Ewch i’r prif gynnwys

Y chweched dosbarth ac addysg bellach

Rydym yn cynnig teithiau, gweithdai ac adnoddau i fyfyrwyr chweched dosbarth ac addysg bellach a'u hathrawon.

Teithiau tywys a gweithdai ar gyfer grwpiau

Rydym yn croesawu myfyrwyr chweched dosbarth ac addysg bellach sy'n 16 oed a hŷn, gyda'u hathrawon, ar deithiau tywys a gweithdai y cadwyd lle arnynt ymlaen llaw.

Yr adeg o'r flwyddyn sy'n well gennym yw yn ystod gwyliau haf y Brifysgol, o ganol mis Mehefin hyd at ganol mis Medi, ond fel arfer gellir cynnig ymweliadau a gweithdai ar adegau eraill o'r flwyddyn. Ni allwn gynnig ymweliadau neu weithdai yn ystod cyfnodau adolygu ac arholiadau'r Brifysgol ym mis Ionawr, ac o'r Pasg tan ganol mis Mehefin.

Fel athro, gallwch gadw lle ar daith dywys fel grŵp gan ddefnyddio ein ffurflen cadw lle ar-lein.

Rhagor o wybodaeth o'n llyfrgelloedd Ymweld â Phrifysgol Caerdydd: gwybodaeth ar gyfer arweiniad athrawon.

Mae croeso i athrawon a myfyrwyr ymweld â llyfrgelloedd y Brifysgol ar gyfer astudio personol unrhyw bryd yn ystod oriau agor y Llyfrgell.

Gweler ein cyflwyniad ar-lein ar gyfer ymwelwyr â llyfrgelloedd i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad.

Mae ein teithiau tywys yn cyflwyno myfyrwyr i amgylchedd y llyfrgell, a gellir eu teilwra i helpu myfyrwyr i ddechrau ar ddefnyddio ein casgliadau i gwblhau tasg ymchwil.

Os hoffech drefnu taith dywys fel grŵp, cysylltwch â ni bythefnos cyn yr hoffech ymweld, er mwyn trafod eich anghenion. Gallwn roi cyngor ynghylch pa lyfrgell fyddai orau i chi ymweld â hi a chytuno ar ddyddiad addas.

Tarwch olwg ar ein gwybodaeth Ymweld â Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd ar gyfer canllawiau i athrawon cyn i chi ymweld.

Mae'r Llyfrgell yn cynnig gweithdai wyneb yn wyneb neu ar-lein rhyngweithiol i ddatblygu gallu eich myfyrwyr i ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth academaidd, a'u defnyddio.

Gellir teilwra gweithdai ar gyfer eich anghenion ac i gyd-fynd â'ch deilliannau dysgu. Gall pynciau gynnwys y canlynol:

  • nodi ffynonellau gwybodaeth priodol at ddibenion tasg ymchwil
  • chwilio am wybodaeth academaidd
  • gwerthuso safon ffynonellau a'u cynnwys yn feirniadol
  • ymchwilio i 'newyddion ffug' a rhagfarn yn y cyfryngau
  • cadw cofnod o'r wybodaeth y dewch o hyd iddi
  • osgoi llên-ladrad
  • cyfeirnodi yn unol â dull Harvard, APA, MHRA neu Vancouver

Mae'r Llyfrgell hefyd yn cynnig gweithdai ar-lein rhyngweithiol i athrawon. Y sesiwn ragarweiniol yw Dysgu cyfunol ar gyfer y chweched dosbarth ac addysg bellach: cefnogi sgiliau trosiannol ar gyfer prifysgol a chyflogaeth. Mae'n cynnwys enghreifftiau o arferion da a strategaethau sy'n canolbwyntio ar weithdai myfyrwyr y Gwasanaeth Llyfrgell a'r Pecyn Cymorth i Athrawon.

Os ydych yn athro ac os hoffech drefnu gweithdy grŵp ar gyfer eich myfyrwyr, cysylltwch â ni o leiaf un mis i drafod eich gofynion.

Gallwch ddefnyddio'r un ffurflen gyswllt os hoffech gymryd rhan yn un o'n gweithdai ar-lein i athrawon.

Deunydd hyfforddi

Pecyn i Athrawon: Dod o hyd i wybodaeth o safon a sut i roi’r cyfeirnodau mewn

Arweiniodd y dolenni gwe yn y pecyn i athrawon at amrywiaeth o ddeunydd dysgu y gellir ei argraffu, a deunydd dysgu ar-lein. Maent wedi'u dylunio i'w defnyddio o fewn yr ystafell ddosbarth yn yr ysgol, neu i helpu â dysgu'n annibynnol. Mae'r holl ddeunydd dysgu wedi'u grwpio yn ôl thema a'u halinio â'r Amcanion Dysgu canlynol:

  • Cryfderau a gwendidau ffynonellau gwybodaeth
  • Sut a ble i ddod o hyd i adnoddau
  • Dewis adnoddau (gwerthuso beirniadol)
  • Defnyddio adnoddau mewn modd cyfrifol (dyfynnu, cyfeirio ac osgoi llên-ladrad)

Adnoddau pellach

Cyfeirlyfr o Gyfnodolion Mynediad Agored – mae'r cyfeirlyfr hwn, sy'n cael ei guradu'n gymunedol, yn cynnig mynediad at gyfnodolion o safon uchel, â mynediad agored ac wedi'u hadolygu gan gymheiriaid.

Cyfeiriadur Llyfrau Mynediad Agored - Mae'r cyfeiriadur hwn sydd wedi'i guradu gan y gymuned yn darparu mynediad at lyfrau mynediad agored ysgolheigaidd, a adolygir gan gymheiriaid, ac yn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i gyhoeddwyr llyfrau mynediad agored dibynadwy.

Mynediad at Ymchwil – Mynediad galw heibio, rhad ac am ddim at dros 15 miliwn o erthyglau academaidd, ar gael o unrhyw lyfrgell yn y DU sy'n rhan o'r cynllun. Cewch fynediad at nifer o bapurau academaidd gorau'r byd a gallwch ddefnyddio'r gronfa ddata i ddod o hyd i lyfrgell sy'n agos i chi, lle allwch weld y testun yn ei gyfanrwydd.