Ewch i’r prif gynnwys

Arloesedd clinigol

Clinical innovation

Mae arloesedd clinigol yn cael ei lywio gan chwilfrydedd, creadigrwydd a brwdfrydedd ar gyfer diwallu anghenion gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a diwydiant.

Credwn fod gwir arloesedd clinigol yn ymwneud â chreu rhywbeth unigryw sy'n newid wyneb gofal iechyd ac y gellir ei gyflwyno'n ddi-dor.

Y Ganolfan Arloesedd Clinigol

Mae'r Ganolfan Arloesedd Clinigol, sydd wedi'i leoli yn yr Ysgol Meddygaeth, yn chwarae rhan ganolog wrth hwyluso partneriaethau a phrosiectau arloesol sy'n seiliedig ar iechyd a gofal.

Organogram partneriaethau’r Ganolfan Arloesedd Clinigol

Crynodeb o berthynas y Ganolfan Arloesedd Clinigol â phartneriaid eraill.

Partneriaid y Ganolfan Arloesedd Clinigol

Lab technician using the qPCR robot.

Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog

Rydym ni’n gyfleuster technoleg achrededig ISO 9001:2015 ac GCLP ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n cynnig mynediad i ystod eang o gyfleusterau gwyddorau bywyd i alluogi eich ymchwil.

PET Scanner

Canolfan Delweddu PET Cymru (PETIC)

PETIC yn atgyfnerthu gallu ymchwilwyr a meddygon i ddod o hyd i feinwe llidiog a thracio effeithiau cyffuriau i lefel hynod fanwl.

South East Wales Academic Health Science Partnership

Partneriaeth Gwyddoniaeth Iechyd Academaidd De-ddwyrain Cymru (SEWAHSP)

Cynghrair yw SEWAHSP sydd â chenhadaeth i integreiddio ymchwil ac addysg o ansawdd uchel a gwella allbynnau'r Rhanbarth wrth ddatblygu a chymhwyso gwelliannau, arloesiadau a thechnolegau iechyd.

Welsh Wound Innovation Centre

Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru (WWIC)

Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru (WWIC) yw’r ganolfan iacháu clwyfau genedlaethol gyntaf yn y byd ac mae’n gyfleuster blaenllaw o ran arloesedd clinigol yng Nghymru.

Cyflymu

Mae'r Ganolfan Arloesedd Clinigol yn gartref i'r Cyflymydd Arloesedd Clinigol, partner yn y rhaglen Cyflymu.

Rhaglen cymorth chwyldroadol yw Accelerate a sefydlwyd i hwyluso a chyflymu'r broses o drosi syniadau; o nodi 'gwir' anghenion iechyd, hyd at gyflenwi arloesedd ar sail tystiolaeth.

Gall ein tîm o arbenigwyr ymroddedig ar arloesedd yn y Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CIA) helpu busnesau i ddatblygu prosiectau newydd a chynhyrchion a gwasanaethau yn y dyfodol gan alluogi cyd-gynhyrchu gyda mewnbwn uniongyrchol gan arbenigwyr gofal iechyd ac ymchwil.

Rhagor o wybodaeth am y rhaglen Cyflymu.

Y Bartneriaeth Arloesedd Clinigol

Rydym yn hynod falch o'n partneriaethau agos gyda'r GIG a'r diwydiant gofal iechyd. O ganlyniad i'r partneriaethau hyn, mae Caerdydd wedi cael ei chydnabod fel canolfan Ragoriaeth ar gyfer Meddygaeth Fanwl.

Mae'r Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cydnabod pwysigrwydd arloesedd clinigol wrth sicrhau budd i gleifion, a sicrhau budd iechyd, economaidd a chymdeithasol. Mae'r nodau cyffredin hyn wedi cael eu dal trwy ffurfio'r Bartneriaeth Arloesedd Clinigol, sy'n helpu i hwyluso perthynas waith agos rhwng y bwrdd iechyd a Phrifysgol Caerdydd.

Mae'r bartneriaeth hon wedi arwain at sefydlu'r Tîm Amlddisgyblaethol Arloesedd Clinigol (MDT). Mae'r grŵp unigryw hwn o arbenigwyr yn dwyn ynghyd arbenigedd clinigwyr, academyddion ag arbenigedd partneriaid diwydiant a llywodraeth leol i gynnig cyngor a chefnogaeth.

Mae'r Ganolfan Arloesedd Clinigol yn chwarae rhan annatod yn y tîm hwn.

Rhagor o wybodaeth am y Tîm Amlddisgyblaethol Arloesedd Clinigol.

Cwrdd â’r tîm

Dr Corinne Squire

Dr Corinne Squire

Translational Research Operations Managr

Email
squirecm@caerdydd.ac.uk