Ewch i’r prif gynnwys

Addysg ddigidol

Rydym yn arwain ac yn cefnogi ystod o arferion, prosiectau a mentrau addysg ddigidol i wella addysgu a gwella profiad myfyrwyr.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion ac adrannau i ymgorffori addysg ddigidol yn briodol a gwella profiad myfyrwyr yn unol â'r Is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr, a thrwy'r Portffolio Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.

Rydym hefyd yn arwain sawl prosiect a menter addysg ddigidol drawsnewidiol fel rhan o Bortffolio Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.

Ein Prosiectau

Adolygiad o'r Amgylchedd Dysgu Digidol

Bydd prosiect yr Amgylchedd Dysgu Digidol yn gwella profiad myfyrwyr a staff trwy gyflwyno:

  • Amgylchedd llawer gwell gyda Chyrsiau Blackboard Ultra wrth ei wraidd fydd yn rhoi profiad gwell i ddefnyddwyr drwy ddefnyddio templedi newydd ar gyfer modiwlau sy’n safonol, yn symlach, yn gyfeillgar i ffonau symudol
  • dull newydd o fynd ati i Ddylunio Dysgu a chyflwyno modiwlau, yn cyd-fynd yn llawn â'n Gwasanaeth Datblygu Addysg
  • gwell integreiddio â phlatfformau cydweithio sydd yn unol â’r diwydiant a gwell integreiddio â gwasanaethau eraill y brifysgol
  • prosesau gweinyddu a chefnogi digidol cyson ac integredig

Ar ôl peilot llwyddiannus ym mlwyddyn academaidd 2021/22, caiff Cyrsiau Uwch Blackboard eu cyflwyno ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2022/23 i dargedu rhaglenni, cyn y bydd darpar ddarpariaeth Prifysgol gyfan yn 2023/24.

Cyrsiau agored ac ar-lein

Mae tîm dylunio cwrs profiadol yr Academi Dysgu ac Addysgu yn gweithio gyda staff academaidd ac arbenigwyr pwnc i ddatblygu deunyddiau ar-lein ar gyfer gwahanol fathau o ddysgwyr ar nifer o blatfformau gwahanol, gan gynnwys y platfform dysgu FutureLearn.

Mae Prifysgol Caerdydd yn aelod sefydlol o FutureLearn, ac wedi datblygu 13 cwrs ar-lein am ddim ar y platfform ers 2013 gyda chyfanswm o 112,000 o fyfyrwyr ar y gofrestr. Mae cyrsiau mwyaf poblogaidd Caerdydd yn cynnwys 'Gweithio gyda Chyfieithu', 'Mwslimiaid ym Mhrydain: Newidiadau a Heriau', 'Newyddiaduraeth Gymunedol' a 'Gwneud Synnwyr o Dystiolaeth Iechyd' - pob un â thros 9,000 o gofrestriadau.

Mae diweddariadau diweddar i'r portffolio o gyrsiau a gynigir gan Gaerdydd ar FutureLearn yn cynnwys lansio 'Deall Iechyd Meddwl Mwslimaidd' yn 2022, gan archwilio profiadau iechyd meddwl unigryw Mwslimiaid a sut gellir gwella cymorth iechyd meddwl mewn cymunedau Mwslimaidd; a diweddariad o'r cwrs 'Her Diogelwch Dŵr Byd-eang' sy'n cyflwyno dysgwyr i heriau diogelwch dŵr ar raddfa leol a byd-eang.

Rydym bellach yn ehangu'r mathau o gyrsiau yr ydym yn eu cynnig yn llawn ar-lein i ehangu'r portffolio presennol, yn enwedig datblygu cyrsiau microcredydau newydd sy'n cynnwys y cyfle i gael credyd academaidd ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus.

Mae'r microcredydau presennol mewn datblygiad yn cynnwys y cwrs 15 credyd 'Applications of Machine Learning' yn yr ardal gynyddol o Ddeallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol, i'w lansio ym mis Ionawr 2023 ar lwyfan FutureLearn. Mae'r cwrs yn gwrs 12 wythnos, Lefel-7 yn llawn ar-lein sy'n cael ei ddatblygu ar y cyd rhwng staff academaidd o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, aelodau o'r tîm Addysg Ddigidol a FutureLearn.

Gwreiddio a chefnogi dysgu digidol a chymysgu

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion ac adrannau i ymgorffori ymarfer addysg ddigidol yn briodol i addysgu, dysgu ac asesu, er budd holl fyfyrwyr a staff Caerdydd.

