Cefnogwch ni

Mae deall yr ymennydd mewn iechyd ac afiechyd yn bwysicach nag erioed. O ganlyniad i gyfraniadau gwerthfawr ein cefnogwyr, mae ein hymchwilwyr yn gallu parhau i ddatblygu syniadau a thriniaethau arloesol ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau niwrolegol dinistriol.
Gall eich cyfraniad chi, boed hynny drwy wneud rhodd ariannol, cymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil, neu fod yn rhan o grŵp ffocws, wneud gwahaniaeth mawr o ran newid a diogelu dyfodol gwaith ein Sefydliad.
Mae un ym mhob pedwar o oedolion yn y Deyrnas Unedig yn profi rhyw fath o broblem iechyd meddwl ynghyd â thua 10% o blant. Mae yna fwy nag 800,000 o bobl ar hyn o bryd yn byw gyda dementia yn y Deyrnas Unedig a'r rhagolwg yw y bydd y nifer yn codi'n gyflym wrth i'r boblogaeth heneiddio.
Mae Prifysgol Caerdydd eisoes yn arwain y byd o ran ymchwil mewn niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl. Bu gwyddonwyr o Gaerdydd yn chwarae rhan bwysig wrth adnabod tarddiad genetig clefydau fel clefyd Alzheimer, Anhwylder Deubegynnol a Sgitsoffrenia. Mae cyfanswm o dros 108 o niwrowyddonwyr ac ymchwilwyr ar draws Prifysgol Caerdydd yn gweithio ar ymchwil mewn niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.
Mae'r Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl yn codi ein hymchwil i'r lefel nesaf a bydd yn helpu i sicrhau dealltwriaeth newydd ym mhob maes mewn iechyd meddwl rhwng plentyndod a henoed. Bydd ymchwilwyr ledled y Brifysgol yn datblygu rhaglenni newydd o ymchwil niwrowyddonol ac yn creu gwell dealltwriaeth a diagnosis o salwch meddwl.
Bydd buddsoddiadau ychwanegol yn cynnig cymorth hanfodol bwysig i waith ymchwil arloesol ac yn sicrhau bod therapïau newydd yn symud o'r fainc yn y labordy at erchwyn y gwely yn yr ysbyty.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch helpu i'n cefnogi neu am gyfleoedd noddi eraill, cysylltwch â Datblygiadau a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr
Gyda'ch help chi, gallwn ddarparu cymorth holl bwysig ar gyfer ymchwil arloesol a gweld therapïau newydd yn datblygu o fainc y labordy i wely ysbyty.