Ewch i’r prif gynnwys

2017

Bydd prosiect newydd £1.5m yn creu system lle gall cynhyrchion “sgwrsio” â gweithwyr ar lawr y ffatri er mwyn trawsnewid y broses weithgynhyrchu fodern

Dychmygwch helmed beic a allai anfon neges destun at eich ffôn i ddweud wrthych fod hollt wedi datblygu o dan wyneb yr helmed.

Ar yr un pryd, dychmygwch fod y wybodaeth hon yn cael ei hanfon yn syth yn ôl at gynhyrchwyr yr helmed beic fel y gallent newid eu prosesau yn syth bin a gwella’r llwyth nesaf o helmedau beic ar y llinell gynhyrchu.

Gweledigaeth prosiect newydd sbon £1.5m a arweinir gan wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yw’r syniad bod pobl, cynhyrchion a phrosesau cynhyrchu yn gynhenid gysylltiedig.

Nod y prosiect tair blynedd yw manteisio ar dwf aruthrol “Rhyngrwyd y Pethau”, lle mae gan eitemau cyffredin y gallu i “siarad” â’i gilydd a throsglwyddo symiau enfawr o wybodaeth ddefnyddiol.

Trwy ymgorffori synwyryddion yn y cynhyrchion rydym yn eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd, y nod yw creu un broses ddiwnïad sy’n gallu newid ein cynhyrchion yn barhaus yn seiliedig ar ddata gan ddefnyddwyr.

Gallai’r prosiect, a lasenwyd yn “Ffatrïoedd Llafar”, arbed o bosib symiau sylweddol o amser ac arian a dreulir ar ymchwil ddefnyddwyr, dylunio cysyniadol, cynddelwi, a llafur â llaw ar lawr y ffatri, yn ogystal â chynnig syniadau ar gyfer cynhyrchion newydd sbon.

“Os yw gweithgynhyrchwyr yn creu beiciau o ansawdd uchel sy’n werth miloedd o bunnoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio fel y bwriadwyd iddynt gael eu defnyddio, sut ydym yn diweddaru’r problemau cynhyrchu ac ail-drefnu llawr y ffatri rhwng sifftiau, gan ddweud wrth weithwyr dynol a robot sut i newid eu dyletswyddau o fewn munudau?

"Bydd ein dull newydd yn galluogi gweithgynhyrchwyr i synhwyro profiad y cynnyrch, gan greu rhywbeth sy’n seiliedig ar ei ddefnydd go iawn yn hytrach na’r defnydd a fwriadwyd ar ei gyfer.”

Mae’r syniad o ddefnyddio data cyfamserol o synwyryddion wedi ei gyflwyno yn helaeth yn y diwydiant awyrennau, yn benodol ar gyfer monitro perfformiad peiriannau jet; fodd bynnag, defnyddir y data er mwyn mireinio optimeiddio cynnyrch sydd eisoes yn bodoli, yn hytrach na chreu rhai newydd.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd tîm y prosiect yn datblygu deallusrwydd artiffisial i brosesu’r symiau mawr o ddata, gan archwilio’r ffyrdd y gellir ymgorffori synwyryddion mewn cynhyrchion, datblygu robotiaid i ail-sgilio llawr y ffatrïoedd a sicrhau bod yr holl gynhyrchion a phrosesau rhyng-gysylltiedig yn gallu deall eu gilydd.

Bydd pob Rhan o’r ymchwil yn seiliedig ar y datblygiadau diweddaraf ym maes seiberddiogelwch, gan sicrhau y crëir prosesau diogel a chadarn.

Ariennir y prosiect gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol y DU, ac mae hefyd yn cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Caeredin, Prifysgol Nottingham, Prifysgol Caerhirfryn, a Phrifysgol Bath Spa.

Mae Sefydliad Ymchwil y Galon Cymru Syr Geraint Evans yn ymestyn ei waith ym maes ymchwil y galon – ymchwil sydd eisoes yn arloesol – i gwmpasu materion iechyd ehangach sy’n gysylltiedig â chlefyd cardiofasgwlaidd, yn dilyn ymgynghoriad helaeth ag aelodau o deulu’r diweddar Syr Geraint Evans, ac academyddion blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae clefydau cardiofasgwlaidd (CVD) yn derm cyffredinol sy'n disgrifio'r holl glefydau sy’n gysylltiedig â chlefydau'r galon a chylchrediad y gwaed. Mae'n cynnwys popeth o gyflyrau sy’n cael eu diagnosiso adeg geni, neu rhai a etifeddwyd, i gyflyrau datblygedig megis clefyd coronaidd y galon, ffibriliadau rhedwelïol, methiant y galon a strôc.

Mae’r hyn sy’n bennaf gyfrifol am achosi farwolaeth ac anabledd yn y DU ac yng Nghymru – clefyd cardiofasgwlaidd – â'i gyflyrau cysylltiedig, yn gyfrifol am dros 27% o'r holl farwolaethau, neu dros 9,000 o farwolaethau bob blwyddyn – mae hynny'n gyfartaledd o 25 o bobl bob dydd.

