Ewch i’r prif gynnwys

Amdanon ni

Mae ein sefydliad arloesedd yn mynd i'r afael ag un o'r heriau cymdeithasol mawr sy'n wynebu'r byd heddiw - baich cynyddol salwch meddwl ac anhwylderau niwroddirywiol.

Mae'r sefydliad yn cynnwys grŵp amrywiol o wyddonwyr a chlinigwyr sydd wedi ymrwymo i drosi ein hymchwil sy'n arwain y byd yn therapïau newydd a gwell ar gyfer anhwylderau'r ymennydd ac iechyd meddwl. Mae ein gwyddonwyr a chlinigwyr yn gweithio gyda grwpiau cleifion a'u teuluoedd, elusennau, y GIG, asiantaethau ariannu llywodraeth leol a llywodraeth y DU, grwpiau ymchwil academaidd o bob rhan o'r byd a diwydiant.

Mae ein gwaith yn cwmpasu’r cylch bywyd, o blentyndod i henaint, ac yn cynnwys cyflyrau niwroddatblygiadol fel anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) ac awtistiaeth, y prif anhwylderau seiciatrig sy’n effeithio ar oedolion, fel sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, epilepsi a dystonia, ac anhwylderau niwroddirywiol fel clefyd Alzheimer, clefyd Huntington a chlefyd Parkinson.

Mae baich salwch meddwl ac anhwylderau’r ymennydd yn cynyddu, ac yn effeithio ar un o bob pedwar o bobl yn y DU, gydag effaith bersonol sylweddol ac ar gost o dros £100 biliwn y flwyddyn i’r economi.

Yn anffodus, ni chafwyd y datblygiadau mawr o ran diagnosis a thriniaeth ar gyfer y cyflyrau hyn ag a welwyd mewn meysydd eraill o feddygaeth dros y degawdau diwethaf.

Ond mae’r sefyllfa yn newid, ac rydym bellach ar adeg dyngedfennol lle mae cyfleoedd newydd yn codi o ganlyniad i ddatblygiadau ym maes genomeg, gwyddor data, seicoleg, a niwrowyddoniaeth. Mae gan y rhain botensial i drawsnewid ein dealltwriaeth o brosesau clefydau, i fireinio’r broses o roi diagnosis, i’n galluogi i ddatblygu therapïau newydd a mwy effeithiol, ac i wella’r dull o roi triniaethau.

Ein cenhadaeth yn y Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl yw manteisio ar ein hymchwil sy'n arwain y byd ym maes iechyd yr ymennydd ac iechyd meddwl i wella bywydau cleifion a'u teuluoedd.

Rydym yn falch iawn o gael y cyfle hwn i arddangos ein gwaith, yr hyn sy'n ein hysgogi, ein gwerthoedd, sut rydym yn ymgysylltu'n eang â grwpiau cleifion a phartneriaid allanol i ffocysu a gwella effaith ein hymchwil, a sut mae arloesedd yn ganolog i’n gwaith.