Ewch i’r prif gynnwys

Mynegai Anabledd Psoriasis

Mae'r holiadur Mynegai Anabledd Psoriasis wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio gydag oedolion h.y. cleifion dros 16 oed.

Mae'n hunan-esboniadol a gellir ei roi’n rhwydd i'r claf, fydd yn ei gwblhau heb fod angen esboniad manwl.

Pwy all ei ddefnyddio

Gall clinigwyr, cwmnïau fferyllol, cwmnïau er elw, myfyrwyr neu ymchwilwyr ddefnyddio'r holiadur mewn amrywiaeth o leoliadau.

Gan ddibynnu pwy ydych chi ac at ba ddiben rydych chi'n defnyddio'r holiadur, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded. Nodwch nad oes tâl i ddefnyddio'r Mynegai Anabledd Psoriasis.

I wneud cais am drwydded i ddefnyddio PDI cysylltwch yn uniongyrchol â'r swyddfa Trosglwyddo Technoleg drwy ebostio technologytransfer@caerdydd.ac.uk. Ni ellir defnyddio ein system drwyddedu ar-lein i wneud cais.

Darllenwch fwy am bwy all ddefnyddio'r holiadur hwn a sut i'w weinyddu.

Amser cwblhau

Fel arfer caiff y Mynegai Anabledd Psoriasis ei gwblhau mewn tri i bedwar munud.

Cyfnod adalw

Mae'r cwestiynau wedi'u cynllunio i gael eu cwblhau gyda chyfnod adalw o bedair wythnos. Dylai fod o leiaf bedair wythnos rhwng pob defnydd. Ni argymhellir defnydd rheolaidd iawn, oherwydd efallai y byddwch chi neu'r claf yn cofio ac yn cael eich dylanwadu gan atebion blaenorol neu’n ateb yn llai gofalus.

Lawrlwytho’r holiadur

Psoriasis Disability Index (PDI) - English version

This questionnaire is designed for patients aged 16 years or over to complete, with a four week recall period.

Fersiynau mewn ieithoedd gwahanol

Mae'r ffeil zip hon yn cynnwys yr holiaduron mewn ieithoedd gwahanol, ynghyd â'r tystysgrifau cyfieithu. Darllenwch ragor am ein proses gyfieithu a dilysu ieithyddol, a beth i'w wneud os hoffech chi greu cyfieithiad newydd.

Psoriasis Disability Index (PDI) - different language versions

Download the questionnaire in several different languages: Arabic, Bosnian, Chinese, Czech, Danish, Filipino, Finnish, French, German, Gujarati, Hindi, Icelandic, Italian, Japanese, Lithuanian, Marathi, Portuguese, Romanian, Serbian, Spanish, Thai, Turkish, Ukranian and Zulu.

Sut i'w sgorio

Y sgôr ar gyfer pob cwestiwn yw:

AtebSgôr
Ddim o gwbl0
Ychydig1
Cryn dipyn2
Llawer iawn3

Os gadewir cwestiwn heb ei ateb, y sgôr = 0.

Caiff y Mynegai Anabledd Psoriasis ei gyfrifo drwy adio sgôr pob un o'r 15 cwestiwn gan arwain at uchafswm posibl o 45 ac isafswm o 0.

Po uchaf yw'r sgôr, y mwyaf mae’r cyflwr yn amharu ar ansawdd bywyd. Gellir mynegi’r Mynegai Anabledd Psoriasis hefyd fel canran o’r sgôr uchaf posibl o 45.

Dadansoddiad manwl

Gellir dadansoddi’r Mynegai Anabledd Psoriasis o dan bum pennawd:

PennawdCwestiynauUchafswm Sgôr
Gweithgareddau dyddiolCwestiynau 1, 2, 3, 4 a 515
Cwestiynau gwaith neu ysgol neu amgenCwestiwn 6, 7 ac 89
Perthnasoedd personolCwestiynau 9 a 106
HamddenCwestiynau 11, 12, 13 a 1412
TriniaethCwestiwn 153

Hawlfraint

Sylwch fod y Mynegai Anabledd Psoriasis wedi ei warchod dan hawlfraint, felly rhaid i chi beidio â newid fformat, geiriad na dyluniad yr holiadur.

Rhaid atgynhyrchu’r datganiad hwn bob amser ar ddiwedd pob copi o’r Mynegai Anabledd Psoriasis:

© Mynegai Anabledd Psoriasis. A Y Finlay, S E Kelly 1985

Cyhoeddiadau

Gwreiddiol

Finlay AY, Kelly SE. Psoriasis: an index of disability. Clin Exper Derm, 1987; 12: 8-11.

Cyhoeddiad gwreiddiol o'r fersiwn cyfredol

Finlay AY, Coles EC. The effect of severe psoriasis on the quality of life of 369 patients. Brit J Dermatol, 1995; 132: 236-244. (Yn cynnwys testun y fersiwn cyfredol (yr ail))

Cyhoeddiadau allweddol eraill

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os oes gennych adborth ar ein tudalennau gwe, cysylltwch â ni.

Ymholiadau cyffredinol ac adborth

Dr. Faraz Ali

Dermatology Quality of Life Administrator

Ymholiadau ariannol, cytundebol neu fyfyrwyr

Joy Hayes

Ymholiadau trwyddedu

Swyddfa Trosglwyddo Technoleg

Os oes angen i chi gysylltu â'r Athro Finlay

Professor Andrew Finlay