Ewch i’r prif gynnwys

Rhaid i Brifysgolion weithio’n fwy hyblyg i ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau fod yn fwy gwerthfawr

22 Tachwedd 2017

Olion

Mae adroddiad newydd yn argymell i brifysgolion barchu arbenigedd partneriaid yn y sectorau creadigol a diwylliannol, os ydynt am i ymchwil gydweithredol yn y celfyddydau a’r dyniaethau fod yn fwy gwerthfawr.

Roedd GW4 Bridging the Gap, a gefnogwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yn brosiect blwyddyn i ystyried yr ymchwil gydweithredol ym maes y celfyddydau a’r dyniaethau yn Ne-ddwyrain Cymru a De-orllewin Lloegr.

Canolbwyntiodd y prosiect ar y meysydd canlynol: yr economi greadigol, treftadaeth, ieithoedd modern a’r dyniaethau amgylcheddol, a rhannodd uwch gynrychiolwyr o sefydliadau gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, the Watershed ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru eu profiadau o weithio gyda’r byd academaidd.

Mae’r adroddiad terfynol yn cynnwys cyfres o argymhellion i brifysgolion ac arianwyr ymchwil gydweithredol yn y celfyddydau a’r dyniaethau. Anogir Prifysgolion i addasu i brosesau gweithio gwahanol wrth ffurfio partneriaethau â sefydliadau creadigol a diwylliannol, yn dibynnu ar eu maint a’u nodau. Anogir iddynt hefyd fynd i’r afael â’r bwlch cyfleoedd rhwng PhD neu ymchwil dechrau gyrfa a chontractau academaidd athrawol mwy sefydlog.

Gwahoddir arianwyr i roi “cynhyrchwyr trydydd parti” ar waith ar brosiectau i gefnogi partneriaethau’n well rhwng prifysgolion a sefydliadau anacademaidd, a chreu llwybrau gyrfa cydweithredol i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

Ymhlith yr argymhellion sy’n benodol i’r sector mae:

  • Yr economi greadigol: cyflwyno modelau ariannu ar gyfer ymchwil gydweithredol sy’n cyfuno grantiau byrdymor â chymorth hirdymor heb derfyn penodol iddo.
  • Treftadaeth: sicrhau bod cydweithredu’n symud y tu hwnt i berthnasau rhwng unigolion drwy gynnwys rhwydwaith ehangach o gydweithwyr mewn prosiectau partneriaeth.
  • Y dyniaethau amgylcheddol: dylai prifysgolion a phartneriaid anacademaidd geisio ymchwil a arweinir gan chwilfrydedd, yn hytrach na chan heriau’n unig, i fynd i’r afael â materion ynghyd.
  • Ieithoedd Modern: lansio cyfres o fforymau rhwydweithio rhanbarthol, gan ddwyn ynghyd ymchwilwyr prifysgol â phartneriaid posibl mewn sectorau gwahanol, gan gynnwys llywodraeth leol a sefydliadau anllywodraethol.

Dywedodd yr Athro Anthony Mandal, Athro mewn Diwylliant Print a Digidol, Prifysgol Caerdydd ac arweinydd economi greadigol GW4 Bridging the Gap: “Canfuom nifer o enghreifftiau calonogol o ryngweithio cyfoethog a chyd-fuddiol rhwng prifysgolion a’r diwydiannau creadigol. Clywsom hefyd fod gan brifysgolion rôl hanfodol i’w chwarae wrth gefnogi’r economi greadigol ac ysgogi potensial newydd. Yn yr un modd, gall prifysgolion gael budd o fewnwelediad ac arbenigedd ymarferwyr creadigol mewn ffyrdd sy’n gwella ansawdd ymchwil ac addysgu...”

"Wrth wraidd ein canfyddiadau roedd tystiolaeth gref fod y rhan fwyaf o achosion o gydweithredu llwyddiannus yn seiliedig ar barch rhwng y ddwy ochr a chydraddoldeb. Gobeithiwn fod ein hadroddiad wedi amlygu’r cyfleoedd ac, yr un mor bwysig, yr heriau sy’n wynebu partneriaethau rhwng addysg uwch a’r economi greadigol."

Yr Athro Anthony Mandal Reader in Print and Digital Cultures

Dywedodd yr Athro Hugh Brady, Cadeirydd Cyngor GW4 ac Is-Ganghellor a Llywydd, Prifysgol Bryste: “Mae’r rhanbarth cyfan yn gartref i ymchwil arloesol yn y celfyddydau a’r dyniaethau a threftadaeth ddiwylliannol fyd-enwog. Ein heconomi greadigol yw’r ail fwyaf yn y DU y tu ôl i Lundain. Fel y dengys yr adroddiad hwn, mae cyfuno’r ddwy elfen hyn yn gofyn am barch rhwng prifysgolion a phartneriaid anacademaidd ac agwedd sy’n agored at geisio ymchwil a arweinir gan chwilfrydedd. Rwy’n gobeithio y bydd Bridging the Gap yn dempled arfer gorau ar gyfer cydweithredu ar draws y DU ac y bydd yn arwain at bartneriaethau gwell rhwng ymchwilwyr a sefydliadau creadigol a diwylliannol yma yn y rhanbarth.”

Yng Nghaerdydd, mae Caerdydd Creadigol yn enghraifft o weithio mewn partneriaeth yn yr economi greadigol a diwylliannol. Mae Caerdydd Creadigol yn rhwydwaith sy'n creu cysylltiadau rhwng pobl sy'n gweithio mewn unrhyw sefydliad, busnes neu swydd greadigol yn rhanbarth Caerdydd. Ein diben yw gwneud Caerdydd a’i rhanbarth mor greadigol a phosibl drwy alluogi partneriaethau, amlygu cyfleoedd ac annog arloesedd. Cefnogir Caerdydd Creadigol gan Dîm Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â’r aelodau a’i sefydlodd, sef Canolfan Mileniwm Cymru, BBC Cymru Wales a Chyngor Caerdydd.