Ewch i’r prif gynnwys

Prynu a gwerthu tŷ

Gallwch chi hawlio costau ffioedd cyfreithiol yn unig sy'n gysylltiedig â phrynu a/neu werthu eich cartref.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • ffioedd cyfreithwyr (os ydy eich cyfreithwr wedi gofyn am dâl rhag blaen, nid yw'r Brifysgol fel arfer yn gallu eu talu yn uniongyrchol. Cysylltwch ag Adnoddau Dynol os oes gennych broblemau).
  • ffioedd gwerthwyr tai/syrfewyr
  • holl chwiliadau ('searches')
  • ffioedd prisiad
  • ffioedd trefnu morgais (os yn cael eu talu mewn un swm ac heb eu hychwanegu i'r morgais)
  • Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref (HIPS)
  • treth stamp.

Ni fydd y Brifysgol yn ad-dalu unrhyw ffioedd eraill.

Mae'r rhestr ganlynol yn nodi'r eitemau nad ydynt yn ad-daladwy oherwydd rheoliadau Cyllid y Wlad neu sydd heb eu cynnwys yn ein polisi adleoliad. Nodwch nid yw hon yn restr gynhwysfawr:

  • prynu unrhyw gelfi neu offer ar gyfer y cartref newydd
  • unrhyw filiau yn y cartref
  • blaendal i gadw tŷ/fflat
  • costau clanhau
  • ffi trefnu morgais os ychwanegwyd hi i'r morgais
  • costau tacsi wrth edrych am lety
  • teithio i'r gwaith
  • costau bwyd a threuliau eraill wrth deithio i Gaerdydd
  • treth y cyngor ar gyfer y cyfnod mae eich hen gartref yn wag cyn ei werthu
  • cymorthdaliadau morgais neu lety os ydych yn symud o ardal lle'r oedd y tai yn rhatach na'u prisoedd yn yr ardal newydd
  • taliadau llog ar gyfer morgais eich cartref presennol
  • ailgyfeirio post
  • prynu gwisgoedd ysgol newydd i'r plant
  • talu am golledion eraill fel tocyn teithio sydd heb ei ddefnyddio'n llawn
  • yswiriant, cynnal a chadw a diogelwch ar gyfer eich hen gartref os yn wag ac yn aros i gael ei werthu
  • cosbau ar gyfer ad-dalu benthyciad sy'n ymwneud â'ch cartref
  • ffioedd arwerthwr
  • hysbysebu
  • datgysylltu a/neu gysylltu gwasanaethau.

Os bydd gwerthiant neu bryniad eich cartref yn methu, yna bydd modd i chi hawlio treuliau cymwys cyn belled eich bod yn newid eich preswylfa o fewn y cyfnod penodedig. Nodwch fydd unrhyw gostau o'r gwerthiant a/neu bryniad cyntaf yn cael eu didynnu o'ch lwfans adleoliad.

Os nad ydych yn gallu gwerthu eich cartref, yna mae'n annhebygol y bydd modd i chi ymestyn y cyfnod y gallwch chi hawlio costau adleoliad. Y rheswm am hyn yw bod yna reolau Cyllid y Wlad o ran y cyfnod y gallwch hawlio costau adleoliad. Os oes yna amgylchiadau arbennig cysylltwch ag Adnoddau Dynol i drafod ymhellach.

Nid yw'r Brifysgol yn gweithredu cynllun sy'n gwarantu pris gwerthiant eich cartref presennol. Os bydd symud yn nawr yn golygu eich bod yn colli arian wrth werthu eich cartref, mae rheolau Cyllid y Wlad yn gwahardd y Brifysgol rhag cynnwys hwn yn y costau adleoliad felly ni fydd modd i ni eich ad-dalu.

Cysylltu

Pobl Caerdydd