Ewch i’r prif gynnwys

Banc Bio

Cyfleuster biofancio canoledig wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, sy’n cynnig biosamplau dynol o ansawdd uchel ar gyfer gwaith ymchwil a gynhelir er budd cleifion.

Mae Banc Bio Prifysgol Caerdydd yn gyfleuster biofancio canolog sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Rydym yn cynnig biosamplau dynol o ansawdd uchel i sefydliadau academaidd a masnachol ar gyfer ymchwil a gynhelir er budd cleifion. Rydym wedi sefydlu casgliadau o nifer o feysydd clefyd gwahanol ac yn croesawu dulliau i gychwyn casgliadau newydd nad ydynt eisoes wedi’u sefydlu o fewn y cyfleuster.

Beth rydym yn ei wneud, sut gallwch gymryd rhan a’r swyddi diweddaraf sydd ar gael.

Rydym yn cefnogi amrediad eang o brosiectau ymchwil ledled Cymru, y DU, Ewrop a gweddill y byd.

Rydym yn chwilio am roddwyr i’r Banc Bio. P’un a ydych yn iach neu’n sâl, mae eich samplau yn hanfodol ar gyfer y gwaith ymchwil.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fentrau masnachol. Gallwn greu casgliadau pwrpasol i ddiwallu eich anghenion.