Ewch i’r prif gynnwys

Triniaethau newydd

Mae gwaith dadansoddi helaeth yn dangos bod datblygu therapïau sy'n seiliedig ar dargedau a ddiffinnir yn genomig yn fwy tebygol o lwyddo yn y clinig.

Rydym yn defnyddio genomeg, ynghyd â dulliau newydd ym meysydd niwrowyddoniaeth a gwyddor data, i gyfrannu at ddatblygu meddyginiaethau mwy diogel a mwy effeithiol ar gyfer rhoi triniaethau personol ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl ac anhwylderau’r ymennydd.

Rydym yn gweithio gyda sawl partner o fewn y Brifysgol ac yn allanol, gan gynnwys y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, yr Uned Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol, Janssen, a Takeda. Mae'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau a'r Uned Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol yn asedau unigryw yn y Brifysgol.

Mae’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau wedi cael llwyddiant wrth gymryd therapi sy’n targedu protein synaptig i drin problemau gwybyddol mewn sgitsoffrenia o’r labordy i dreialon clinigol, ac mae’r Uned Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol ar hyn o bryd yn datblygu ffyrdd newydd o drin Clefyd Huntington ac yn cynllunio’r gwaith o ddatblygu canolfan ragoriaeth ar gyfer therapiwteg uwch.