Ewch i’r prif gynnwys

Mynegai Ansawdd Bywyd Babanod sydd â Dermatitis

Mae Mynegai Ansawdd Bywyd Babanod sydd â Dermatitis (IDQOL) wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio ar gyfer babanod iau na phedair oed sydd â dermatitis atopig.

Mae'n hunanesboniadol a dylai gael ei gwblhau gan riant/rhieni y plentyn neu ofalwr rheolaidd.

Pwy sy’n gallu ei ddefnyddio

Gall clinigwyr, cwmnïau fferyllol, cwmnïau er elw, myfyrwyr neu ymchwilwyr ddefnyddio'r holiadur mewn amrywiaeth o leoliadau.

Yn dibynnu ar bwy ydych chi ac at ba ddiben rydych chi'n defnyddio'r holiadur, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded a thalu ffi.

Rhagor o wybodaeth am bwy sy’n gallu defnyddio’r holiadur hwn a sut y dylai gael ei gwblhau.

Amser cwblhau

Fel arfer gellir ei gwblhau o fewn dau funud.

Cyfnod galw’n ôl

Cynlluniwyd i’r holiadur gael ei gwblhau o fewn cyfnod galw’n ôl o un wythnos.

Lawrlwythwch yr holiadur

The Infants' Dermatitis Quality of Life Index (IDQOL) - English version

The Infants' Dermatitis Quality of Life Index (IDQOL) questionnaire is designed for use in infants with atopic dermatitis below the age of four years (i.e. up to 3 years 11 months).

Fersiynau mewn ieithoedd gwahanol

Mae'r ffeil zip hon yn cynnwys yr holiadur mewn ieithoedd gwahanol, ynghyd â'r tystysgrifau cyfieithu. Rhagor o wybodaeth am ein proses cyfieithu a dilysu ieithyddol a’r hyn i'w wneud os hoffech greu cyfieithiad newydd.

The Infants' Dermatitis Quality of Life Index (IDQOL) - different language versions

Download the questionnaire in several different languages: Arabic, Bahasa, Chinese, Czech, Danish, Dutch, English, Fijian, Finnish, French, German, Greek, Hindi, Hungarian, Italian, Japanese, Lithuanian, Malay, Norwegian, Persian, Polish, Portuguese, Romanian, Serbian, Spanish, Swedish, Thai, Turkish, Ukrainian and Yoruba.

Sut i'w sgorio

Mae Mynegai Ansawdd Bywyd Babanod sydd â Dermatitis yn cael ei gyfrifo drwy grynhoi sgôr pob cwestiwn, gan arwain at uchafswm o 30 ac isafswm o 0. Po uchaf yw'r sgôr, y mwyaf mae’r cyflwr yn amharu ar ansawdd bywyd.

Mae difrifoldeb ecsema yn cael ei sgorio ar wahân a gall gydberthyn â’r Mynegai Ansawdd Bywyd Babanod sydd â Dermatitis

Difrifoldeb dermatitis

Mae hyn yn cael ei sgorio ar wahân i'r Mynegai Ansawdd Bywyd.

  • Hynod ddifrifol = 4
  • Difrifol = 3
  • Gweddol = 2
  • Gweddol dda = 1
  • Dim = 0

Mynegai Ansawdd Bywyd

Ar gyfer cwestiynau 1 a 5 i 10, fe sgorir fel hyn:

  • Drwy'r amser = 3
  • Cryn dipyn o’r amser = 2
  • Ychydig o’r amser = 1
  • Dim = 0

Ar gyfer cwestiwn 2, fe sgorir fel hyn:

  • Crio’n gyson, ac ati = 3
  • Anniddig iawn = 2
  • Ychydig yn anniddig = 1
  • Hapus = 0

Ar gyfer cwestiwn 3, fe sgorir fel hyn:

  • Mwy na dwy awr = 3
  • 1-2 awr = 2
  • 15 munud i 1 awr = 1
  • 0-15 munud = 0

Ar gyfer cwestiwn 4, fe sgorir fel hyn:

  • Pum awr neu fwy = 3
  • 3-4 awr = 2
  • 1-2 awr = 1
  • Llai nag awr = 0

Hawlfraint

Sylwch fod Mynegai Ansawdd Bywyd Babanod sydd â Dermatitis wedi'i warchod dan hawlfraint, felly rhaid i chi beidio â newid fformat, geiriad na dyluniad yr holiadur. Y datganiad hawlfraint ar gyfer y Mynegai, y mae'n rhaid ei atgynhyrchu bob amser ar ddiwedd pob copi, yw:

© M S Lewis-Jones, A.Y. Finlay, Ionawr 2000.

Trwy gytundeb, mae'r Brifysgol bellach yn berchen ar yr hawlfraint i’r IDQOL ac yn gweinyddu'r holl faterion hawlfraint sy’n ymwneud ag o.

Cyhoeddiad gwreiddiol

Lewis-Jones M S, Finlay A Y, Dykes P J. The Infants’ Dermatitis Quality of Life Index. Br J Dermatol 2001; 144: 104-10.

Cyhoeddiadau allweddol eraill

Cysylltwch â ni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth ar ein tudalennau gwe, cysylltwch â ni.

Ymholiadau cyffredinol ac adborth

Dr. Faraz Ali

Dermatology Quality of Life Administrator

Ymholiadau ariannol, cytundebol neu fyfyrwyr

Joy Hayes

Ymholiadau trwyddedu

Swyddfa Trosglwyddo Technoleg

Os bydd angen i chi gysylltu â'r Athro Finlay

Professor Andrew Finlay