uniongyrchol.

Dywedodd yr Athrawon Prifysgol Maneesh Kumar a Pauline Found: “Mae’r cydweithio rhwng Siemens Logistics ac Ysgol Busnes Caerdydd wedi eu gosod gam ar y blaen o ran ymchwil rhagoriaeth weithredol. Mae wedi helpu’r Ysgol i sefydlu partneriaeth prosiect gref gyda Siemens Logistics UK, ac rydym yn ystyried interniaethau, doethuriaethau a chyfleoedd eraill ar gyfer y dyfodol. Erbyn hyn, mae’r astudiaeth achos yn cael ei defnyddio i addysgu carfanau MSC, MBA ac MBA Gweithredol – gyda phwyslais ar sut i ddefnyddio methodoleg TAR i ddatblygu atebion arloesol i broblemau yn y diwydiant.”

Arweiniodd y prosiect at waith rhyngddisgyblaethol gydag Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, yn gysylltiedig â defnyddio dysgu peiriannol, deallusrwydd artiffisial a dadansoddiad ‘data mawr’ sy’n gysylltiedig â meysydd awyr a systemau warysau ledled y byd.

Llwyddodd dau fyfyriwr Peirianneg i gynnal ymchwil MA yn seiliedig ar y broblem gyda chynnal a chadw meysydd awyr.

Mae Siemens Logistics yn archwilio potensial ar gyfer interniaethau, doethuriaethau a chyfleoedd eraill i gydweithio â Phrifysgol Caerdydd.

Mae hon yn un o chwe phartneriaeth a gydnabuwyd am effaith eu harloesedd gan Brifysgol Caerdydd yn 2020 - a chaiff ei harddangos yn rhan o waith cynyddol Caerdydd ym maes arloesedd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.