I gefnogi’r ymchwil estynedig newydd i glefyd cardiofasgwlaidd, bydd enw’r adeilad hefyd yn newid i “Adeilad Ymchwil Cardiofasgwlaidd Syr Geraint Evans” i adlewyrchu’r datblygiad hollbwysig hwn.

Cafodd y Sefydliad Ymchwil y Galon presennol ei ddyrchafu gan y canwr opera byd enwog o Gymro, Syr Geraint Evans. Ar ôl dechrau’r ymgyrch i godi arian ym 1991, fel Llywydd, yn anffodus bu farw o drawiad ar y galon ym 1992, ond cymerodd ei wraig – yr Arglwyddes Brenda – yr awennau.

Er cof amdano, mabwysiadodd yr elusen enw Syr Geraint i barhau i godi arian fel bod canolfan ragoriaeth ym maes ymchwil y galon – y cyntaf o'i math yn y DU – yn cael ei hadeiladu ym Mhrifysgol Caerdydd ac er mwyn cynorthwyo ymchwil hanfodol ynghylch un o’r achosion marwolaeth pennaf yng Nghymru.

Cefnogwyd y sefydliad gan y Tywysog Siarl, nifer o ffigurau blaenllaw o bob rhan o fywyd, a rhodd o £500,000 gan Sefydliad Prydeinig y galon. Fodd bynnag, yn y bôn, cafodd y ganolfan ragoriaeth hon ei hariannu a’i chynnig yn rhodd i Brifysgol o ganlyniad i haelioni a chefnogaeth aruthrol pobl Cymru wrth ariannu ymchwil i glefyd y galon, ac er cof am Syr Geraint Evans.

Yn ôl yr Athro Gary Baxter, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Bydd yr adeilad yn parhau i fod yn amgylchedd ymchwil weithredol, gyda ffocws clir ar ymchwil, sy'n canolbwyntio ar gleifion, y gellir ei drosglwyddo o ‘fainc y labordy i erchwyn gwely cleifion’ cyn gynted â phosibl.

“Rydym yn teimlo bod ail-enwi’r adeilad yn ‘Adeilad Ymchwil Cardiofasgwlaidd Syr Geraint Evans’ yn gam cadarnhaol ymlaen er mwyn dal yn gyfwastad â’r heriau iechyd sy'n ein hwynebu nid yn unig ym Nghymru ond hefyd ar draws y DU, a ledled y byd. Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn cwmpasu ehangder yr ymchwil fydd yn cael ei gynnal yn yr adeilad a bydd yn darparu lle mewn labordy ar gyfer y nifer o ymchwilwyr dawnus sydd gennym.

“Mae cof Syr Geraint Evans ac ethos tarddiad yr adeilad yn uchel iawn eu parch o fewn y Brifysgol, ac mae parhau â’i etifeddiaeth gydag ymchwil cardiofasgwlaidd newydd yn adlewyrchu cymaint yw ein diolch am yr arian sydd eisoes wedi’i roi...”

Yn ôl Huw Evans, mab Syr Geraint Evans: "Rydym wrth ein bodd bod enw ein tad yn dal i fod wedi’i gysylltu mor gryf ag ymchwil cardiofasgwlaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r ymchwil hwn cyn bwysiced nawr ag yr oedd pan roddwyd yr adeilad ymchwil y galon hwn yn y lle cyntaf i Brifysgol Caerdydd – drwy garedigrwydd pobl Cymru – er mwyn ariannu ymchwil i mewn i’r hyn sy’n peri’r nifer mwyaf o farwolaethau yng Nghymru, sef clefyd y galon.

“Mae’n dwyn emosiwn, o bosibl, o wybod, pum mlynedd ar hugain ers i’n tad farw o drawiad ar y galon, y bydd yr adeilad â’r enw newydd, Adeilad Ymchwil Cardiofasgwlaidd Syr Geraint Evans, yn cefnogi’r ymchwil newydd a chyffrous hwn ac y bydd eto’n tyfu i fod yn ganolfan ragoriaeth ym maes ehangach ymchwil cardiofasgwlaidd, a’r clefydau sy’n gysylltiedig â hynny.”

Yn ôl prif awdur astudiaeth newydd ac ymgynghorydd gwyddonol Blue Planet II y BBC, gallai gwyddonwyr dinesig ddiogelu dyfodol dolydd morwellt drwy gasglu data newydd am y dolydd ar draws y byd.

Dan arweiniad Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd ynghyd â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol James Cook yn Awstralia, mae'r astudiaeth yn awgrymu y gall gwyddonwyr dinesig fod yn allweddol er mwyn helpu i ateb cwestiynau byd-eang am ddolydd morwellt, eu lleoliad, iechyd, statws atgenhedlu a ffawna cysylltiedig.

Mae dolydd morwellt, sy’n gynefin morol allweddol, yn darparu bwyd a chysgod ar gyfer amrywiaeth eang o infertebratau, pysgod, mamaliaid ac adar. Maent yn hollbwysig ar gyfer masnach, adloniant a chynhaliaeth pysgota.

