Ewch i’r prif gynnwys

Mynegai Psoriasis y Teulu

Mae Mynegai Psoriasis y Teulu yn holiadur a gynlluniwyd ar gyfer aelodau o deulu neu bartneriaid sy'n oedolion (16 oed neu hŷn) cleifion (o unrhyw oed) sydd â psoriasis.

Ynglŷn â’r holiadur

Mae Mynegai Psoriasis y Teulu'n hunanesboniadol a gellir ei roi’n rhwydd i aelod o deulu neu bartner y claf, fydd yn ei gwblhau heb fod angen esboniad manwl.

Bwriad y cwestiynau yw asesu ansawdd bywyd ar adeg cwblhau'r holiadur.

Mae wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio ar ei ben ei hun neu fel mesur canlyniad ychwanegol gydag unrhyw holiadur a gwblheir gan y claf, fel y Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg.

Pwy all ei ddefnyddio

Gall clinigwyr, cwmnïau fferyllol, cwmnïau er elw, myfyrwyr neu ymchwilwyr ddefnyddio'r holiadur mewn amrywiaeth o leoliadau.

Gan ddibynnu pwy ydych chi ac at ba ddiben rydych chi'n defnyddio'r holiadur, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded a thalu ffi.

Darllenwch fwy am bwy all ddefnyddio'r holiadur hwn a sut i'w weinyddu.

Amser cwblhau

Caiff ei gwblhau fel arfer o fewn dau i dri munud.

Lawrlwytho’r holiadur

Mae'r Holiadur ar gael yn Saesneg, Eidaleg a Phwyleg.

Psoriasis Family Index (PFI) - English version

The Psoriasis Family Index (PFI-14) is a questionnaire designed for adult (aged 16 years or over) family members or partners of patients (of any age) with psoriasis.

Fersiynau mewn ieithoedd gwahanol

Mae'r ffeil zip hon yn cynnwys fersiynau Eidaleg a Phwyleg yr holiadur, ynghyd â'r tystysgrifau cyfieithu. Darllenwch ragor am ein proses gyfieithu a dilysu ieithyddol, a beth i'w wneud os hoffech chi greu cyfieithiad newydd.

Psoriasis Family Index (PFI) - different language versions

This questionnaire, translated into Italian, Polish and Turkish, is for adult (more than 16 years of age) family members or partners of patients with psoriasis.

Sut i'w sgorio

Caiff pob cwestiwn ei sgorio fel a ganlyn:

  • Ddim o gwbl = 0
  • Ychydig = 1
  • Cryn dipyn = 2
  • Llawer iawn = 3
  • Cwestiwn heb ei ateb = 0

Caiff cyfanswm sgôr Mynegai Psoriasis y Teulu ei gyfrifo drwy adio sgôr pob cwestiwn gan arwain at uchafswm o 42 ac isafswm o 0.

Po uchaf yw'r sgôr, y mwyaf mae’r cyflwr yn amharu ar ansawdd bywyd. Gellir mynegi Mynegai Psoriasis y teulu hefyd fel canran o’r sgôr uchaf posibl o 42.

Dehongli holiaduron sydd wedi'u cwblhau'n anghywir

Mae'r gyfradd sy'n llwyddo i gwblhau holiadur Mynegai Psoriasis y Teulu'n gywir yn uchel. Fodd bynnag, o bryd i'w gilydd ceir camgymeriadau. Os gadewir un cwestiwn heb ei ateb, caiff hwn sgôr o 0 a chaiff y sgoriau eu crynhoi a'u mynegi fel arfer allan o uchafswm o 42.

Os gadewir dau gwestiwn neu fwy heb eu hateb, ni chaiff yr holiadur ei sgorio. Os caiff dau neu fwy o opsiynau ymateb eu ticio, dylid cofnodi'r opsiwn ymateb sydd â'r sgôr uchaf.

Os ceir ymateb rhwng dau flwch ticio, dylid cofnodi'r isaf o'r ddau opsiwn ymateb.

Hawlfraint

Mae Mynegai Psoriasis y Teulu dan hawlfraint fyd-eang, felly rhaid i chi beidio â newid fformat, geiriad na dyluniad yr holiadur.

Y datganiad hawlfraint, sy'n gorfod cael ei ailargraffu bob amser ar ddiwedd pob copi o'r holiadur hwn ym mha bynnag iaith, yw:

© Mynegai Psoriasis y Teulu-14. A.M. Eghlileb, A.Y. Finlay, M.S. Salek, M.K.A. Basra, Mawrth 2014

Trwy gytundeb, mae'r Brifysgol bellach yn berchen ar ac yn gweinyddu'r holl faterion hawlfraint sy'n ymwneud â Mynegai Psoriasis y Teulu-14.

Cofrestriad Gwreiddiol Llyfrgell y Gyngres UDA

Rhif cofrestru: TXu001299116
Dyddiad cofrestru: 19 Mai 2006
Awduron: Dr AM Eghlileb a'r Athro AY Finlay

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiad gwreiddiol

Eghlileb AM, Basra MKA, Finlay AY. The Psoriasis Family Index: preliminary results of validation of a quality of life instrument for family members of patients with psoriasis. Dermatology 2009; 219: 63-70

Cyhoeddiad gwreiddiol Mynegai Psoriasis y Teulu (fersiwn cyfredol)

Basra MK, Zammitt AM, Kamudoni P, Eghlileb AM, Finlay AY, Salek MS. PFI-14: a Rasch analysis refinement of the Psoriasis Family Index. Dermatology 2015; 231 (1): 15-23.

Cyhoeddiad allweddol arall

Eghlileb AM, Davies EEG, Finlay AY. Psoriasis has a major secondary impact on the lives of psoriasis family members and partners. British Journal of Dermatology 2007; 156: 1245-1250.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os oes gennych adborth ar ein tudalennau gwe, cysylltwch â ni.

Ymholiadau cyffredinol ac adborth

Dr. Faraz Ali

Dermatology Quality of Life Administrator

Ymholiadau ariannol, cytundebol neu fyfyrwyr

Joy Hayes

Ymholiadau trwyddedu

Swyddfa Trosglwyddo Technoleg

Os oes angen i chi gysylltu â'r Athro Finlay

Professor Andrew Finlay