Ewch i’r prif gynnwys

2017

Mae adroddiad newydd yn argymell i brifysgolion barchu arbenigedd partneriaid yn y sectorau creadigol a diwylliannol, os ydynt am i ymchwil gydweithredol yn y celfyddydau a’r dyniaethau fod yn fwy gwerthfawr.

Roedd GW4 Bridging the Gap, a gefnogwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yn brosiect blwyddyn i ystyried yr ymchwil gydweithredol ym maes y celfyddydau a’r dyniaethau yn Ne-ddwyrain Cymru a De-orllewin Lloegr.

Canolbwyntiodd y prosiect ar y meysydd canlynol: yr economi greadigol, treftadaeth, ieithoedd modern a’r dyniaethau amgylcheddol, a rhannodd uwch gynrychiolwyr o sefydliadau gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, the Watershed ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru eu profiadau o weithio gyda’r byd academaidd.

Mae’r adroddiad terfynol yn cynnwys cyfres o argymhellion i brifysgolion ac arianwyr ymchwil gydweithredol yn y celfyddydau a’r dyniaethau. Anogir Prifysgolion i addasu i brosesau gweithio gwahanol wrth ffurfio partneriaethau â sefydliadau creadigol a diwylliannol, yn dibynnu ar eu maint a’u nodau. Anogir iddynt hefyd fynd i’r afael â’r bwlch cyfleoedd rhwng PhD neu ymchwil dechrau gyrfa a chontractau academaidd athrawol mwy sefydlog.

Gwahoddir arianwyr i roi “cynhyrchwyr trydydd parti” ar waith ar brosiectau i gefnogi partneriaethau’n well rhwng prifysgolion a sefydliadau anacademaidd, a chreu llwybrau gyrfa cydweithredol i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

Ymhlith yr argymhellion sy’n benodol i’r sector mae:

  • Yr economi greadigol: cyflwyno modelau ariannu ar gyfer ymchwil gydweithredol sy’n cyfuno grantiau byrdymor â chymorth hirdymor heb derfyn penodol iddo.
  • Treftadaeth: sicrhau bod cydweithredu’n symud y tu hwnt i berthnasau rhwng unigolion drwy gynnwys rhwydwaith ehangach o gydweithwyr mewn prosiectau partneriaeth.
  • Y dyniaethau amgylcheddol: dylai prifysgolion a phartneriaid anacademaidd geisio ymchwil a arweinir gan chwilfrydedd, yn hytrach na chan heriau’n unig, i fynd i’r afael â materion ynghyd.
  • Ieithoedd Modern: lansio cyfres o fforymau rhwydweithio rhanbarthol, gan ddwyn ynghyd ymchwilwyr prifysgol â phartneriaid posibl mewn sectorau gwahanol, gan gynnwys llywodraeth leol a sefydliadau anllywodraethol.

Dywedodd yr Athro Anthony Mandal, Athro mewn Diwylliant Print a Digidol, Prifysgol Caerdydd ac arweinydd economi greadigol GW4 Bridging the Gap: “Canfuom nifer o enghreifftiau calonogol o ryngweithio cyfoethog a chyd-fuddiol rhwng prifysgolion a’r diwydiannau creadigol. Clywsom hefyd fod gan brifysgolion rôl hanfodol i’w chwarae wrth gefnogi’r economi greadigol ac ysgogi potensial newydd. Yn yr un modd, gall prifysgolion gael budd o fewnwelediad ac arbenigedd ymarferwyr creadigol mewn ffyrdd sy’n gwella ansawdd ymchwil ac addysgu...”

Dywedodd yr Athro Hugh Brady, Cadeirydd Cyngor GW4 ac Is-Ganghellor a Llywydd, Prifysgol Bryste: “Mae’r rhanbarth cyfan yn gartref i ymchwil arloesol yn y celfyddydau a’r dyniaethau a threftadaeth ddiwylliannol fyd-enwog. Ein heconomi greadigol yw’r ail fwyaf yn y DU y tu ôl i Lundain. Fel y dengys yr adroddiad hwn, mae cyfuno’r ddwy elfen hyn yn gofyn am barch rhwng prifysgolion a phartneriaid anacademaidd ac agwedd sy’n agored at geisio ymchwil a arweinir gan chwilfrydedd. Rwy’n gobeithio y bydd Bridging the Gap yn dempled arfer gorau ar gyfer cydweithredu ar draws y DU ac y bydd yn arwain at bartneriaethau gwell rhwng ymchwilwyr a sefydliadau creadigol a diwylliannol yma yn y rhanbarth.”

