Ewch i’r prif gynnwys

Gwella iechyd meddwl y gymdeithas

Rydym yn cydnabod bod iechyd meddwl ac anhwylderau’r ymennydd yn heriau i’r gymdeithas. Mae 75% o broblemau iechyd meddwl yn dechrau cyn 18 oed.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol ym maes y gwyddorau cymdeithasol a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc i weithio ar feysydd fel iselder a gorbryder ymhlith y glasoed.

Mae’r Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl hefyd yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys Canolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol Prifysgol Caerdydd, i gefnogi plant a theuluoedd ag anhwylderau niwroddatblygiadol.

Mae materion cymdeithasol sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ac anhwylderau'r ymennydd yn effeithio ar bobl o bob oedran. Rydym yn ymgysylltu â chydweithwyr yn y gwyddorau cymdeithasol i ystyried sut y gall datblygiadau mewn genomeg a niwrowyddoniaeth lywio’r broses o ddatblygu gwasanaethau clinigol newydd a dulliau newydd o roi diagnosis a thriniaethau. Rydym hefyd yn cefnogi gwaith ar ymyriadau ar gyfer pobl o bob oedran, gan gynnwys ymarfer corff a hyfforddiant gwybyddol i gefnogi lles meddyliol mewn henaint.