Ewch i’r prif gynnwys

Holiadur Effaith Deuluol Dermatitis

Mae'r holiadur hwn yn mesur faint mae bod â phlentyn â dermatitis atopig yn effeithio ar ansawdd bywyd aelodau eraill (oedolion) y teulu.

Cynlluniwyd iddo gael ei gwblhau gan oedolion (16 oed a throsodd) sydd â phlentyn (hyd at ac yn cynnwys 15 mlynedd ac 11 mis) â dermatitis atopig yn y teulu.

Pwy sy’n gallu ei ddefnyddio

Gall clinigwyr, cwmnïau fferyllol, cwmnïau er elw, myfyrwyr neu ymchwilwyr ddefnyddio'r holiadur mewn amrywiaeth o leoliadau.

Gan ddibynnu ar bwy ydych, ac at ba ddiben rydych yn defnyddio'r holiadur, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded a thalu ffi.

Darganfyddwch ragor am bwy sy’n gallu defnyddio’r holiadur hwn a sut y dylai gael ei gwblhau.

Cyfnod galw’n ôl

Cynlluniwyd i’r holiadur gael ei gwblhau o fewn cyfnod galw’n ôl o un wythnos.

Lawrlwythwch yr holiadur

Dermatitis Family Impact Questionnaire (DFI) - English version

Measure how much having a child with atopic dermatitis has affected a family member over the last week.

Fersiynau mewn ieithoedd gwahanol

Mae'r ffeil zip hon yn cynnwys yr holiadur mewn ieithoedd gwahanol, ynghyd â'r tystysgrifau cyfieithu. Darganfyddwch ragor am ein proses cyfieithu a dilysu ieithyddol a’r hyn i'w wneud os hoffech greu fersiwn iaith newydd.

Dermatitis Family Impact Questionnaire (DFI) - different language versions

Download the questionnaire in several different languages: Arabic, Chinese, Czech, Dutch, Filipino, French, German, Greek, Italian, Japanese, Latvian, Malay, Norwegian, Polish, Portuguese, Russian, Serbian, Spanish, Swedish, Taiwan and Thai.

Sut i'w sgorio

Rhoddir sgôr o 0 i 3 i bob ateb.

Dyma’r system sgorio ar gyfer yr holiadur hwn:

  • Ddim o gwbl = 0
  • Ychydig = 1
  • Cryn dipyn = 2
  • Llawer iawn = 3

Bydd yr holl sgoriau’n cael eu hadio at ei gilydd. Y sgôr isaf bosibl yw 0 (= dim effaith ar y teulu). Y sgôr fwyaf bosibl yw 30 (= effaith fwyaf ar y teulu).

Nid oes disgrifiadau a ddilyswyd o fandiau sgôr wedi’u cyhoeddi eto.

Hawlfraint

Mae'r holiadur Effaith Deuluol Dermatitis wedi'i hawlfreinio. Felly, mae’n rhaid i chi beidio â newid ei fformat, ei eiriad a’i dyluniad.

Mae’r datganiad o ran hawlfraint, y mae’n rhaid ei ddangos bob amser ar ddiwedd pob copi o’r holiadur Effaith Deuluol Dermatitis, fel a ganlyn:

© M S Lewis-Jones, A Y Finlay, 1995

Drwy gytundeb, y Brifysgol sydd â’r hawlfraint i’r holiadur Effaith Deuluol Dermatitis erbyn hyn ac sy’n gweinyddu pob mater sy’n ymwneud â’r hawlfraint honno.

Cyhoeddiad gwreiddiol

Lawson V, Lewis-Jones M S, Finlay A Y, Reid P, Owens R G. The family impact of childhood atopic dermatitis: the Dermatitis Family Impact Questionnaire. Br J Dermatol, 1998; 138: 107-113

Cyhoeddiadau allweddol eraill

Cysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth ar ein tudalennau gwe, cysylltwch â ni.

Ymholiadau cyffredinol ac adborth

Dr. Faraz Ali

Dermatology Quality of Life Administrator

Ymholiadau ariannol, cytundebol neu fyfyrwyr

Joy Hayes

Ymholiadau trwyddedu

Swyddfa Trosglwyddo Technoleg

Os bydd angen i chi gysylltu â'r Athro Finlay

Professor Andrew Finlay