Yng Nghaerdydd, mae Caerdydd Creadigol yn enghraifft o weithio mewn partneriaeth yn yr economi greadigol a diwylliannol. Mae Caerdydd Creadigol yn rhwydwaith sy'n creu cysylltiadau rhwng pobl sy'n gweithio mewn unrhyw sefydliad, busnes neu swydd greadigol yn rhanbarth Caerdydd. Ein diben yw gwneud Caerdydd a’i rhanbarth mor greadigol a phosibl drwy alluogi partneriaethau, amlygu cyfleoedd ac annog arloesedd. Cefnogir Caerdydd Creadigol gan Dîm Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â’r aelodau a’i sefydlodd, sef Canolfan Mileniwm Cymru, BBC Cymru Wales a Chyngor Caerdydd.

Agorwyd campfa newydd, cwbl fodern Prifysgol Caerdydd gan y Crysau Duon, a buont yn hyfforddi yno wedyn cyn eu gêm yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd.

Mae Cymru'n croesawu Seland Newydd ddydd Sadwrn 25 Tachwedd i Stadiwm y Principality – y diweddaraf yng ngemau cyfres yr hydref eleni.

Mae Cymru eisoes wedi chwarae Awstralia a Georgia, gyda De Affrica yn ymweld ar 2 Rhagfyr yn dilyn y gêm yn erbyn y Crysau Duon – gêm y bu cryn ddisgwyl amdani.

Mae pob un o’r pedwar tîm sy’n ymweld yn paratoi ar gyfer eu gemau yn y Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol wedi’i hailwampio. Ailagorwyd y Ganolfan ar Ffordd Senghennydd mewn pryd ar gyfer tymor 2017/18 y Brifysgol.

Agorwyd y cyfleuster wedi’i adnewyddu yn swyddogol gan y Crysau Duon yn ystod sesiwn hyfforddi, a fynychwyd gan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan.

Yn ôl yr Athro Riordan: “Mae'n fraint cael un o'r timau chwaraeon gorau yn y byd yn agor ein Canolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol ar ei newydd wedd, cyn ei defnyddio at ddibenion hyfforddi...”

Mae gan y Brifysgol berthynas hirdymor â thimau teithiol sy'n ymweld â’r ddinas i chwarae yn erbyn Cymru yn ystod cyfres yr hydref.

Mae'r Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol yn cynnig tri llawr ag offer cardiofasgwlaidd, offer ymwrthedd ac offer sy’n seiliedig ar bwysau, gan gynnwys llawr uchaf sydd bellach yn unswydd ar gyfer hyfforddi ym meysydd cryfder a datblygiad corfforol.

Mae’r cyfleuster ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 06:45 a 21:00, a rhwng 10:00 ac 18:00 ar y penwythnos.

A social entrepreneur, the MD of an engineering services company, an award-winning ‘mumpreneur’, the founder of Wales’ leading training provider and the owners of an iconic Welsh woollen mill are all set to join Cardiff Business School as it launches its Public Value Entrepreneurs in Residence (PVEiR) Scheme.

The six successful PVEiRs - Yaina Samuels,NuHi Training, Allan Meek, SCS Group, Zoë-Lisa Blackler, The Blackler Group, Andrew Cooksley, ACT Training and Eifion and Amanda Griffiths, Melin Tregwynt -were selected from a competitive application process to help enhance the School’s capacity to support entrepreneurial and innovative thinking.

Professor Martin Kitchener, Dean of Cardiff Business School, said: “I’m very much looking forward to welcoming our inaugural entrepreneurs in residence to the School on 5 December 2017...”

“I am eager to introduce the entrepreneurs to our progressive public value mission and anticipate opportunities to hear their advice on its development.”

New business ideas

Working with the School’s ambitious students and graduates, they will help nurture promising new business ideas through the exchange of essential practical enterprise skills and experience.

Eifion Griffiths said: “We're excited about the opportunity to engage with young enthusiastic students from all over and benefit from their insights and different world views...”

Andrew Cooksley added: “I want to engage Cardiff’s Business students and hopefully inspire them to realise that life as an entrepreneur is a brilliant one.

“I’m also looking forward to bringing highly successful entrepreneurs to the school to share their stories with the students.”

The six business leaders will also have the opportunity to work alongside the School’s academics in fields like, innovation, entrepreneurship, strategic business leadership and social enterprise.

Yaina Samuels said: “Not only do I get to share my skills as a social entrepreneur, but the scheme also provides me with an academic platform of support which I can use to build up and promote the ‘Buy Social’ initiative...”

Knowledge exchange

The PVEiRs will contribute to knowledge exchange and co-create new concepts and ideas at the cutting edge of business education, research, innovation and engagement.

Allan Meek said: “I’m particularly interested in psychology and employee engagement and hope to get involved in research in these areas should the opportunity arise.”

Learn more about the diverse range of experience and expertise of our PVEiRs.

Mae dyfeisiwr Prydeinig ifanc, Adam Dixon, wedi ennill gwobr Pencampwr Ifanc y Ddaear, a gynhelir am y tro cyntaf, ar gyfer ei syniad garddwriaethol arloesol i fynd i'r afael ag anniogelwch bwyd a cholli cynefinoedd.