Hyd yma, mae tua 600,000 km² o forwellt wedi'u mapio’n fyd-eang, ond mae amcangyfrifon yn awgrymu gall bod cymaint â 4 miliwn km² o ddolydd morwellt i gyd sy’n golygu bod bylchau helaeth yn ein gwybodaeth.

Dywedodd Benjamin Jones, o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, a oedd yn gynghorydd gwyddonol ar y bennod sydd i ddod o Blue Planet II ‘Green Seas’ (26 Tachwedd 2018): "Mae dolydd morwellt yn cefnogi amrywiaeth cyfoethog o fywyd morol, gan gynnwys rhywogaethau carismatig sydd o dan fygythiad gan gynnwys y morfarch, crwban a dugong. Maent hefyd yn darparu un o’r storfeydd mwyaf effeithiol o garbon ar y blaned gan ei fod yn ei gadw 35 gwaith yn fwy effeithiol nag ardal o goedwig law o’r un maint. Gallai cynnal y storfa hon fod yn allweddol i liniaru effeithiau gwaethaf y newid yn yr hinsawdd. Os ydym am ddiogelu y cynefinoedd morol allweddol hwn, cefnogi bioamrywiaeth, cynhyrchiant pysgodfeydd a diogelu storfeydd carbon, mae angen i ni wybod ei leoliad."

Ychwanegodd Dr Leanne Cullen-Unsworth, cyd-awdur sydd hefyd wyn gweithio yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy: "I gau'r bwlch gwybodaeth byd-eang arwyddocaol hwn mae angen ymagwedd newydd. Dylai'r ymagwedd alluogi partneriaethau ac annog rhannu data rhwng llywodraethau, busnesau preifat, cyrff cadwraeth anllywodraethol a'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae ein hastudiaeth yn awgrymu y gellir cyflawni hyn drwy ddefnyddio adnoddau ac offer rhwydd i'w ddefnyddio er mwyn tynnu ar gymuned fyd-eang o wyddonwyr dinesig i helpu i ddeall y cynefinoedd rhyfeddol hyn."

Un platfform gwyddoniaeth dinesig sydd wedi bod yn llwyddiannus yn barod yw SeagrassSpotter.  Crëwyd gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe ac elusen cadwraeth forol Project Seagrass, er mwyn ymgysylltu a chefnogi gwyddonwyr dinesig morwellt ar ffurf arddull Pokémon-Go.

Seagrass spotter

Cafodd ei lansio yn swyddogol ym 2015, ac mae wedi cofnodi 750 o arsylwadau gan 360 o ddefnyddwyr mewn 94 o leoliadau yn rhanbarthau Gogledd yr Iwerydd, Môr y Canoldir a'r Caribî. Mae hyn yn cynnwys un lleoliad o weirglodd morwellt a welwyd yng Nghymru ac a recordiwyd ddiwethaf yn 1891. Dros y misoedd nesaf bydd SeagrassSpotter yn cael ei ehangu i gynnwys mwy o ranbarthau'r byd. Mae SeagrassSpotter hefyd yn un o brosiectau’r gwyddonydd dinesig sydd ar wefan Blue Planet II y BBC i annog pobl i gymryd rhan er mwyn helpu i amddiffyn cefnforoedd y byd.

Ychwanegodd Ben: "Er ein bod o’r farn y dylai llywodraethau gael cyfrifoldeb statudol i fonitro, mapio a deall ein hadnoddau morwellt pwysig, nid yw’n afrealistig disgwyl i’r wybodaeth fod yn gyflawn. O ystyried y ffigurau gwylio diweddar ar gyfer Blue Planet II, dangosir bod y cyhoedd yn ymddiddori mwy yn yr amgylchedd morol. Mae ein hymchwil yn dangos bod angen dibynnu ar bobl leol i fod yn wyddonwyr dinesig er mwyn diogelu dyfodol y morwellt.

"Gall pobl ledled y byd ddechrau ein helpu nawr, drwy ychwanegu lleoliadau morwellt ar wefan SeagrassSpotter, neu drwy lawrlwytho yr ap a chyflwyno’r rhain allan yn y meysydd."

Cyhoeddir y papur, Crowdsourcing conservation: The role of citizen science in securing a future for seagrass, yng nghyfnodolyn Marine Pollution Bulletin.

Mae gwyddonwyr yn gofyn am gymorth y cyhoedd i chwilio am arwyddion o donnau disgyrchol sy’n cael eu hallyrru ar draws y Bydysawd.

Bydd prosiect newydd sbon gwyddoniaeth i ddinasyddion o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, ar y cyd ag Arsyllfa Las Cumbres (LCO), yn gadael i’r cyhoedd edrych ar ddelweddau o rwydwaith byd eang o delesgopau, a hynny er mwyn helpu i chwilio am ddigwyddiadau anferthol sy'n cynhyrchu crychdonnau gofod-amser.

