Ewch i’r prif gynnwys

Y Crysau Duon yn agor campfa’r Brifysgol ar ei newydd wedd

21 Tachwedd 2017

All Blacks training

Agorwyd campfa newydd, cwbl fodern Prifysgol Caerdydd gan y Crysau Duon, a buont yn hyfforddi yno wedyn cyn eu gêm yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd.

Mae Cymru'n croesawu Seland Newydd ddydd Sadwrn 25 Tachwedd i Stadiwm y Principality – y diweddaraf yng ngemau cyfres yr hydref eleni.

Mae Cymru eisoes wedi chwarae Awstralia a Georgia, gyda De Affrica yn ymweld ar 2 Rhagfyr yn dilyn y gêm yn erbyn y Crysau Duon – gêm y bu cryn ddisgwyl amdani.

Mae pob un o’r pedwar tîm sy’n ymweld yn paratoi ar gyfer eu gemau yn y Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol wedi’i hailwampio. Ailagorwyd y Ganolfan ar Ffordd Senghennydd mewn pryd ar gyfer tymor 2017/18 y Brifysgol.

Agorwyd y cyfleuster wedi’i adnewyddu yn swyddogol gan y Crysau Duon yn ystod sesiwn hyfforddi, a fynychwyd gan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan.

Yn ôl yr Athro Riordan: “Mae'n fraint cael un o'r timau chwaraeon gorau yn y byd yn agor ein Canolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol ar ei newydd wedd, cyn ei defnyddio at ddibenion hyfforddi...”

"Mae'n dystiolaeth o ragoriaeth ein cyfleusterau bod timau fel y Crysau Duon, Awstralia, De Affrica a Georgia am ddod yma i baratoi ar gyfer eu gemau yn erbyn Cymru."

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Mae gan y Brifysgol berthynas hirdymor â thimau teithiol sy'n ymweld â’r ddinas i chwarae yn erbyn Cymru yn ystod cyfres yr hydref.

Mae'r Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol yn cynnig tri llawr ag offer cardiofasgwlaidd, offer ymwrthedd ac offer sy’n seiliedig ar bwysau, gan gynnwys llawr uchaf sydd bellach yn unswydd ar gyfer hyfforddi ym meysydd cryfder a datblygiad corfforol.

Mae’r cyfleuster ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 06:45 a 21:00, a rhwng 10:00 ac 18:00 ar y penwythnos.

Rhannu’r stori hon

Mae ein haelodaeth aur a phlatinwm yn rhoi prisiau gostyngedig a mynediad diderfyn i rai cyfleusterau dros 12 mis