Mae Adam, 25, a raddiodd o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd yn 2015, wedi datblygu Phytoponics – system dyfu hydroponig sy'n cefnogi twf planhigion gan ddefnyddio 10 gwaith llai o dir a dŵr na dulliau garddwriaeth

O ganlyniad i'w lwyddiant bydd yn cael £11,300 ($15,000) o gyllid sbarduno a mentoriaeth bwrpasol i'w helpu i ddatblygu ei syniad, sydd wedi cael ei ddisgrifio'n 'jacuzzi mewn bag'.

Mae Dixon, 25, yn un o chwe enillydd ifanc – pob un yn cynrychioli un rhan o'r byd. Cyflwynir y wobr gan Raglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig, ac mae wedi'i noddi gan Covestro, un o gwmnïau polymer mwyaf blaenllaw y byd.

Ei nod yw adnabod, cefnogi a dathlu unigolion rhagorol rhwng 18 a 30 oed sydd â syniadau mawr i amddiffyn neu wella'r amgylchedd.

Mae technoleg Phytoponics yn galluogi cnydau bwyd i dyfu mewn dŵr gyda ffilm polymer y gellir ei ailgylchu 100%, gan wella effeithiolrwydd dyfrhau a lleihau faint o dir sydd ei angen ar gyfer garddwriaeth.

Mewn dim ond un flwyddyn, mae Dixon wedi adeiladu ei gwmni hyd at $2.6m ac mae'n cyflenwi'r cynhyrchydd salad mwyaf namyn un yn Ewrop.

https://www.youtube.com/watch?v=Y7ReU6dtJNM

Dywedodd Adam: "Ffactor ysgogol pwysig i mi oedd gweld faint o ddatgoedwigo a faint o gynefinoedd sy'n cael eu colli ledled y byd i fwydo ein poblogaeth gynyddol. Mae'n drist dros ben ein bod ni fel rhywogaeth wedi gorfod defnyddio hanner ein planed at ein defnydd ein hunain. Mae cael cydnabyddiaeth a chefnogaeth gwobr Pencampwr Ifanc y Ddaear yn hwb enfawr i mi, a bydd yn fy helpu i gyflawni fy ngweledigaeth ar gyfer cynaliadwyedd a diogelwch bwyd."

Dechreuodd ei ddiddordeb mewn garddio pan ymunodd â'i fam i arddio yn yr iard gefn, ac yna dechreuodd ymddiddori mewn twf planhigion, a datblygodd ei awydd i arloesi. Mae dyfeisiad cost-effeithiol a hawdd ei ddefnyddio Dixon bellach yn cael ei dreialu gan Raglen Bwyd y Byd mewn gwersylloedd ffoaduriaid i gefnogi'r cyflenwad o gynnyrch ffres i filoedd o bobl mewn lleoliadau sy'n aml yn anial ac yn anamaethadwy.

Am y tro mae Dixon yn canolbwyntio ar ddylunio datrysiadau hydroponig ar gyfer tai gwyrdd, lle mae'r rhan fwyaf o gynnyrch gwyrdd yr ydym yn ei fwyta yn cael ei dyfu, ynghyd â chreu ffermydd effeithiol a chynhyrchiol ar gyrion dinasoedd, fel bod modd cyflenwi'r rhan fwyaf o galorïau sydd eu hangen ar boblogaeth dinas yn lleol. Ei weledigaeth yn y pen draw, fodd bynnag, yw y bydd y byd yn defnyddio dim ond 10 y cant o'i dir ar gyfer amaethyddiaeth erbyn 2050.

"O blith syniadau fel ffasiwn gynaliadwy yng Nghanada neu ddull o hybu cnydau bwyd yn Kiribati, mae'n bleser gennym gyhoeddi Pencampwyr Ifanc y Ddaear am y tro cyntaf," meddai pennaeth Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig Erik Solheim.

"Mae'r arloesedd ac uchelgais ymhlith yr enillwyr yn gwbl ragorol, ac yn profi bod angen i ni barhau i gefnogi cenhedlaeth iau'r byd i gael yr atebion sydd eu hangen arnom i sicrhau dyfodol cynaliadwy."

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi canfod ffordd o hybu gallu celloedd-T y system imiwnedd i ddinistrio celloedd canser, gan gynnig gobaith newydd yn y frwydr yn erbyn ystod eang o ganserau.

Gan ddefnyddio CRISPR i olygu genomau, aeth y tîm gam ymhellach wrth ddefnyddio peirianneg enetig ar gyfer celloedd-T, drwy gael gwared ar eu derbynyddion penodol nad ydynt yn adnabod celloedd canser, a'u disodli gyda rhai a fyddai'n adnabod y celloedd hynny a’u dinistrio.