Bydd y chwilio’n ategu ymdrechion gan dimau Arsyllfa Tonnau Disgyrchol Mesuryddion Ymyriadau (Interferometer) Laser (LIGO) a Virgo sydd wrthi ar hyn o bryd yn gweithredu synwyryddion sensitif iawn yn yr Unol Daleithiau a’r Eidal, ac sydd eisoes wedi canfod pum signal disgyrchol hyd yma.

Ar ôl i dimau LIGO a Virgo ganfod signal disgyrchol posibl, byddant yn rhoi gwybod i aelodau o'r gymuned seryddiaeth ar unwaith. Bydd y rheini’n pwyntio eu telesgopau ar ran benodol o’r awyr er mwyn ceisio arsyllu’r digwyddiadau cosmig grymus sy’n cynhyrchu tonnau disgyrchol.

Gallai’r rhain fod ar ffurf dau dwll du’n uno, dwy seren niwtron yn gwrthdaro’n syfrdanol, neu hyd yn oed sêr yn ffrwydro’n ddramatig ac yn ddinistriol wrth iddynt ddechrau camau olaf eu hoes.

Ar ôl canfod signal posibl, bydd y cyhoedd yn gallu mewngofnodi i'r porth ar-lein a gweld delweddau y mae rhwydwaith telesgopau LCO wedi’u cael o bob rhan o’r byd. Byddant yn cael cyfres o ddelweddau cyn ac wedyn o’r pwynt penodol hwnnw yn yr awyr a gofynnir iddynt chwilio am newidiadau a all fod wedi digwydd. Os oes unrhyw beth o ddiddordeb yn y delweddau, bydd y cyhoedd yn gallu cadw llygad ar y gwrthrych wrth iddo newid.

Rhagfynegwyd tonnau disgyrchol yn gyntaf gan Albert Einstein dros 100 mlynedd yn ôl, ac maent yn grychdonnau bach yng ngofod-amser sy'n cael eu hallyrru o ddigwyddiadau grymus, fel tyllau duon neu sêr niwtron yn gwrthdaro. Mae’r crychdonnau'n yn teithio drwy ofod-amser, gan greu afluniadau bychain yng ngofod-amser ei hun. Mae synwyryddion hynod sensitif yn gallu canfod y rhain ar y Ddaear.

Ym mis Hydref eleni, am y tro cynaf, canfu gwyddonwyr grychdonnau disgyrchol wedi’u hallyrru o sêr niwtron a oedd wedi gwrthdaro. Defnyddion nhw synwyryddion tonnau disgyrchol a thelesgopau traddodiadol yn seiliedig ar olau i wneud hyn.

Mae’r prosiect gwyddoniaeth i ddinasyddion yn un yn unig o’r prosiectau addysg o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd sydd wedi cael oriau arsyllu’n rhan o raglen addysg fyd-eang LCO. Am y tro cyntaf yn ei hanes, mae LCO wedi cynnig amser arsyllu am ddim – 1,000 awr ar ei rwydwaith o delesgopau 0.4 metr yn ystod 2018 – i addysgwyr ledled y byd i ymgeisio amdanynt, er mwyn eu defnyddio mewn prosiectau addysg ac estyn allan.

Mae Universe in the Classroom yn fenter sy’n rhoi mynediad i blant ysgol at delesgopau LCO. Mae hyn yn helpu i wella dulliau addysgu a moderneiddio’r ffordd y mae pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn cael eu haddysgu i blant ifanc.

Mae Prosiect Telesgop Faulkes hefyd wedi cael oriau arsyllu newydd gan LCO. Nod y prosiect hwn yw darparu mynediad am ddim at delesgopau robotig a rhaglen addysg sydd wedi’i chefnogi'n llawn er mwyn annog athrawon a myfyrwyr i gymryd rhan mewn addysg gwyddoniaeth sy'n seiliedig ar ymchwil.

Bydd y 3 grŵp hyn, y mae pob un ohonynt â'u swyddfeydd addysg yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, yn ymuno â 14 o bartneriaid addysg eraill o bedwar ban y byd a fydd yn defnyddio Arsyllfa Las Cumbres yn 2018.

Mae Medicentre Caerdydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed drwy rannu hanesion ei llwyddiant.

Yn ystod y digwyddiad ar 23 Tachwedd, bydd yr Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru yn tynnu sylw at rai o'r cwmnïau sydd wedi gwella gofal iechyd i gleifion, mynd i'r afael â heriau clinigol a newid addysg feddygol.

Cafodd ei sefydlu yn 1992 gan Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, a’r Bwrdd Iechyd a'r Brifysgol sy’n ei chyd-redeg erbyn hyn.

Mae Medicentre, sydd ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru, yn cynnig gofod meithrin ar gyfer cwmnïau technoleg fiolegol a meddygol blaenllaw. Mae staff yn ymroi i gefnogi busnesau gwyddorau bywyd newydd, gan helpu cwmnïau preswyl dyfu'n sefydliadau llwyddiannus sy'n gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau yn fyd-eang.

