Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Ein nod yw mynd i’r afael ag un o’r heriau cymdeithasol mawr sy’n wynebu’r byd heddiw – baich cynyddol afiechyd meddwl ac anhwylderau niwroddirywiol.

Ers ei sefydlu, yma yn y Sefydliad Arloesedd rydym wedi hwyluso nifer o brosiectau a rhwydweithiau ymchwil drwy ariannu Dechreuodd y Sefydliad ym mis Awst 2010 fel y Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl, ac fe'i hail-lansiwyd ym mis Awst 2023 fel y Sefydliad Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl. Ers ein sefydlu, rydym wedi hwyluso nifer o brosiectau a rhwydweithiau ymchwil drwy gyllid hadau ac offer a chefnogaeth weinyddol.

Ein nod yw datblygu dealltwriaeth a thriniaeth anhwylderau seiciatrig a niwrolegol mawr, sy'n cynrychioli rhai o'r heriau mwyaf i gymdeithas.

Dyma rai o ddulliau craidd ein hymchwil wyddonol ryngddisgyblaethol ragorol:

  • niwrofioleg bôn-gelloedd
  • niwrofioleg moleciwlaidd
  • systemau niwrobioleg
  • delweddu cwrs bywyd

Ein meysydd her

Defnyddio genomeg gyda data mawr

Mae gan waith i gyfuno genomeg â phŵer data mawr botensial mawr i roi syniadau newydd ynglŷn â haeniad anhwylderau’r ymennydd a datblygu llwybrau at driniaeth bersonol.

Manteisio ar bŵer niwrowyddoniaeth

Her fawr yw trosi canfyddiadau genomig yn fioleg sy'n berthnasol i glefydau.

Triniaethau newydd

Rydym yn defnyddio genomeg, ynghyd â dulliau newydd ym meysydd niwrowyddoniaeth a gwyddor data, i gyfrannu at ddatblygu meddyginiaethau mwy diogel a mwy effeithiol ar gyfer rhoi triniaethau personol ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl ac anhwylderau’r ymennydd.

Gwella iechyd meddwl y gymdeithas

Rydym yn cydnabod bod iechyd meddwl ac anhwylderau’r ymennydd yn heriau i’r gymdeithas. Mae 75% o broblemau iechyd meddwl yn dechrau cyn 18 oed.

Cysylltu â ni

Ymchwiliadau cyffredinol