Ewch i’r prif gynnwys

Cynfyfyriwr o Gaerdydd yn ennill gwobr Pencampwr Ifanc y Ddaear y Cenhedloedd Unedig

20 Tachwedd 2017

Adam Dixon

Mae dyfeisiwr Prydeinig ifanc, Adam Dixon, wedi ennill gwobr Pencampwr Ifanc y Ddaear, a gynhelir am y tro cyntaf, ar gyfer ei syniad garddwriaethol arloesol i fynd i'r afael ag anniogelwch bwyd a cholli cynefinoedd.

Mae Adam, 25, a raddiodd o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd yn 2015, wedi datblygu Phytoponics – system dyfu hydroponig sy'n cefnogi twf planhigion gan ddefnyddio 10 gwaith llai o dir a dŵr na dulliau garddwriaeth

O ganlyniad i'w lwyddiant bydd yn cael £11,300 ($15,000) o gyllid sbarduno a mentoriaeth bwrpasol i'w helpu i ddatblygu ei syniad, sydd wedi cael ei ddisgrifio'n 'jacuzzi mewn bag'.

Mae Dixon, 25, yn un o chwe enillydd ifanc – pob un yn cynrychioli un rhan o'r byd. Cyflwynir y wobr gan Raglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig, ac mae wedi'i noddi gan Covestro, un o gwmnïau polymer mwyaf blaenllaw y byd.

Ei nod yw adnabod, cefnogi a dathlu unigolion rhagorol rhwng 18 a 30 oed sydd â syniadau mawr i amddiffyn neu wella'r amgylchedd.

Mae technoleg Phytoponics yn galluogi cnydau bwyd i dyfu mewn dŵr gyda ffilm polymer y gellir ei ailgylchu 100%, gan wella effeithiolrwydd dyfrhau a lleihau faint o dir sydd ei angen ar gyfer garddwriaeth.

Mewn dim ond un flwyddyn, mae Dixon wedi adeiladu ei gwmni hyd at $2.6m ac mae'n cyflenwi'r cynhyrchydd salad mwyaf namyn un yn Ewrop.

https://www.youtube.com/watch?v=Y7ReU6dtJNM

Dywedodd Adam: "Ffactor ysgogol pwysig i mi oedd gweld faint o ddatgoedwigo a faint o gynefinoedd sy'n cael eu colli ledled y byd i fwydo ein poblogaeth gynyddol. Mae'n drist dros ben ein bod ni fel rhywogaeth wedi gorfod defnyddio hanner ein planed at ein defnydd ein hunain. Mae cael cydnabyddiaeth a chefnogaeth gwobr Pencampwr Ifanc y Ddaear yn hwb enfawr i mi, a bydd yn fy helpu i gyflawni fy ngweledigaeth ar gyfer cynaliadwyedd a diogelwch bwyd."

Dechreuodd ei ddiddordeb mewn garddio pan ymunodd â'i fam i arddio yn yr iard gefn, ac yna dechreuodd ymddiddori mewn twf planhigion, a datblygodd ei awydd i arloesi. Mae dyfeisiad cost-effeithiol a hawdd ei ddefnyddio Dixon bellach yn cael ei dreialu gan Raglen Bwyd y Byd mewn gwersylloedd ffoaduriaid i gefnogi'r cyflenwad o gynnyrch ffres i filoedd o bobl mewn lleoliadau sy'n aml yn anial ac yn anamaethadwy.

Am y tro mae Dixon yn canolbwyntio ar ddylunio datrysiadau hydroponig ar gyfer tai gwyrdd, lle mae'r rhan fwyaf o gynnyrch gwyrdd yr ydym yn ei fwyta yn cael ei dyfu, ynghyd â chreu ffermydd effeithiol a chynhyrchiol ar gyrion dinasoedd, fel bod modd cyflenwi'r rhan fwyaf o galorïau sydd eu hangen ar boblogaeth dinas yn lleol. Ei weledigaeth yn y pen draw, fodd bynnag, yw y bydd y byd yn defnyddio dim ond 10 y cant o'i dir ar gyfer amaethyddiaeth erbyn 2050.

"O blith syniadau fel ffasiwn gynaliadwy yng Nghanada neu ddull o hybu cnydau bwyd yn Kiribati, mae'n bleser gennym gyhoeddi Pencampwyr Ifanc y Ddaear am y tro cyntaf," meddai pennaeth Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig Erik Solheim.

"Mae'r arloesedd ac uchelgais ymhlith yr enillwyr yn gwbl ragorol, ac yn profi bod angen i ni barhau i gefnogi cenhedlaeth iau'r byd i gael yr atebion sydd eu hangen arnom i sicrhau dyfodol cynaliadwy."

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cael effaith sylweddol ar Gymru a'r DU, mewn meysydd sy'n cynnwys cyflogaeth, ariannu ymchwil a gweithgareddau dysgu ac addysgu.