Sut mae’r Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cydweithio i sicrhau arloesedd clinigol.

Mae’r pen-blwydd yn cydredeg â chael gafael ar arian newydd ar gyfer MedaPhor, tenant Medicentre sy'n arbenigo mewn uwchsain – pan ddefnyddir sain i ddelweddu meinweoedd. Cafodd cwmni deillio’r Brifysgol grant gwerth £466,000 gan Innovate UK i ddatblygu cynnyrch realiti estynedig gyda nodwyddau.

Mae meddygon yn defnyddio nodwyddau arbennig i gymryd samplau bach biopsi o feinwe’r corff, i ddraenio hylif drwy tiwbiau bach ac i weinyddu anaesthesia rhanbarthol. Mae angen i glinigwyr allu gweld blaen y nodwyddau, er mwyn sicrhau nad ydynt yn niweidio meinweoedd eraill, felly maent yn aml yn dibynnu ar uwchsain - techneg ddelweddu diogel y gellir ei symud i ochr gwely’r claf.

Bydd MedaPhor yn gwella’r defnydd o nodwyddau gyda thechneg deallusrwydd artiffisial a elwir yn ddysgu dwfn gyda meddygon yn gwisgo clustffonau realiti estynedig. Mae’r penset yn rhoi darlun uwch-sain o anatomeg y claf, gan amlygu’r llwybr y mae angen i’r nodwydd ei ddilyn. Mae hefyd yn olrhain blaen y nodwydd yn awtomatig i wneud yn siŵr nad yw’n niweidio strwythurau anatomegol pwysig.

Dywedodd yr Athro Keith Harding, Deon Arloesedd Clinigol y Brifysgol: "Mae’r Medicentre yn elfen hanfodol o’r strategaeth arloesedd clinigol ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae'n lle effeithiol a pwrpasol i droi syniadau gwych yn welliannau a datblygiadau arloesol yn y gwasanaeth iechyd..."

Dywedodd Dr Sharon Hopkins, Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: "Rydym yn falch o fod yn dathlu 25 mlynedd o’r bartneriaeth sefydledig ac unigryw hon.

"Nid yw Arloesedd Clinigol yn gysyniad newydd i Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae’r ddau sefydliad yn hen law ar weithio gyda’i gilydd, ond mae’r bartneriaeth ar y cyd yn ailbwysleisio ymrwymiad i ddatblygu cysylltiadau â byd diwydiant, byrddau iechyd eraill, a’r llywodraeth i ddefnyddio ymchwil sydd eisoes yn bodoli i sicrhau manteision i gleifion ac iechyd, a nodi anghenion clinigol nad ydynt wedi eu diwallu eto..."

Mae Medicentre wedi helpu i ddatblygu rhai o arweinwyr arloesedd clinigol Cymru. Ymhlith y tenantiaid nodedig a chynfyfyrwyr mae Alesi Surgical, Q Chip ac Ymchwil Clinigol Synexus.

Mae wedi helpu un ar ddeg o gwmnïau i dyfu’n ddigonol i adleoli neu gael eu prynu. Pan gyfunir y caffaeliadau hyn, mae’r cyfanswm dros £30m.

Mae prosiect gan Brifysgol Caerdydd sy’n helpu i hyrwyddo'r Gymraeg yn y gymuned a thechnoleg iaith Gymraeg wedi derbyn cyllid fel rhan o fenter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sy’n annog pobl i fod yn greadigol er mwyn hybu’r Gymraeg.

Mae WordNet Cymraeg yn arloesedd ar y cyd rhwng Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ac ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol.

Ei nod yw llunio cronfa ddata ar gyfer yr iaith Gymraeg a fydd yn grwpio geiriau sydd â’r un ystyr gyda'i gilydd. Bydd y gronfa ddata ar gael ar gyfer pobl yn ogystal â rhaglenni cyfrifiadurol. fydd yn hwyluso datblygiad technolegau yr iaith Gymraeg. Bydd eu rhaglenni yn ein galluogi i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ryngweithio â dyfeisiau clyfar.

Dywedodd yr Athro Irena Spasić, Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, a fydd yn arwain y prosiect: "Mae WordNets yn cael eu defnyddio’n eang wrth brosesu iaith naturiol i gefnogi dealltwriaeth o'r ystyr a fynegwyd mewn iaith ysgrifenedig a llafar. Fel y cyfryw, mae WordNets yn hanfodol ar gyfer rhaglenni technoleg iaith fel ateb cwestiynau,adfer gwybodaeth a chyfieithu peirianyddol..."

Ychwanegodd Dr Dawn Knight, arbenigwr mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth sy'n cyfarwyddo Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC), "Bydd WordNet Cymraeg yn darparu adnodd cyfoethog sy’n canolbwyntio'n benodol ar yr iaith Gymraeg, yn cynrychioli grwpiau o eiriau Cymraeg fel cyfystyron, a’r berthynas semantig rhyngddynt..."