Yn ôl Dr Mateusz Legut o Brifysgol Caerdydd, a arweiniodd yr astudiaeth wrth gynnal ymchwil – a ariannwyd gan Ymchwil Canser y DU – yn labordy’r Athro Andrew Sewell: “Hyd yn hyn, roedd gan gelloedd-T y defnyddiwyd peirianneg eneteg arnynt i’w galluogi i frwydro yn erbyn canser, ddau fath o dderbynyddion – un therapiwtig a ychwanegwyd yn y labordy, a’r un oedd yn bodoli’n naturiol ynddynt eisoes. Gan fod ‘lle’ yn brin mewn cell ar gyfer derbynyddion, mae’n rhaid i’r rhai sy’n benodol ar gyfer brwydro canser gystadlu gyda derbynyddion y gell ei hun, i roi eu swyddogaeth ar waith. Yn amlach na pheidio, derbynyddion y gell ei hun yw enillwyr y gystadleuaeth honno, a phrin iawn yw’r ‘lle’ a adewir ar gyfer y derbynyddion newydd a gyflwynir i frwydro canser. O ganlyniad, nid yw’r dechnoleg bresennol yn gwireddu ei photensial llawn i ddinistrio canser.

“Yn y celloedd-T a grëwyd gennym drwy gyfrwng dull golygu genom, nid oes unrhyw un o’u derbynyddion celloedd-T eu hunain ar ôl ynddynt, ac felly’r unig dderbynnydd y gallant eu defnyddio yw’r un sy’n benodol ar gyfer brwydro canser. O ganlyniad, gall y celloedd hyn fod fil gwaith yn well wrth weld a lladd canser na’r celloedd a baratowyd gan ddefnyddio'r dull presennol.”

Mae celloedd-T yn rhan o'r system imiwnedd sydd fel arfer yn ein helpu i frwydro yn erbyn heintiau bacteriol a firaol, fel feirws y ffliw. Yn ogystal, mae gan rai celloedd-T y gallu i ymosod ar gelloedd canser. Mae cynyddu a harneisio gweithgarwch gwrth-ganser celloedd-T y corff ei hun wedi arwain at datblygu imiwnotherapïau – fel y'i gelwir – sydd bellach yn trawsnewid maes triniaeth canser ac hyd yn oed yn cynnig gobaith i gleifion sydd wrth gam terfynol y clefyd.

Artist's impression of DNA

Ym marn y tîm, o fewn amser bydd gwelliannau newydd mewn technoleg golygu genynnau yn peri chwyldro ym maes imiwnotherapi canser, gan wneud y triniaethau – na welwyd mo’u tebyg o’r blaen, o ran eu heffeithlonrwydd – yn gymwys ar gyfer carfan ehangach o gleifion sy’n dioddef o wahanol mathau o’r clefyd.

Ychwanegodd Yr Athro Oliver Ottmann, Pennaeth Haematoleg ym Mhrifysgol Caerdydd a chyd-arweinydd Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd (ECMC), sydd hefyd yn gyd-awdur ar yr astudiaeth: “Mae imiwnotherapi – y dull o harneisio celloedd heintrydd y corff ei hun – wedi tyfu i fod y driniaeth gryfaf a mwyaf addawol ar gyfer ystod o ganserau, ac yn un o’r adegau mwyaf cofiadwy o dorri tir newydd ym maes trin canser.

“Rwyf o’r farn y bydd ein dull gwell o greu celloedd-T yn benodol ar gyfer brwydro yn erbyn canser yn llywio cenhedlaeth newydd o dreialon clinigol, ac y caiff ei ddefnyddio gan ymchwilwyr mewn labordai i ddarganfod derbynyddion celloedd-T newydd sy’n benodol ar gyfer brwydro canser, a thargedau newydd ar gyfer therapi canser.”

Cafodd yr ymchwil ei chynnal mewn labordy ac nid yw wedi bod yn destun treialon clinigol hyd yma. Ymchwil Canser y DU a Wellcome wnaeth ariannu’r fenter.

Mae’r papur ‘CRISPR-mediated TCR replacement generates superior anticancer transgenic T-cells’ wedi’i gyhoeddi yng nghyfnodolyn Blood.

Mae academyddion o Brifysgol Caerdydd yn rhan o gonsortiwm rhyngwladol o ymchwilwyr o bob rhan o Ewrop fydd yn derbyn €4.7m o gyllid i astudio trawsnewid digidol yn y sector cyhoeddus.

Bydd y prosiect, Trawsnewid yn Llywodraethau Agored, Arloesol a Chydweithredol (TROPICPO) sy'n rhan o raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020, yn edrych sut mae llywodraethau'n newid i hyrwyddo cydweithio wrth gynllunio polisi a darparu gwasanaethau.

Gyda phwyslais arbennig ar dechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), bydd yr ymchwilwyr yn cymharu fframweithiau llywodraethol cyfredol, ac agweddau biwrocratiaid, i ganfod y ffactorau sy'n hybu cydweithio yn ogystal â'r rhwystrau sy'n ei atal.

