Ewch i’r prif gynnwys

Medicentre Caerdydd

Mae Medicentre Caerdydd yn fenter lwyddiannus ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac yn cynnig lle a chefnogaeth ar gyfer busnesau newydd ym maes biodechnoleg a thechnoleg feddygol.

Ein nod yw creu amgylchedd sy'n helpu busnesau newydd i lwyddo.

Rydym yn ganolfan meithrin busnesau sy'n cynnig lle a chefnogaeth ar gyfer busnesau newydd ym maes biodechnoleg a thechnoleg feddygol.

Gallwn gynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys unedau swyddfeydd a labordai, ystafelloedd cyfarfod, mannau parcio preifat a systemau diogelwch a reolir.

Byddwn yn parhau i fuddsoddi oherwydd ein bod ni'n gweld gwerth yr hyn rydym yn ei gynnig bob dydd ac ym mhob tenant.