Bydd y prosiect hefyd yn elwa o arbenigedd Dr Steven Neale, Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda WordNets mewn ieithoedd eraill.

Wrth gyhoeddi'r grantiau, dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: "Rydym am i’r Gymraeg gael ei defnyddio’n rhan arferol o fywyd bob dydd er mwyn i siaradwyr ar bob lefel deimlo’n hyderus wrth ei defnyddio mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol..."

Mae’ fenter sy’n annog pobl i fod yn greadigol er mwyn hybu’r Gymraeg a Grant Cymraeg 2050 yn elfennau allweddol o strategaeth yr Iaith Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Mae samplau o waddodion o lawr cefnfor Gogledd yr Iwerydd wedi cynnig golwg i ymchwilwyr na welwyd ei debyg erioed ar y rhesymau pam fod hinsawdd Ewrop wedi newid dros y 3000 mlynedd ddiwethaf.

O'r hinsoddau cynhesach yng nghyfnod y Rhufeiniaid pan fyddai gwinllannoedd yn ffynnu yng Nghymru a Lloegr i'r amgylchiadau oerach a arweiniodd at gnydau'n methu, newyn a phandemigau yn yr oesoedd canol cynnar, mae hinsawdd Ewrop wedi amrywio dros y tri mileniwm diwethaf.

Am y tro cyntaf, mae ymchwilwyr wedi gallu nodi pam fod hyn yn digwydd, ac mae'r ateb i'w ganfod ym mhell allan yn y môr yng nghefnfor Gogledd yr Iwerydd.

sediment recovery

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi astudio gweddillion ffosil o blancton â chregyn a grawn a gladdwyd mewn gwaddodion o'r Cefnfor i ganfod sut roedd amgylchiadau'r cefnfor dros gyfnodau o 10-20 mlynedd yn ystod y 3000 mlynedd ddiwethaf.

Gan ysgrifennu yn y cyfnodolyn Nature Communications, canfu'r ymchwilwyr fod dyfroedd rhewllyd o'r Arctig yn llifo mewn cyfnodau oer i’r de i Fôr Labrador yng Ngogledd yr Iwerydd, gan newid patrymau cylchredeg y cefnfor a thrwy hynny o bosibl arafu'r ceryntau sy'n cludo gwres i Ewrop.

Gan ddefnyddio data a geir mewn cregyn plancton ffosil bach a grawn gwaddolion, roedd yr ymchwilwyr yn gallu creu cofnod o amodau'r cefnfor yn y gorffennol a chysylltu hyn gyda chofnodion hanesyddol oedd yn dangos bod hinsawdd Ewrop ar gyfartaledd yn gynhesach neu'n oerach.

Er enghraifft, roedd yr ymchwilwyr yn gallu cysylltu cyfnod pan arafodd ceryntau gogledd yr Iwerydd gyda chyfnod nodedig o oer, a elwir yn aml yr Oes Iâ Fach, a amgylchynodd Ewrop rhwng 1300 ac o ddeutu 1850. Cafodd gaeafau oer estynedig eu darlunio mewn peintiadau Ewropeaidd yn y cyfnod, fel y darlun enwog o sglefrwyr iâ ar afon Tafwys yn Llundain.

seafloor sediment fossil

Yn yr un modd, canfu ymchwilwyr gyfnod arall pan arafodd ceryntau gogledd yr Iwerydd ar yr un pryd â chyfnod eithriadol o oer yn y chweched ganrif, a olygodd bod cnydau'n methu a chafwyd newyn ledled y byd. Credir hefyd bod canlyniadau'r cyfnod oer hwn o bosibl wedi cyfrannu at ledaenu Pla Iwstinian - un o'r pandemigau mwyaf marwol yn hanes y ddynoliaeth yr amcangyfrifir iddo ladd rhwng 25 a 30 miliwn o bobl ar draws y byd.

"Yn ddiweddar, oherwydd bod yr hinsawdd yn gynhesach dan ddylanwad dynol, mae'r Iwerydd yn derbyn mwy o ddŵr croyw nag o iâ sy'n toddi yn yr Arctig, sydd yn ei dro'n effeithio ar symudiad y dŵr yng ngogledd yr Iwerydd. Mae'n debygol y bydd newidiadau yng nghylchrediad y cefnfor yn y dyfodol yn cael eu teimlo o fewn patrwm newid hinsawdd yn Ewrop."

Daeth Caerdydd Creadigol a BAFTA Cymru a thros 80 o ymarferwyr, arweinwyr busnes ac academyddion o bob rhan o dde Cymru ynghyd i edrych ar ffyrdd o ddatblygu’r defnydd o realiti rhithwir estynedig (VR a AR) yn y sectorau creadigol.

Yn ogystal ag asesu maint a siâp y clwstwr dechnoleg trochi yng Nghaerdydd a'r rhanbarth, datgelodd y digwyddiad y gwaith VR a AR arloesol ac amrywiol a gynhyrchir gan sefydliadau lleol, a'i effaith ar yr economi greadigol.

