Ewch i’r prif gynnwys

Mynegai Anabledd Acne Caerdydd

Holiadur byr pum eitem yw Mynegai Anabledd Acne Caerdydd sy'n deillio o'r Mynegai Anabledd Acne hirach.

Cynlluniwyd Mynegai Anabledd Acne Caerdydd i'w ddefnyddio gydag arddegwyr a phobl ifanc sydd ag acne. Mae'n hunan-esboniadol a gellir ei roi’n rhwydd i'r claf, fydd yn ei gwblhau heb fod angen esboniad manwl.

Er mwyn sicrhau ei fod yn fesur priodol i bob claf, mae awduron Mynegai Anabledd Acne Caerdydd wedi cyhoeddi (Abdelrazik Y et al, 2021) bod geiriad Cwestiwn 2 yn newid i: "Ydych chi'n meddwl bod cael acne yn ystod y mis diwethaf wedi amharu ar eich bywyd cymdeithasol dydd i ddydd, digwyddiadau cymdeithasol neu berthynas bersonol agos?"

Dylid defnyddio'r geiriad newydd hwn o fis Hydref 2021. Rhoddir y geiriad wedi'i ddiweddaru yn fersiwn Saesneg y Mynegai. Bydd gwahanol gyfieithiadau yn cael eu haddasu ar gais.

Pwy all ei ddefnyddio

Gall clinigwyr, cwmnïau fferyllol, cwmnïau er elw, myfyrwyr neu ymchwilwyr ddefnyddio'r holiadur mewn amrywiaeth o leoliadau.

Gan ddibynnu pwy ydych chi ac at ba ddiben rydych chi'n defnyddio'r holiadur, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded. Nodwch nad oes tâl i ddefnyddio Mynegai Anabledd Acne Caerdydd.

I wneud cais am drwydded i ddefnyddio CADI cysylltwch yn uniongyrchol â'r swyddfa Trosglwyddo Technoleg drwy ebostio technologytransfer@caerdydd.ac.uk. Ni ellir defnyddio ein system drwyddedu ar-lein i wneud cais.

Darllenwch fwy am bwy all ddefnyddio'r holiadur hwn a sut i'w weinyddu.

Amser cwblhau

Fel arfer caiff Mynegai Anabledd Acne Caerdydd ei gwblhau mewn munud.

Cyfnod adalw

Mae'r cwestiynau wedi'u cynllunio i gael eu cwblhau o fewn cyfnod o fis.

Lawrlwytho’r holiadur

Cardiff Acne Disability Index (CADI) - English version

The Cardiff Acne Disability Index (CADI) is a self explanatory questionnaire for teenagers and young adults with acne.

Fersiynau mewn ieithoedd gwahanol

Mae'r ffeil zip hon yn cynnwys yr holiaduron mewn ieithoedd gwahanol, ynghyd â'r tystysgrifau cyfieithu. Darllenwch ragor am ein proses gyfieithu a dilysu ieithyddol, a beth i'w wneud os hoffech chi greu cyfieithiad newydd.

Cardiff Acne Disability Index (CADI) - different language versions

Download the questionnaire in several different languages.

Sut i'w sgorio

Caiff pob ateb ei sgorio fel a ganlyn:

(a) 3
(b) 2
(c) 1
(d) 0

Caiff y sgôr ei gyfrifo drwy adio sgôr pob cwestiwn gan arwain at uchafswm posibl o 15 ac isafswm o 0. Po uchaf yw'r sgôr, y mwyaf mae’r cyflwr yn amharu ar ansawdd bywyd.

Os na chaiff un eitem ei hateb, byddem yn argymell y dylid rhoi sgôr o sero i'r eitem honno ac felly'r sgôr cwblhau fyddai cyfanswm sgoriau'r pedair eitem arall (heb eu haddasu).

Os oes mwy nag un eitem heb eu hateb, ni ellir sgorio'r holiadur.

Hawlfraint

Sylwch fod Mynegai Anabledd Acne Caerdydd wedi ei warchod dan hawlfraint, felly rhaid i chi beidio â newid fformat, geiriad na dyluniad yr holiadur.

Rhaid atgynhyrchu'r datganiad hawlfraint bob amser ar ddiwedd pob copi o'r holiadur ym mha bynnag iaith:

© Mynegai Anabledd Acne Caerdydd. R J Motley, A Y Finlay 1992

Cyhoeddiad gwreiddiol

Motley RJ, Finlay AY. Practical use of a disability index in the routine management of acne. Clinical and Experimental Dermatology, 1992; 17: 1-3

Cyhoeddiadau allweddol eraill

Abdelrazik YT, Ali FM, Salek MS, Finlay AY. Clinical experience and psychometric properties of the Cardiff Acne Disability Index (CADI). British Journal of Dermatology, 2021; 185: 711 - 724

Dreno B, Finlay A Y, Nocera T et al. CADI cultural and linguist validation into French of an acne disability index. Dermatology 2004; 208: 104-108.

Mojica WP, Laconico LLD, Dofitas BL, Genuino RF. Validation of a Filipino Version of the Cardiff Acne Disability Index . Acta Med Philipp [Internet]. 2017; 51(2).

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os oes gennych adborth ar ein tudalennau gwe, cysylltwch â ni.

Ymholiadau cyffredinol ac adborth

Dr. Faraz Ali

Dermatology Quality of Life Administrator

Ymholiadau ariannol, cytundebol neu fyfyrwyr

Joy Hayes

Ymholiadau trwyddedu

Swyddfa Trosglwyddo Technoleg

Os oes angen i chi gysylltu â'r Athro Finlay

Professor Andrew Finlay