Ewch i’r prif gynnwys

Hawlio arian

Dylai'r holl geisiadau gael eu cyflwyno o fewn blwyddyn o gychwyn eich swydd yn y Brifysgol.

I hawlio eich treuliau adleoliad, bydd angen i chi gwblhau a chyflwyno'r ffurflen hawlio costau adleoliad

Gallwch chi oedi symud am resymau teuluol ond dim mwy na blwyddyn. Siaradwch ag Adnoddau Dynol os oes angen i chi ymestyn y cyfnod hwn.

Nid oes modd talu eich costau adleoliad o flaen llaw (cyn i ni gael eich derbynebau a'ch gwaith papur). Bydd eich costau adleoliad yn cael eu talu unwaith bydd y Brifysgol wedi gwirio eich cais a'r ddogfennaeth wreiddiol.