Ewch i’r prif gynnwys

Rolau uwch reolwyr

Mae gan y swyddi uwch reolwyr i gyd eu proses recriwtio a gwneud cais eu hun.

Swyddi gwag

Pennaeth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y rôl hon record academaidd ragorol mewn disgyblaeth berthnasol ac yn meddu ar alluoedd arweinyddiaeth a rheoli eithriadol ochr yn ochr â hanes o gyflawni strategol llwyddiannus. Bydd gennych yr awdurdod, presenoldeb ac arbenigedd personol i gynrychioli'r ysgol ac i bob pwrpas ymhellach ei ddiddordebau cyffredinol.

Cyfarwyddwr Rhaglenni Iaith Saesneg a Dysgu Gydol Oes

Prifysgol Caerdydd yn recriwtio ar gyfer Cyfarwyddwr Rhaglenni Iaith Saesneg a Dysgu Gydol Oes

Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd

Bellach, rydym eisiau penodi ein Rhag Is-Ganghellor nesaf a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd. Mae Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, sy’n cynnwys saith ysgol academaidd sydd â mwy na 2,000 o staff a 7,000 o fyfyrwyr, yn gymuned academaidd ffyniannus sy'n cynnig cyd-destunau ymchwil a dysgu o safon fyd-eang. Gydag ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, ceir llawer o gyfleoedd cyffrous i gydweithio ar draws y Coleg a chyda phartneriaid allanol.

Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg

Bellach, rydym eisiau penodi ein Rhag Is-Ganghellor nesaf a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Mae Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, sy’n cynnwys saith ysgol academaidd sydd â mwy na 2,000 o staff a 7,000 o fyfyrwyr, yn gymuned academaidd ffyniannus sy'n cynnig cyd-destunau ymchwil a dysgu o safon fyd-eang. Gydag ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, ceir llawer o gyfleoedd cyffrous i gydweithio Bellach, rydym eisiau penodi ein Rhag Is-Ganghellor nesaf a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Mae'r Coleg, sy’n cynnwys saith Ysgol academaidd, yn enwog yn rhyngwladol am ei ymchwil a'i addysgu rhagorol ac mae wedi ymrwymo i ddatrys rhai o heriau mwyaf enbyd y byd. Mae potensial mawr i’r Coleg ychwanegu at ei ragoriaeth ar draws ymchwil ac addysgu ac elwa ar fuddsoddiadau yn seilwaith y Brifysgol megis y Ganolfan Ymchwil Drosi. Bydd y Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth nesaf yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth, gweledigaeth a chyfeiriad strategol ac academaidd i’r Coleg, gan ddatblygu a chyflwyno strategaeth newydd a fydd yn cyd-fynd â strategaeth gyffredinol y Brifysgol mewn cydweithrediad ag aelodau eraill o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.