Mae'r Athro James Downe o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a'r Athro Kevin Holland o Ysgol Busnes Caerdydd yn cymryd rhan yn y prosiect ar ran Prifysgol Caerdydd. Byddant yn hawlio €412,500 o'r cyfanswm.

Daw'r prosiect a thîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr mewn gweinyddiaeth gyhoeddus, rheolaeth gyhoeddus, gwyddor wleidyddol, cymdeithaseg, y gyfraith a pheirianneg ddigidol at ei gilydd o 12 o brifysgolion mewn 10 gwlad Ewropeaidd. Bydd yn rhedeg tan fis Mai 2021 a chaiff ei gydlynu gan Brifysgol Bergen.

Y 12 partner yn y prosiect yw: Prifysgol Bergen (Norwy), Prifysgol Caerdydd (y DU), CNRS (Pacte) - Sciences Po Grenoble (Ffrainc), Erasmus Universiteit Rotterdam (yr Iseldiroedd), Ysgol Llywodraethiant Hertie (yr Almaen), Katholieke Universiteit Leuven (Gwlad Belg), Prifysgol Canolbarth Ewrop (Hwngari), Roskilde Universitet (Denmarc), Tallinna Tehnikaulikool (Estonia), Universidad de Zaragoza (Sbaen), Universität Potsdam (yr Almaen), ac Universiteit Antwerpen (Gwlad Belg).

Dechreuodd Horizon 2020 ar 1 Ionawr 2014 a bydd yn rhedeg am saith mlynedd. Gyda chyllideb o ychydig o dan €80 biliwn, dyma'r rhaglen cyllido ymchwil ac arloesi fwyaf erioed yn yr UE.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi’i dewis yn bartner ymchwil mewn menter gwerth £4.85m er mwyn helpu i wella bywydau plant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Mae’r Adran Addysg wedi enwi Canolfan Datblygu Ymchwil Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant (CASCADE) – sy’n rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol – fel ei bartner ymchwil ar gyfer y Ganolfan Beth sy’n Gweithio ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Blant.

Bydd y Ganolfan newydd yn datblygu sail dystiolaethol gref ar ymyriadau effeithiol a systemau ymarfer ym maes gofal cymdeithasol i blant, gan edrych ar gefnogaeth i blant o'r pwynt cyfeirio hyd at fabwysiadu, cymorth wrth adael gofal a help cynnar wedi'i dargedu, ymhlith meysydd eraill.

Bydd yn dwyn ynghyd arbenigwyr blaenllaw o Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth y Brifysgol er mwyn gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), y Ganolfan Treialon Ymchwil, yr Uned Defnydd Systematig o Dystiolaeth Ymchwil a’r Ysgol Meddygaeth. Bydd Prifysgol Warwick yn darparu arbenigedd mewn gwerthusiad economaidd.

Yn ôl yr Athro Donald Forrester o Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Ymchwil newydd y Ganolfan Beth sy’n Gweithio: "Pleser o’r mwyaf yw cael cymryd rhan yn y fenter bwysig hon..."

Bydd y Ganolfan Beth sy’n Gweithio newydd yn galluogi gwyddonwyr cymdeithasol blaenllaw i werthuso argaeledd ac ansawdd tystiolaeth sy’n sail i ymyriadau polisi cyhoeddus; cymharu effeithlonrwydd dulliau gweithredu newydd ac ymarfer arferol; bydd hefyd yn cynghori’r rheini sy’n comisiynu ac yn ymgymryd ag ymyriadau i sicrhau y gellir gwerthuso eu gwaith yn effeithiol.

Mae'n rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth y DU i ddatblygu arfer gwell ym maes gofal cymdeithasol i blant, gyda chefnogaeth £200 miliwn yn y Rhaglen Arloesedd.

Yn ôl y Gweinidog dros Blant a Theuluoedd, Robert Goodwill,: “Mae pob plentyn yn haeddu’r gefnogaeth a’r gofal gorau posibl. Dyma pam yr ydym yn buddsoddi £200 miliwn yn y Rhaglen Arloesedd er mwyn helpu sefydliadau i yrru gwelliannau ym maes gofal cymdeithasol i blant.

"Bydd gan ganolfan What Works rôl bwysig wrth ddatblygu tystiolaeth er mwyn gwella deilliannau i blant yn ogystal â darparu arloesedd cost-effeithiol. Rydw i wrth fy modd bod Prifysgol Caerdydd wedi cael ei dewis ar gyfer y bartneriaeth ymchwil hon..."

Nod y Ganolfan – sydd wrth y camau cyntaf ar hyn o bryd – yw tyfu i fod yn sefydliad cwbl annibynnol erbyn haf 2020.

