Ewch i’r prif gynnwys

Gwerthuso fest tracheostomi

Y Fest Cefnogi Tiwb Tracheostomi Newydd
Y Fest Cefnogi Tiwb Tracheostomi Newydd.

Gallai fest sy'n cynnwys tiwbiau awyru gynorthwyo gyda symudedd cleifion tracheostomi mewn unedau gofal dwys, gan eu helpu i wella.

Mae'r fest, a gynlluniwyd i wella arferion ffisiotherapi i alluogi cleifion tracheostomi i gael eu cefn atynt ac adennill cryfder ar ôl triniaeth, yn cael ei asesu diolch i bartneriaeth a sefydlwyd drwy Gyflymydd Arloesedd Clinigol Prifysgol Caerdydd.

Tracheostomi - gosod tiwb mewn twll neu stoma a grëwyd yn artiffisial yn y bibell wynt (trachea) - yw un o'r gweithdrefnau a gyflawnir amlaf yn yr uned gofal dwys i ymdrin â rhwystrau yn rhan uchaf y llwybr anadlu, gwella hylendid y geg ac ymestyn awyru.

Mae symudedd cleifion ar ôl llawdriniaeth wedi bod yn broblematig gan fod tiwbiau’n cysylltu'r tiwb tracheostomi â pheiriant anadlu mecanyddol.

Mae prosiect cydweithredol rhwng y cwmni dillad Brodwaith Cyf, Cyflymydd Arloesedd Clinigol Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn asesu a all ‘TrachyVest’ – sy'n dal tiwbiau'r peiriant awyru yn eu lle - wella arferion symudedd y cleifion hyn yn yr uned gofal dwys.

Nododd y tîm oedd yn cynnal y prosiect bod 'Adborth cychwynnol gan staff yr uned gofal dwys yn awgrymu bod y fest i'w gweld yn dal y tiwbiau awyru yn eu lle heb fod angen i staff eu trin pan fydd cleifion yn symud.'

'Bydd y bartneriaeth yn asesu sut mae'r TrachyVest yn perfformio gydag amrywiaeth o gleifion a staff gwahanol, ac ar draws cleifion o faint gwahanol. Ar gyfer cleifion sydd wedi'u hawyru'n fecanyddol mae'n arbennig o bwysig hybu symudedd gan fod ganddynt fwy o risg o gael Gwendid yn Codi o Arhosiad yn yr Uned Gofal Dwys. Fodd bynnag mae nifer o ystyriaethau i'w datrys ar gyfer symudedd cynnar yn yr uned gofal dwys, fel digon o staff wedi'u hyfforddi i gefnogi symudedd diogel y cleifion, a rheoli'r tiwbiau awyru'n ddiogel.'

Mae cymorth Cyflymu yn helpu i sefydlu sail o dystiolaeth drwy alluogi i ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd, Brodwaith Cyf a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gynnal gwerthusiad cychwynnol yn yr unedau gofal dwys yng Nghaerdydd.

Bydd adborth cleifion, arsylwadau, grwpiau ffocws a holiaduron gyda'r staff sy'n ymwneud â symudedd cleifion yn helpu i bennu newidiadau i gynllun y fest yn y dyfodol, ac yn helpu i werthuso a yw'r fest yn briodol yn glinigol.

Darllen yr astudiaeth achos a gyhoeddwyd

Y defnydd o fest cefnogi tiwb tracheostomi newydd

Astudiaeth achos i wneud gwerthusiad rhagarweiniol o'r defnydd o fest cefnogi tiwb tracheostomi.