Ewch i’r prif gynnwys

Y GIG a pheirianwyr yn dod at ei gilydd i adeiladu canolfan

Falfiau allanadlu 3D wedi’u hargraffu - Enghraifft o ailbwrpasu cyfarpar er mwyn bodloni gofynion newydd.
Falfiau allanadlu 3D wedi’u hargraffu - Enghraifft o ailbwrpasu cyfarpar er mwyn bodloni gofynion newydd.

Mae canolfan peirianneg ddigidol a ffisegol arloesol a ddyluniwyd i ailbwrpasu offer y GIG yn ystod y pandemig COVID-19 yn cael ei chefnogi gan arbenigedd Prifysgol Caerdydd.

Mae'r prosiect dwy flynedd hwn, a gefnogir gan Cyflymu, yn dwyn ynghyd Softgel Solutions Ltd, Innotech Engineering, Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Wedi'i lleoli yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, datblygodd y ganolfan Peirianneg Ddigidol a Ffisegol Uwch (ADPE) yn sgil ailbwrpasu labordy Deintyddol Genol-Wynebol a'i alluoedd argraffu 3D yn ystod y pandemig.

Amlygodd yr argyfwng COVID-19 yr angen i allu ymateb i ddau fater: ailbwrpasu offer silff mewn storfeydd, yr ystyrir eu bod allan o ddefnydd gan nad oes rhannau ar gael gan gyflenwyr, a chyfleoedd i brototeipio syniadau arloesol.

Oherwydd prinder cyflenwadau ar ddechrau'r argyfwng, ni allai'r Bwrdd Iechyd ddod o hyd i falfiau a chysylltwyr penodol - gan gynnwys falfiau anadlu allan. Gweithiodd y ganolfan arloesi yn agos gyda'r tîm Anadlol i greu dyluniad falf 3D a chynhyrchu fersiynau argraffedig mewnol.

Ers hynny mae'r tîm Anadlol wedi cyhoeddi'r dyluniad hwn ar draws ei gorff llywodraethu cenedlaethol yn y DU at ddibenion rhannu ymarfer.

Wedi'i chynllunio i gyflymu effaith syniadau arloesol trawsnewidiol, mae'r ganolfan yn dod â staff, cleifion, academyddion a phartneriaid diwydiant ynghyd i ymateb yn gyflym i faterion trwy ddatblygu atebion ymarferol.

Heb gyfranogiad y diwydiant, nid oes gan Fyrddau Iechyd fynediad at offer, sgiliau na phrofiad i ddatblygu'r cysyniad hwn. Am nifer o resymau gweithredol, rheoliadol ac ymarferol, mae cyrchu allanol neu ymgysylltu oddi ar y safle wedi bod yn rhy anodd.

Bydd dod â doniau’r diwydiant at ei gilydd fel partneriaid, o fewn man gwaith dynodedig, yn galluogi byrddau iechyd i brototeipio a phrofi syniadau yn gyflym, gan ddileu risg, lleihau camau arbrofol a manteisio ar wybodaeth partneriaid diwydiant i gynyddu cynhyrchiant ar gyfer yr atebion gorau.

Mae’r argyfwng COVID-19 wedi rhoi GIG Cymru dan bwysau gwirioneddol a byddai llwyddiant y prosiect hwn yn galluogi menter lwyddiannus i ddod allan ohono, gan gyflawni canlyniad cadarnhaol a fydd yn cynyddu gwytnwch y GIG yn y dyfodol.

Mae’r rhaglen Cyflymu yn cefnogi datblygiad parhaus y ganolfan arloesi hon, trwy ddarparu arbenigedd academaidd a thrwy hwyluso’r gwaith o ehangu ei galluoedd argraffu 3D.

Ymhlith y manteision mae datblygu gallu peirianneg ddigidol a ffisegol canolog a all ymgysylltu â staff ar draws y Bwrdd Iechyd; dadansoddiad Cost Economaidd Iechyd; ehangu cwmni all-gynhyrchu newydd (Innotech Engineering), a gwaith cydlynol gyda phartneriaid diwydiannol, clinigol ac academaidd.

Bydd y cydweithrediad Cyflymu hwn yn gwella ymgysylltiad cleifion a staff â'r GIG trwy lwybr hygyrch i brototeipio a phrofi syniadau arloesol a chreu cydweithrediadau yn y dyfodol rhwng partneriaid diwydiant, academaidd a chlinigol, gan greu swyddi a rhannu gwybodaeth arloesi y tu hwnt i Gymru.

Darllenwch yr astudiaeth achos a gyhoeddwyd

Datblygu canolfan peirianneg ddigidol a ffisegol uwch (ADPE)

Hwyluso datblygiad parhaus canolfan peirianneg ddigidol a ffisegol arloesol sydd â’r nod o ymgysylltu a bodloni gofynion sy’n newid.