Mae’r Ganolfan Beth sy’n Gweithio bresennol yn cynnwys y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), y Sefydliad Gwaddol Addysg (EEF); y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar; Canolfan Beth sy’n Gweithio er Gostwng Troseddu; a’r Ganolfan er Heneiddio’n Well.

Bydd y Brifysgol yn gweithio gyda Nesta, y dyfarnwyd y cytundeb iddi i ddarparu canolfan Beth sy’n Gweithio fis diwethaf.

Bydd benthycwyr tai a llunwyr polisïau adeiladu yn dod ynghyd ym Mhrifysgol Caerdydd yr wythnos nesaf i ystyried ffyrdd o sicrhau bod tai sy’n niwtral o ran carbon yn gallu dod yn safon yn y diwydiant.

Bydd ‘Defnydd o Ynni yn yr Amgylchedd Adeiledig’, a drefnwyd gan Rwydwaith Arloesedd y Brifysgol, yn ystyried materion ariannu, rheoliadau a’r ochr ymarferol o adeiladu cartrefi sy’n niwtral o ran carbon neu’n garbon bositif. Bydd yn archwilio a all datblygiadau arloesol fel Tŷ SOLCER y Brifysgol - tŷ carbon bositif cyntaf y DU - gael eu hail-greu ar raddfa ddiwydiannol.

Mae'r Athro Phil Jones o Brifysgol Caerdydd a'i dîm yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi datblygu Tŷ SOLCER, sef y tŷ cost isel cyntaf sy’n cynhyrchu mwy o ynni na'r hyn mae'n ei ddefnyddio. Mae’r tŷ’n gallu allforio mwy o ynni i’r grid cenedlaethol nag y mae’n ei ddefnyddio.

Dywedodd yr Athro Jones: "Mae ein gwaith gyda Tŷ SOLCER yn dangos bod modd cyrraedd safon uchel o ran perfformiad ynni, a hynny am bris fforddiadwy..."

Fis diwethaf, cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig fod crynodiadau CO2 atmosfferig wedi cynyddu’n gynt yn 2016 nag erioed o’r blaen, ac wedi cyrraedd y lefel uchaf mewn 800,000 o flynyddoedd. Yn y DU, mae’r ynni a ddefnyddir mewn tai yn gyfrifol am 27% o’r allyriadau carbon, ac mae hyn yn her sylweddol i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008. Yn ôl y Ddeddf, mae gofyn lleihad o 80% mewn allyriadau carbon erbyn 2050.

Ochr yn ochr â’r heriau amgylcheddol mae problemau o ran cyflenwi tai. Yn 2015, amcangyfrifodd Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr y byddai angen i Gymru adeiladu 14,000 o dai bob blwyddyn erbyn diwedd y degawd. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed o 20,000.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Lesley Griffiths: "Mae ein cymdeithas yn wynebu dwy her: hinsawdd sy’n newid, a phrinder tai. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y fframwaith rheoleiddio ar gyfer adeiladu yn ystyried y newid yn yr hinsawdd mewn modd sy’n cydnabod arloesedd wrth ddylunio, meddwl a datblygu cynnyrch a deunyddiau..."

Yn ddiweddar, cytunodd Cymdeithas Adeiladu Principality i gynnig £50m mewn benthyciadau i gymdeithasau tai yng Nghymru, fydd yn cael ei ddefnyddio i adeiladu tua 13,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021.

Dywedodd Julie Ann Haines, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid yng Nghymdeithas Adeiladu Principality: “Mae ariannu ac adeiladu tai mwy cynaliadwy yn hanfodol ar gyfer ein dyfodol. Mae’n rhaid i ni beidio â cheisio mynd i’r afael â’r argyfwng tai heb roi’r mesurau diogelu priodol ar waith ar gyfer ein hamgylchedd.”

Mae’r Athro Jones hefyd wedi tynnu sylw at botensial Tŷ SOLCER i dynnu cartrefi allan o dlodi ynni, gan ychwanegu: “Mae costau byw yn cynyddu, ond mae cyflogau go iawn wedi aros yn eu hunfan, sy’n golygu bod gwariant yn benderfyniad anodd i gartrefi. Byddai lleihau biliau ynni yn golygu y byddai gennym fwy o arian i’w wario ar bethau angenrheidiol eraill, gan helpu teuluoedd i ddianc tlodi ynni.”

Mae Rhwydwaith Arloesedd y Brifysgol wedi hyrwyddo rhyngweithio rhwng y Brifysgol a byd busnes ers dros ddau ddegawd.

Mae Dr Maggy Beukes-Amiss o Brifysgol Namibia (UNAM) yn ymgymryd â chenhadaeth i’w gwneud mor hygyrch â phosibl i ddysgu.

Mae hi wedi treulio llawer o’i gyrfa’n dymchwel rhwystrau gan ddefnyddio technoleg i’w lawn botensial.