Ein Tîm

Mae ein partneriaid addysg ddigidol yn darparu arbenigedd ac arweiniad i gydlynu gweithgareddau a phrosiectau addysg ddigidol, gan sicrhau bod darpariaeth gyfunol ac ar-lein wedi'i chynllunio, ei rheoli a'i chefnogi'n briodol. Mae gan bob ysgol academaidd bartner addysg ddigidol i helpu i bennu blaenoriaethau ysgolion, mynd i fyrddau a chyfarfodydd perthnasol a chydlynu gwaith addysg ddigidol a phrosiectau i'w hysgolion.

Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag adrannau gwasanaethau proffesiynol i gefnogi datblygiad addysgu ac adnoddau sy'n wynebu myfyrwyr.

Mae ein Hwb Cymorth Addysg Ddigidol yn rhoi hyfforddiant a chefnogaeth hyblyg ac ymatebol o ddydd i ddydd ar gyfer adnoddau addysg ddigidol, platfformau ac arferion gorau ar gyfer cydweithwyr ledled y brifysgol .

Y Fframwaith Dysgu Cyfunol

Mae dulliau cyfunol yn defnyddio dulliau lluosog i ddarparu dysgu effeithiol, hyblyg a hygyrch drwy gyfuno rhyngweithio wyneb yn wyneb â gweithgareddau ar-lein. Mae'r Fframwaith Dysgu Cyfunol yn cynnig arweiniad ar gynllunio a darparu rhaglenni ar draws Prifysgol Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys sail i egwyddorion a disgwyliadau tra'n darparu ystod eang o opsiynau ar gyfer dylunio dysgu ac asesu er mwyn diwallu amrywiaeth o anghenion pwnc. Mae'r Fframwaith yn cynnwys yr elfennau canlynol:

  • Mae'r Ddewislen ar gyfer Gweithgareddau Dysgu Cyfunol yn ganllaw i rai o'r gweithgareddau dysgu cyfunol mwyaf cyffredin i helpu cydweithwyr i gynllunio'r dysgu ar eu modiwl.
  • Mae'r Ddewislen ar gyfer Asesu Addysg Ddigidol yn cynnig arweiniad ar ystod eang o weithgareddau asesu sy'n addas ar gyfer amgylchedd dysgu cyfunol.
  • Cyfres o dempledi, gan gynnwys templed modiwl Dysgu Canolog, templed map modiwl wythnosol, a thempled map asesu, pob un wedi'i gynllunio i ddod â chysondeb a strwythur i brofiad dysgu myfyrwyr.
  • Canllawiau ar gefnogi taith myfyrwyr drwy fodiwl, i helpu cydweithwyr i gefnogi ac ymgysylltu â myfyrwyr, yn enwedig drwy'r amgylchedd ar-lein.

Mentrau eraill

Rydym wedi arwain, ac yn parhau i arwain, nifer o fentrau i ymgorffori offer addysg ddigidol briodol, addysgegwyr ac ymarfer i sut rydym yn gwneud pethau yng Nghaerdydd. Mae rhai datblygiadau diweddar yn cynnwys:

  • Datblygu a chefnogi stiwdios recordio hunanwasanaeth lle gall staff ddatblygu cynnwys fideo o safon uchel i'w ddefnyddio yn eu haddysgu.
  • Cyflwyno a chefnogi offer a llwyfannau newydd gan gynnwys:
    • Padlet, offer dysgu cydweithredol sydd bellach â 900 o ddefnyddwyr ledled Prifysgol Caerdydd.
    • Mobius, sy'n cynnig adnoddau e-asesu cadarn ar gyfer pynciau STEM.
    • LinkedIn Learning, sy'n darparu cyfoeth o ddeunyddiau ar-lein wedi'u curadu i bob myfyriwr a staff ar gyfer eu dysgu a'u datblygiad proffesiynol.
  • Gan ddarparu, mewn partneriaeth â'r brifysgol Agored, y cyfle i dros 160 o gydweithwyr gwblhau, a chael credydau yn un o gyrsiau FutureLearn o'r enw 'Online Teaching: Creating Courses for Adult Learners', gan ddod ag amrywiaeth eang o staff o bob rhan o'r brifysgol at ei gilydd i ffurfio cymuned ddysgu fywiog.
  • Datblygu Ysbyty Rhithwir Cymru, llwyfan ar gyfer creu efelychiadau ymdrwythol ar gyfer holl brifysgolion Cymru a GIG Cymru.