Mae'r realiti rhithwir yn cyfuno delweddau a seiniau o ansawdd uchel, gan alluogi’r defnyddwyr i brofi a gweld byd artiffisial, 3D a delweddau drwy glustffonau.

Mae realiti estynedig yn wahanol gan ei fod yn rhoi delwedd a gynhyrchir gan gyfrifiadur ar yr hyn mae’r defnyddiwr yn ei feddwl am y byd go iawn i ddarparu darlun cyfansawdd.

Mae cwmnïau arbenigol yn ne Cymru yn cyflwyno’r technolegau hyn ym myd celfyddydau ac adloniant, yn ogystal ag ym meysydd y gwyddorau meddygol, peirianneg, ac addysg a hyfforddiant.

Cynhaliwyd Gweledigaeth y Realiti Newydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a drefnwyd ar y cyd gan Gaerdydd Creadigol, sy'n rhan o Dîm Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd a BAFTA Cymru.

Mae'n dilyn llwyddiant y gweithdy Doing Digital, Thinking Digital a gynhaliodd y ddau sefydliad yn 2016 yn Stiwdios Pinewood, a oedd yn ymchwilio i'r defnydd gorau o dechnoleg ddigidol a’i heffaith greadigol.

Dywedodd yr Athro Ian Hargreaves, Cadeirydd yr Economi Ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae dod â'r gymuned rith-wirionedd ynghyd yn bwysig iawn," meddai. "Mae profiad Caerdydd Creadigol yn awgrymu bod cryfhau ac ymestyn cysylltiadau ar draws economi ein rhanbarth yn talu ar ei ganfed..."

Cafwyd cyflwyniadau gan sefydliadau REWIND, BBC Cymru Wales, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Orchard, Canolfan Mileniwm Cymru, Llywodraeth Cymru, Innovate UK a Grŵp Ymchwil Rhith-wirionedd ac Gwirionedd Estynedig a Chofnodi Deuseiniol Prifysgol Caerdydd.

Cafwyd arddangosiadau Rhith-wirionedd a Realiti Estynedig gan Wales Interactive, Bristol VR Lab, 4Pi Productions a Sugar Creative, ymhlith eraill.

Daeth Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, â'r digwyddiad i ben drwy ddweud:  "Mae BAFTA yn ymgysylltu â phwyllgor rhyngwladol o arweinwyr y diwydiant ym maes Rhith-wirionedd a Realiti Estynedig ar hyn o bryd, gyda'r bwriad o adolygu tirwedd Rhith-wirionedd ac ailystyried ei effaith ar genhadaeth y BAFTA.

"Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous yn natblygiad y maes hwn yn y diwydiant, ac rydym yn awyddus i greu cyfleoedd yng Nghymru er mwyn i bobl greadigol ddarganfod mwy a chael eu hysbrydoli i ymuno â'r sgwrs."

Yn dilyn Gweledigaeth y Realiti Newydd bydd Caerdydd Creadigol a BAFTA Cymru yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned drochi i gefnogi datblygiad clwstwr de Cymru ymhellach.

Cewch rhagor o wybodaeth am Rwydwaith Caerdydd Creadigol.

Menywod mewn Trowsus: Mae'r Archif Gweledolyn cyfunodelweddau o flwmers, closau pen-glin, culottes a phob math o wisgoedd fforchog neu 'ranedig' i adrodd stori menywod sy'n gwisgo trowsus drwy oriel ar-lein o ddelweddau digidol sy’n ymestyn dros ganrif.

Mae'r delweddau yn yr archif yn cynnig cyfrif gweledol o’r ystyron cymhleth ac weithiau anghyson a gynrychiolir gan fenywod 'sy’n gwisgo trowsus' o'r 1850au hyd at yr 1960au. Maent yn cynnig cofnod dadlennol o’r newidiadau diwylliannol, hanesyddol a gwleidyddol cofiadwy a effeithiodd ar fywydau menywod yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd yr adnodd digidol arloesol o ddefnydd i fyfyrwyr, athrawon ysgol, ymchwilwyr a’r rhai sydd â diddordeb cyffredinol yn hanes rhywedd a gwisgoedd.

Gwahoddir aelodau o'r cyhoedd i gyflwyno eu ffotograffau eu hunain o berthnasau yn gwisgo trowsus drwy ebost ar gyfer adran ‘Pwy wisgodd y trowsus?’ yr archif.

Lansiwyd y gwaith arloesol hwn gan Dr Becky Munford, Darllenydd Llenyddiaeth Saesneg yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn ystod wythnos #ArchwilioArchifau

Eglurodd Dr Munford, “Mae menywod sy’n gwisgo trowsus, gan gynnwys pobl fel Siân d'Arc ac Amelia Bloomer, neu Mary Edwards Walker a Marlene Dietrich, wedi bod yn gysylltiedig â chyfnodau o aflonyddwch cymdeithasol a gwleidyddol, rhyddid menywod, syniadau radicalaidd, arloesedd esthetig a rhyddid erotig."