Mae hi'n frwdfrydig wrth egluro effaith bosibl y cynlluniau ar gyfer Canolfan eDdysgu uchelgeisiol ac unigryw, ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd.

Mae’r cynnig ynghylch llwyfan eDdysgu ar y cyd yn rhan o’r prosiect Phoenix, partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd ac UNAM i fynd i’r afael â thlodi, hyrwyddo iechyd da a chefnogi addysg yn Namibia.

Gan gynnig potensial mawr fel partneriaeth rhwng prifysgolion o Affrica ac Ewrop, byddai staff, myfyrwyr a’r cyhoedd yn buddio o gael darpariaeth werthfawr o adnoddau addysgu a hyfforddi ymarferol.

Yn ôl Dr Beukes-Amiss, Cyfarwyddwr y Ganolfan Dysgu Agored, Dysgu o Bell ac eDdysgu yn UNAM, byddai’r llwyfan yn gwella effaith – sydd eisoes yn sylweddol – y prosiect Phoenix “hollol wych”.

“Mae’r prosiect Phoenix wedi gwneud gwahaniaeth ddylanwadol enfawr yn fy marn i, o sawl cyfeiriad”, meddai.

“Hyfforddir nyrsys ym maes bydwreigiaeth ac maent wedi ennill sgiliau newydd, caiff swyddogion yr heddlu eu hyfforddi i ddefnyddio’r pecynnau trawma newydd a ddatblygwyd o dan gymhelliad y prosiect Phoenix ac mae pobl ifanc wedi mynd i wersyll y Brifysgol (UniCamp). Yn ogystal, rhaid dwyn i ystyriaeth y prosiect amlieithog, yr isadeiledd, yr is-brosiectau seilwaith, sydd ond yn enwi ychydig, ac maent i gyd yn cael cryn argraff.

“Mae o fudd aruthrol i'r wlad – nawr ac yn y dyfodol.”

Ar hyn o bryd, does dim pwynt canolog at ddibenion rhannu adnoddau a grëwyd ar gyfer y gwaith trawsnewidiol hwn, ond mae hynny ar fin newid gyda chynlluniau ar gyfer yr e-blatfform newydd.

Mae’r pwynt canolog newydd yn debygol o gynnwys fideo, sain, cyrsiau ar-lein, adnoddau addysgol, cyflwyniadau a chyrsiau DPP drwy gyfrwng dull ‘fesul cam’, sydd wedi’i osod ynghyd ar gyfer gwaith y prosiect Phoenix hyd yn hyn.

Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant a datblygu mewn meysydd fel anesthesia, mathemateg, sgiliau ymatebwr cyntaf, nyrsio, rhaglennu meddalwedd, sgiliau astudio, hyder ac adeiladu tîm ar gyfer pobl ifanc, a llawer mwy ar ben hynny.

Bydd ganddo nodweddion mewnol sy’n hygyrch i fyfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd ac UNAM, yn ogystal â nodweddion allanol â’r potensial o gael eu defnyddio gan unrhyw un.

Yn ôl Dr Beukes-Amiss, sydd newydd dreulio wythnos yn llunio cynlluniau gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd: “Cefais bum niwrnod eithriadol – roedd yn llawn dop ond ni allaf ddechrau dweud wrthych pa mor wych ydoedd.

“Ym mhob un cyfarfod un rydw i wedi dysgu ffordd wahanol o ddefnyddio technoleg, hyd yn oed y pethau rwyf eisoes yn gyfarwydd â hwy, a’n gyson wrthi’n edrych am beth allaf ei ddychwelyd gyda mi er budd y tîm CODel cyfan.

“Rydym eisiau creu man cyffredin, lle gellir arddangos pob un o'r prosiectau dylanwadol hyn. Adnoddau, fideos – beth bynnag aeth i mewn iddo, caiff ei roi ar y llwyfan hwn.

“Ar gyfer y rhan allanol, rydym yn meddwl am gyrsiau CPD, er enghraifft, cyrsiau gallu digidol – gall adnoddau fod yno ar gyfer unrhyw ddinesydd, a bydd gan bobl y gallu i uwchsgilio eu hunain. Bydd yn adnodd gwerthfawr o ran cynnwys a deunydd.”

Mae Prosiect Phoenix yn rhan o fenter Trawsnewid Cymunedau Prifysgol Caerdydd, sy'n ceisio gwella iechyd, cyfoeth a lles pobl yng nghymunedau Cymru a thu hwnt.

Fe’i lansiwyd yn 2014 ac mae’n barod yn cael argraff fawr yn Namibia, lle mae pawb o Weinidogion y Llywodraeth i arweinwyr Addysg Uwch wedi ei ganmol.

Byddai’r llwyfan e-ddysgu newydd yn caniatáu i fwy o bobl fuddio o’i waith, o bosibl o amgylch y byd.

