Myfyrwyr chweched dosbarth ac addysg bellach
Gall myfyrwyr o’r chweched dosbarth a sefydliadau addysg uwch ddefnyddio ein llyfrgelloedd yn rhad ac am ddim.
Ar hyn o bryd mae pob llyfrgell Prifysgol Caerdydd ar gau i aelodau o'r cyhoedd. Ni allwn gynnig aelodaeth llyfrgell newydd o ganlyniad i coronafeirws (COVID-19) ond gallwch barhau i gael mynediad i'n Hadnoddau defnyddiol. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd y gwasanaeth ar gael.
Cyn i chi ddod i ymweld
Darllenwch ein canllawiau Croeso i’r llyfrgell. Gallwch gael gwybodaeth am ein holl lyfrgelloedd a’u pynciau a’u cyfleusterau. Gwiriwch i weld a oes unrhyw gyfyngiadau ar fynediad cyn i chi gynllunio eich ymweliad.
Ymweld â'n llyfrgelloedd
Mae croeso i chi ddefnyddio ein llyfrgelloedd at ddibenion cyfeirio: gallwch bori drwy ein casgliadau yn y llyfrgelloedd, gwirio catalog y llyfrgell LibrarySearch a defnyddio’r mannau astudio. Er mwyn eich rhoi ar ben y ffordd, bydd staff y Ddesg Ymholi’n fwy na pharod i ateb eich cwestiynau.
Ymuno â'n llyfrgelloedd
Mae’n bosibl i fyfyrwyr o sefydliadau chweched dosbarth ac addysg bellach yng Nghymru fenthyg yn rhan o gynllun aelodaeth Cymunedol, sydd yn golygu eich bod yn gallu:
- benthyg hyd at ddwy eitem o’r prif gasgliadau o'n casgliadau benthyca pythefnos neu pedair wythnos.
- defnyddio’r mynediad cerdded i mewn i’r gwasanaeth eAdnoddau.
Sut i ymuno
Llenwch adran A o’r ffurflen aelodaeth ac yna gofynnwch i aelod o staff yn eich ysgol neu’ch coleg i lenwi adran B.

Community membership form for sixth form students
Ffurflen aelodaeth gymunedol ar gyfer myfyrwyr chweched dosbarth ac addysg bellach.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Dewch â'ch ffurflen wedi'i gwblhau a'ch ID ysgol neu goleg i naill ai Llyfrgell Senghennydd neu Llyfrgell Iechyd yn ystod yr oriau canlynol:
Llyfrgell | Amseroedd cofrestru |
---|---|
Llyfrgell Senghennydd | Dydd Llun i Ddydd Gwener 09:00 - 21:00, Dydd Sadwrn 10:00 - 17:00 (yn ystod y tymor) Dydd Llun i Ddydd Gwener 09:00 - 16:30 (yn ystod y gwyliau) |
Llyfrgell Iechyd | Dydd Llun i Ddydd Gwener 10:00 - 15:00 (Cysylltwch â'r Llyfrgell Iechyd cyn ymweld i weld os yw'r gwasanaeth cerdyn adnabod ar gael) |
Aelodaeth Llyfrgell
Adnoddau defnyddiol
Adnoddau Prifysgol Caerdydd
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol wedi creu nifer o adnoddau ar-lein ar gyfer astudio ar eich pen eich hun. Mae’r tiwtorialau canlynol yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer rhaglenni Bagloriaeth Cymru, EPQ ac Addysg Uwch.
- Dod o hyd i wybodaeth o safon uchel ar-lein
- Asesu ansawdd eich ffynonellau
- Darllen eich ffynonellau’n feirniadol
- Dyfynnu a chyfeirnodi: Pam, pryd a sut
- Cyfeirnodi Harvard Caerdydd
Adnoddau sydd ar gael yn rhwydd
Cyfeirlyfr o Gyfnodolion Mynediad Agored – mae'r cyfeirlyfr hwn, sy'n cael ei guradu'n gymunedol, yn cynnig mynediad at gyfnodolion o safon uchel, â mynediad agored ac wedi'u hadolygu gan gymheiriaid.
Mynediad at Ymchwil – Mynediad galw heibio, rhad ac am ddim at dros 15 miliwn o erthyglau academaidd, ar gael o unrhyw lyfrgell yn y DU sy'n rhan o'r cynllun. Cewch fynediad at nifer o bapurau academaidd gorau'r byd a gallwch ddefnyddio'r gronfa ddata i ddod o hyd i lyfrgell sy'n agos i chi, lle allwch weld y testun yn ei gyfanrwydd.