Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant i Brosiect Mentora Iaith

13 Gorffennaf 2020

Modern languages mentoring group
Modern languages mentoring group

Caiff partneriaeth sy'n dod â myfyrwyr prifysgol i'r ystafell ddosbarth i annog disgyblion ysgol i ddysgu iaith fodern dramor yn cael ei dathlu am ei hymagwedd arloesol at addysg.

Lansiwyd y Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern yn 2015, ac mae'n cyflwyno mentora wyneb yn wyneb mewn ysgolion uwchradd i gefnogi strategaeth Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru sy'n ceisio cynyddu'r nifer o bobl ifanc sy'n dewis astudio iaith dramor fodern ar lefel TGAU, Safon Uwch a thu hwnt.

Cafodd ei fabwysiadu'n rhyngwladol a'i addasu yn Lloegr i hyrwyddo buddion dysgu iaith i filoedd o ddisgyblion mewn dau o ranbarthau Lloegr yn 2018-20.

Ymunodd yr Athro Claire Gorrara a chydweithwyr o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd â phedwar consortiwm addysg Cymru, yn cynnwys Consortiwm Canolbarth y De - Cydwasanaeth Addysg i bum awdurdod lleol: Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg - i gyflenwi'r prosiect mentora.

Mae'n gosod israddedigion o Brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth mewn ysgolion lleol yng Nghymru i fentora disgyblion a'u hannog i ystyried dewis ieithoedd tramor modern ar lefel TGAU.

Profwyd bod y prosiect yn:

  • codi disgwyliadau, gwella cymhelliant a chryfhau dyfalbarhad a gwytnwch personol y disgyblion sy’n astudio ieithoedd modern
  • ehangu gorwelion disgyblion CA3 drwy amlygu'r cyfleoedd gyrfa a symudedd sydd ar gael i'r rhai hynny sydd â sgiliau iaith
  • cynnig profiad dosbarth i fyfyrwyr ieithioedd modern israddedig sy'n gobeithio dilyn cwrs TAR
  • cefnogi Cwricwlwm Newydd Cymru gydag ethos a methodoleg amlieithog.

Dywedodd yr Athro Gorrara: "Rydym ni'n hynod o falch fod ein model partneriaeth wedi derbyn cydnabyddiaeth am helpu disgyblion i ystyried eu lle mewn byd sy'n globaleiddio a'u cyflwyno i fanteision proffesiynol a rhyngbersonol dysgu ieithoedd, yn ogystal â dyhead i fynd i Brifysgol."

"Datblygwyd a chyflwynwyd iteriad digidol o'r prosiect yn 2017-18,” ychwanegodd yr Athro Gorrara. “Defnyddiodd Digi-Languages ryngweithio digidol i greu profiad digidol ac wyneb yn wyneb cyfunol. Sicrhaodd prosiect ieithoedd digidol cymharol gyllid gan yr Adran Addysg a buom yn cydweithio gyda Phrifysgol Sheffield a Phrifysgol Sheffield Hallam yn Ne Swydd Efrog a Phrifysgol Warwick a Phrifysgol Coventry yng Nghanolbarth Lloegr yn 2019-20. Cyflwynwyd y prosiect mewn 40 ysgol. Roedd y prosiect yn Lloegr yn cynnal ethos ac ymagwedd prosiect Cymru."

Dangosodd adborth o beilot Digi-Languages yn 2019 fod 43% o ddisgyblion a fentorwyd wedi dewis astudio iaith fodern i TGAU, yn erbyn cyfartaledd cenedlaethol o 18% yng Nghymru.

Dywedodd Clara Seery, Rheolwr Gyfarwyddwr Consortiwm Canolbarth y De: "Mae'r Consortiwm yn grymuso ysgolion i wella canlyniadau'r holl ddysgwyr. Mae'r Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern wedi chwarae rhan allweddol yn ehangu gorwelion a dyheadau dysgwyr.

"Mae'r cynllun mentora wedi amlygu'r sgiliau, cyfleoedd symudedd a manteision llesiant sydd ar gael i'r rheini sydd â sgiliau iaith. Mae'n helpu i godi disgwyliadau, gwella cymhelliant a chreu cysylltiadau cynaliadwy rhwng adrannau ieithoedd modern Addysg Uwch ac ysgolion uwchradd partner."

Ysbrydolodd y cynllun brosiect £200k a gyllidwyd gan CCAUC oedd yn cefnogi dewis Ffiseg i Safon Uwch yn 2018-20 a chwaer brosiect yn hyrwyddo dewis Cymraeg ar ôl TGAU.

Ac mae wedi creu diddordeb rhyngwladol. Ffurfiodd yr Ysgol Ieithoedd Modern bartneriaeth gyda Llywodraeth Ranbarthol Castilla y Leon yn Sbaen, a ddatblygwyd gyda dyfarniad gan Ganolfan Cefnogaeth Addysg ac Arloesedd Prifysgol Caerdydd ac oedd yn cynnwys Universidad Valladolid.

Mae'r Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern yn un o chwe phartneriaeth a gydnabuwyd am effaith eu harloesedd gan Brifysgol Caerdydd yn 2020 - a chaiff ei arddangos fel rhan o waith cynyddol Caerdydd ar arloesi'n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.