Ewch i’r prif gynnwys

Gallai glwcos da fod yn ddrwg mewn diabetes math 2

15 Tachwedd 2017

Image of insulin

Gall y dull cyffredin o reoli glwcos yn ddwys i gyflawni targedau siwgr gwaed isel mewn diabetes math 2 gynyddu'r perygl o farwolaeth, yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd.

Gan edrych ar ddata rheolaidd o'r DU a gasglwyd rhwng 2004 a 2013, canfu ymchwilwyr fod lefelau is o haemoglobin glycad yn gysylltiedig â pherygl uwch o farwolaeth, o'u cymharu â lefelau cymedrol, yn enwedig o'u cyfuno â thriniaethau dwys a allai achosi hypoglycaemia.

Dywedodd yr Athro Craig Currie o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae canllawiau triniaeth yn gyffredinol yn argymell strategaethau therapiwtig sy'n anelu at lefelau isel o glwcos, ar y ddealltwriaeth ei fod yn lleihau'r risg o gymhlethdodau macrofasgwlaidd fel clefyd y rhydweli coronaidd a strôc.

"Yn groes i'r gred hon, mae ein canfyddiadau ni'n argyhoeddi bod cyswllt gyda chynnydd mewn perygl o farwolaeth a'r hyn a ystyrir yn rheolaeth glwcos da, neu HbA1c isel."

"Mae cwestiynau difrifol yn parhau am ddiogelwch rhai cyffuriau sy'n lleihau glwcos, gyda thystiolaeth wyddonol a safbwyntiau croes yn cael eu hanwybyddu i raddau helaeth."

Yr Athro Craig Currie Ysgol Meddygaeth

Mae canfyddiadau'r astudiaeth hefyd yn awgrymu nad yw hap dreialon nac astudiaethau arsylwi wedi gallu dangos patrwm cyson o gyswllt rhwng lefelau o reolaeth glwcos a chanlyniad anffafriol, heb unrhyw esboniad pam. Felly, mae'r targed gorau ar gyfer rheolaeth glwcos mewn cleifion gyda diabetes math 2 yn parhau'n ansicr.

Ymhellach, roedd y patrwm marwoldeb mewn perthynas â rheoli glwcos yn gwahaniaethu mewn perthynas â gwahanol fathau o gyffuriau diabetes. Y pryder mwyaf oedd cynnydd mewn perygl marwolaeth i'r rheini oedd â 'rheolaeth dda' gyda diabetes math 2 oedd yn cael eu trin gydag inswlin a chyffuriau lleihau glwcos eraill sy'n achosi hypoglycaemia.

Dywedodd yr Athro Currie: "Mae cwestiynau difrifol yn parhau am ddiogelwch rhai cyffuriau sy'n lleihau glwcos, gyda thystiolaeth wyddonol a safbwyntiau croes yn cael eu hanwybyddu i raddau helaeth."

Cyhoeddir yr astudiaeth ‘The impact of differing glucose-lowering regimens on the pattern of association between glucose control and survival’ yn Diabetes, Obesity and Metabolism.

Mae’r Athro Currie yn ychwanegu: “Ni ddylai cleifion sy’n cael eu trin gydag inswlin ar hyn o bryd roi'r gorau i gymryd eu meddyginiaethau ar unrhyw gyfrif, ac mae'n bwysig pwysleisio bod yr astudiaeth hon yn ymwneud â diabetes math 2 yn unig.

“Mae amgylchiadau unigol pob claf yn wahanol ac mae penderfyniadau ynghylch triniaeth yn cael eu rheoli gan eu clinigwr, sy’n dwyn eu holl hanes meddygol i ystyriaeth.

“Ni fydd y mwyafrif helaeth o bobl sy'n cymryd inswlin yn cael unrhyw effeithiau negyddol ac mae'n parhau i fod yn driniaeth ddibynadwy a chyffredin ledled y byd. Yr unig beth y mae canlyniadau ein hastudiaeth yn ei awgrymu yw bod angen mwy o ymchwil i bennu’r targedau gorau posibl at ddibenion rheoli glwcos mewn cleifion.

“Dylai unrhyw un sy'n pryderu siarad â’u meddyg teulu yn gyntaf cyn gwneud unrhyw newidiadau i’r modd y rheolir eu cyflwr.”

Rhannu’r stori hon

Mae ein themâu rhyngddisgyblaethol yn amrywio o ymchwiliad labordy i ymarfer clinigol, mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.