“Rydym yn rhan o genhedlaeth o ddysgu gydol oes. Bydd pobl eisiau dysgu a datblygu ar bob adeg,” meddai Dr Beukes-Amiss, sydd â’i PhD mewn Addysg sy’n integreiddio cyfrifiaduron (CiE).

“Ni fydd gan bobl amser i ddysgu heblaw eu bod yn gallu gwneud hynny mewn modd hyblyg, drwy gyfrwng eDdysgu, lle mae cyrsiau ar-lein cwbl ddatblygedig fydd fwyaf cymwys, ond drwy ddilyn trefn gymysg yn bennaf. Bydd hyn o fudd i bawb, unwaith y daw’n weladwy.

“Mae'r manteision yn ddiddiwedd, boed hynny ar gyfer staff a myfyrwyr yn Namibia, yng Nghaerdydd, neu’r cyhoedd.”

Go debyg bod yn dal i fod llawer o waith o flaen Dr Bekes-Amiss ar eu cenhadaeth broffesiynol i wneud addysg yn fwy hyddysg, ond byddai hwn yn ddiamheuol yn gam sylweddol.

Gall y dull cyffredin o reoli glwcos yn ddwys i gyflawni targedau siwgr gwaed isel mewn diabetes math 2 gynyddu'r perygl o farwolaeth, yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd.

Gan edrych ar ddata rheolaidd o'r DU a gasglwyd rhwng 2004 a 2013, canfu ymchwilwyr fod lefelau is o haemoglobin glycad yn gysylltiedig â pherygl uwch o farwolaeth, o'u cymharu â lefelau cymedrol, yn enwedig o'u cyfuno â thriniaethau dwys a allai achosi hypoglycaemia.

Dywedodd yr Athro Craig Currie o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae canllawiau triniaeth yn gyffredinol yn argymell strategaethau therapiwtig sy'n anelu at lefelau isel o glwcos, ar y ddealltwriaeth ei fod yn lleihau'r risg o gymhlethdodau macrofasgwlaidd fel clefyd y rhydweli coronaidd a strôc.

"Yn groes i'r gred hon, mae ein canfyddiadau ni'n argyhoeddi bod cyswllt gyda chynnydd mewn perygl o farwolaeth a'r hyn a ystyrir yn rheolaeth glwcos da, neu HbA1c isel."

Mae canfyddiadau'r astudiaeth hefyd yn awgrymu nad yw hap dreialon nac astudiaethau arsylwi wedi gallu dangos patrwm cyson o gyswllt rhwng lefelau o reolaeth glwcos a chanlyniad anffafriol, heb unrhyw esboniad pam. Felly, mae'r targed gorau ar gyfer rheolaeth glwcos mewn cleifion gyda diabetes math 2 yn parhau'n ansicr.

Ymhellach, roedd y patrwm marwoldeb mewn perthynas â rheoli glwcos yn gwahaniaethu mewn perthynas â gwahanol fathau o gyffuriau diabetes. Y pryder mwyaf oedd cynnydd mewn perygl marwolaeth i'r rheini oedd â 'rheolaeth dda' gyda diabetes math 2 oedd yn cael eu trin gydag inswlin a chyffuriau lleihau glwcos eraill sy'n achosi hypoglycaemia.

Dywedodd yr Athro Currie: "Mae cwestiynau difrifol yn parhau am ddiogelwch rhai cyffuriau sy'n lleihau glwcos, gyda thystiolaeth wyddonol a safbwyntiau croes yn cael eu hanwybyddu i raddau helaeth."

Cyhoeddir yr astudiaeth ‘The impact of differing glucose-lowering regimens on the pattern of association between glucose control and survival’ yn Diabetes, Obesity and Metabolism.

Mae’r Athro Currie yn ychwanegu: “Ni ddylai cleifion sy’n cael eu trin gydag inswlin ar hyn o bryd roi'r gorau i gymryd eu meddyginiaethau ar unrhyw gyfrif, ac mae'n bwysig pwysleisio bod yr astudiaeth hon yn ymwneud â diabetes math 2 yn unig.

“Mae amgylchiadau unigol pob claf yn wahanol ac mae penderfyniadau ynghylch triniaeth yn cael eu rheoli gan eu clinigwr, sy’n dwyn eu holl hanes meddygol i ystyriaeth.

“Ni fydd y mwyafrif helaeth o bobl sy'n cymryd inswlin yn cael unrhyw effeithiau negyddol ac mae'n parhau i fod yn driniaeth ddibynadwy a chyffredin ledled y byd. Yr unig beth y mae canlyniadau ein hastudiaeth yn ei awgrymu yw bod angen mwy o ymchwil i bennu’r targedau gorau posibl at ddibenion rheoli glwcos mewn cleifion.

“Dylai unrhyw un sy'n pryderu siarad â’u meddyg teulu yn gyntaf cyn gwneud unrhyw newidiadau i’r modd y rheolir eu cyflwr.”