Cyn-fyfyrwyr
Fel un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd mae gennych chi hawl i aelodaeth llyfrgell.
Ar hyn o bryd mae pob llyfrgell Prifysgol Caerdydd ar gau i aelodau o'r cyhoedd ac ni allwn gynnig aelodaeth llyfrgell newydd o ganlyniad i coronafeirws (COVID-19). Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd y gwasanaeth ar gael.
Unwaith y byddwch wedi ymuno fel aelod sy’n gynfyfyriwr byddwch yn gallu benthyg hyd at chwe eitem ar unrhyw adeg o'n casgliadau pythefnos a phedair wythnos. I weld rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau i fyfyrwyr, gallwch ymweld â'n tudalen benthyg llyfrau.
Codir tâl blynyddol o £10 am aelodaeth cynfyfyriwr yn eich blwyddyn gyntaf a £25 am bob blwyddyn wedyn, neu gynnig cyflwyniadol o £50 am aelodaeth tair blynedd.
Sut i ymuno
I ymuno a chael cerdyn llyfrgell ewch i Lyfrgell Senghennydd neu’r Llyfrgell Iechyd yn ystod amseroedd cofrestru. Bydd angen eich rhif cynfyfyriwr a ffurflen aelodaeth wedi'i gwblhau arnoch.
Amserau cofrestru
Llyfrgell | Amserau cofrestru |
---|---|
Llyfrgell Senghennydd | Dydd Llun i ddydd Gwener 09:00 - 21:00, Dydd Sadwrn 10:00 - 17:00 (yn ystod y tymor) Dydd Llun i ddydd Gwener 09:00 - 16:30 (yn ystod y gwyliau) |
Llyfrgell Iechyd | Dydd Llun i ddydd Gwener 10:00 -15:00 (cysylltwch â'r Llyfrgell Iechyd cyn ymweld i weld os yw'r gwasanaeth Cerdyn Adnabod ar gael) |
Ffurflen aelodaeth

Membership form (Welsh)
Cwblhewch ein ffurflen aelodaeth i ymuno a defnyddio ein llyfrgelloedd.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Aelodaeth Llyfrgell
Rhif cynfyfyriwr
Bydd angen eich rhif cynfyfyriwr arnoch chi, a gallwn ni gael hyd iddo i chi yn ystod oriau swyddfa.
Fodd bynnag, os ydych yn bwriadu ymweld â’r llyfrgell y tu allan i oriau swyddfa, cysylltwch â Swyddfa’r Cynfyfyrwyr cyn eich ymweliad i gael hyd i’r rhif eich hunan.