Ewch i’r prif gynnwys

Treialu dyfais geko™ mewn cleifion COVID-19

The geko™ device
The geko™ device (images courtesy of geko™)

Mae dyfais feddygol y gellir ei gwisgo, a grëwyd yng Nghymru ac a gynlluniwyd i leihau'r risg o glotiau gwaed, yn cael ei hasesu i weld a ellid ei defnyddio i drin cleifion ansymudol â symptomau COVID-19.

Mae geko™ yn rhoi ysgogiad trydanol niwrogyhyrol di-boen i ran isaf y goes. Mae ei gallu i gynyddu cylchrediad y gwaed mewn cleifion ansymudol sydd â'r firws yn cael ei werthuso fel rhan o brosiect Cyflymu dros naw mis.

Mae partneriaeth dan arweiniad Cyflymydd Arloesedd Clinigol Prifysgol Caerdydd gyda Gwalia Healthcare, Sky Medical Technology a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi derbyn cymorth y Cyflymydd i werthuso effeithiolrwydd geko mewn prosiect a gynlluniwyd i wella galluoedd, gwydnwch a chynaladwyedd gwneuthurwr y ddyfais yng Nghymru.

Achosir clefydau thromboembolaidd gwythiennog (VTE) gan thrombus (clot gwaed) mewn gwythïen. Caiff cleifion eu hasesu am eu risg o VTE wrth ddod i mewn i ysbyty. Caiff cleifion risg uchel a/neu'r rheini fydd yn ansymudol am gyfnodau hir eu rheoli gyda thriniaeth broffylactig.

Mae COVID-19 yn syndrom hynod thrombotig sy'n arwain at ficro- a macrothrombosis ac emboledd aml-safle dilynol.

Mewn rhai cleifion, mae therapi gwrthgeulydd traddodiadol i leihau clotiau wedi arwain at waedu difrifol. Ffurfiwyd y bartneriaeth i edrych ar opsiynau eraill i gynorthwyo gyda rheoli VTE yn y boblogaeth hon o gleifion.

Caiff geko™ ei gynhyrchu yng Nghymru ar gyfer atal thromboemboledd gwythiennog (VTE) yn ogystal ag atal a thrin oedema.

Mae Prifysgol Caerdydd yn darparu arbenigedd mewn awtomeiddio cynhyrchu a gwydnwch y gadwyn gyflenwi, rheolaeth benodol i'r prosiect a chefnogaeth amser nyrs i weinyddu'r ddyfais a chasglu data.

“Mae mynd i’r afael â’r heriau y mae COVID-19 yn ei achosi i’r ymyriadau clinigol sy’n ofynnol wrth gefnogi cleifion ac wrth gyflwyno’r dyfeisiau i gynorthwyo clinigwyr yn gofyn am ymdrech amlddisgyblaethol ac ymarfer-academaidd. Rydym yn falch iawn o weithio fel tîm gyda chydweithwyr o Gwalia Healthcare, Sky Medical Technology, BIP AB, Yr Ysgol Meddygaeth, Ysgol Busnes Caerdydd, a’r Ysgol Beirianneg.”

Y Tîm Prosiect

Mae Cyflymu yn cefnogi'r prosiect a'r bwriad y bydd yn sail ar gyfer corff mwy o waith yn y dyfodol wrth i'r pandemig leddfu.

Bydd y gwerthusiad yn helpu arbenigwyr i asesu'r llwybr clinigol ar gyfer rheoli cleifion COVID ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneirin Bevan a bydd yn dod â manteision eraill yn cynnwys:

  • gwell proses ar gyfer asesu a chaffael cyflenwyr gyda ffocws ar ddatblygu sail wydn a chynaliadwy o gyflenwyr yng Nghymru
  • iteriadau i'r broses gynhyrchu awtomataidd ar gyfer y geko™
  • astudiaethau achos a chyhoeddiadau wedi'u hadolygu gan gymheiriaid
  • paratoi gwaith at y dyfodol
  • cyfleoedd i archwilio defnydd o'r ddyfais geko™ mewn carfannau penodol o gleifion ar draws Cymru
  • cyfleoedd ar gyfer cydweithio pellach rhwng partneriaid y prosiect
  • hap-dreial clinigol wedi'i reoli a'i bweru'n ddiffiniol

Darllen yr astudiaeth achos a gyhoeddwyd

Dyfais geko™ gwerthuso cynnyrch a logisteg cadwyn gyflenwi cymru

Cynnal gwerthusiad cynnyrch clinigol o’r ddyfais geko™ mewn cleifion â symptomau COVID-19.