"Mae’r ymateb wedi bod yn wych yn barod i'r cais am ddelweddau ar gyfer adran Pwy wisgodd y trowsus yr archif?", meddai Dr Munford.

Cafodd Menywod mewn Trowsus: Archif Gweledol ei lansio yn ystod wythnos dathlu archifau ar draws y byd, #ArchwilioArchifau (18-26 Tachwedd) yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.

Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys arddangosfa ar-lein o waith gwreiddiol Astride Two Worlds gan Anne Thalheim, a ysbrydolwyd gan brosiect Dr Munford. Roedd arddangosfa arbennig o Drowseri o gasgliad tecstilau Amgueddfa Cymru yn cael ei harddangos yn benodol ar y noson lansio.

Gallwch ddarllen y newyddion diweddaraf am Menywod mewn Trowsus drwy ddilynyr archif ar Twitter.

Mae Dr Becky Munford yn addysgu ac yn ymchwilio i faes ysgrifennu modern a chyfoes menywod, astudiaethau rhyw a hanes gwisg a ffasiwn. Mae wrthi’n ysgrifennu Making Strides: a Literary and Cultural History of Women in Trousers., a hi hefyd yw awdur Decadent Daughters and Monstrous Mothers: Angela Carter and European Gothic a chyd-awdur Feminism and Popular Culture: Investigating the Postfeminist Mystique.

Yn ôl ymchwil newydd, mae angen gweithredu ar frys i atal dolydd morwellt y byd rhag cael eu colli i ddiogelu eu pysgodfeydd cysylltiedig.

Bu gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Stockholm yn archwilio sut mae dolydd morwellt yn helpu gweithgarwch pysgota byd-eang.

Wrth ddarparu’r dystiolaeth gyntaf o effaith fyd-eang morwellt, mae’r tîm wedi darganfod bod gwerth masnachol, hamdden a chynhaliaeth i bysgodfeydd morwellt.

"Lle bynnag y gwelwch forwellt a phobl, bydd pysgota yno yn ôl pob tebyg," meddai'r Dr Leanne Cullen-Unsworth, sy’n gweithio yn Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd.

"Mae ein hymchwil yn dangos pa mor fyd-eang yw pysgodfeydd morwellt. Yng ngwledydd y trydydd byd, mae’n hollbwysig o ran cyflenwad bwyd a bywoliaeth, lle gellir dal, bwyta a gwerthu popeth. Mewn gwledydd sy’n datblygu maent yn manteisio ar forwellt pysgodfeydd at ddibenion hamdden yn bennaf neu’n cynnwys rhywogaethau penodol – er enghraifft, cregyn bylchog," ychwanegodd.

Astudiodd y tîm bysgodfeydd morwellt ledled y byd gan gynnwys ar Ynysoedd y Philipinau, Zanzibar, Indonesia, Ynysoedd y Tyrciaid a Chaicos a lleoliadau ym Môr y Canoldir.

Canfuwyd llawer o debygrwydd yn y mathau o offer pysgota sy’n cael eu defnyddio, y creaduriaid sy'n cael eu pysgota a maint yr ymdrech sy’n canolbwyntio ar y cynefinoedd sensitif hyn.

Dywedodd Dr Cullen-Unsworth: "Hyd yn oed yn nolydd morwellt bychain Cymru, gwelir pysgotwyr yn targedu perdys adeg llanw isel ac yn gosod rhwydi i ddal bas. Drwy ddarparu strwythur tri dimensiwn mewn môr a fyddai’n anffrwythlon fel arall, mae morwellt yn cynnig cuddfan berffaith ar gyfer pysgod ac infertebratau megis crancod, perdys a chregyn bylchog. Mae’r helaethrwydd hwn o greaduriaid yn denu pysgotwyr."

Mae ymchwilwyr yn dadlau bod angen mesurau i wella gwydnwch morwellt ar gyfer y dyfodol er mwyn galluogi dolydd morwellt i barhau i gefnogi pysgodfeydd cynhyrchiol sy'n darparu ffynhonnell fwyd hanfodol.

Ychwanegodd Dr Culllen-Unsworth: “Rydym yn parhau i golli morwellt ar draws y byd ar raddfa sy’n cynyddu’n gyflym ac mae tystiolaeth yn dangos bod llawer o forwellt heb eu cofnodi a heb eu rheoli. Felly, mae angen i ni reoli’r targedau sy'n ceisio cynnal y gwasanaethau ecosystem yn y cynefinoedd gwerthfawr hyn.

“Yn syml, mae angen i lunwyr polisïau a rheolwyr amgylcheddol ledled y byd gydnabod bod llawer yn pysgota yn y morwellt, bod amrywiaeth mawr o bysgod a chreaduriaid rhywogaethau yn cael eu targedu mewn dolydd morwellt, a bod dolydd morwellt yn bwysig ar gyfer pysgodfeydd cynhaliaeth, hamdden a diwydiannol."

Cyhoeddir y papur Global significance of seagrass fishery activity yng nghyfnodolyn Fish and Fisheries.