Ewch i’r prif gynnwys

Swyddi Gwag Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr

Bydd ein his-strategaeth Addysg a Myfyrwyr yn gwella ansawdd y dysgu, yr addysgu a phrofiad y myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn 2020, gwnaethom gyhoeddi Y Ffordd Ymlaen 2018-2023: Ail-lunio COVID-19, diweddariad i’r strategaeth bresennol. Ar ôl hynny, yn gynnar yn 2021, gwnaethom adnewyddu ein his-strategaeth Addysg a Myfyrwyr i adlewyrchu ein hamgylchiadau o ganlyniad i bandemig COVID-19 a hefyd adeiladu ar y datblygiadau sylweddol a wnaed yn ystod y naw mis diwethaf.

Mewn ymateb i'n strategaeth newydd, rydym yn recriwtio i lenwi nifer o swyddi newydd, gyda'r bwriad o sicrhau newid trawsnewidiol i brofiad y myfyrwyr yn y blynyddoedd i ddod. A hwythau’n seiliedig ar chwe maes blaenoriaeth yr is-strategaeth, bydd y swyddi hyn yn cefnogi ein portffolio newydd o waith ac yn canolbwyntio ar sicrhau gwelliannau uchelgeisiol sy’n seiliedig ar dair thema allweddol i brofiad y myfyrwyr:

  • llwyddiant myfyrwyr
  • athrawon sy’n ysbrydoli
  • amgylchedd cynhwysol ac arloesol

I gael rhagor o wybodaeth am y portffolio hwn o waith, ebostiwch ltacademy@caerdydd.ac.uk neu’r pwynt cyswllt ar gyfer y swydd berthnasol (manylion i’w gweld yn y swydd ddisgrifiad).