Ewch i’r prif gynnwys

Crefydd

Rydyn ni’n annog rhagor o drafodaeth, yn newid canfyddiadau ac yn creu ffiniau newydd.

Mae ein hacademyddion uchel eu parch yn gwthio ffiniau ar draws a thu hwnt i'r ddisgyblaeth i gael effaith barhaol ar wybodaeth y cyhoedd am grefyddau drwy hanes a'r gymdeithas ehangach.

Rydyn ni’n ymchwilio ar draws ystod hynod o ddiddorol o feysydd, gan gynnwys crefyddau hanesyddol sy'n ymestyn o Fôr y Canoldir i ddwyrain Asia, a'r Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU yw'r prif sefydliad ar gyfer ymchwil gymdeithasegol ar wahanol agweddau ar gymunedau Mwslimaidd yn y DU.

Rydyn ni’n parhau i herio ffiniau gwybodaeth gonfensiynol ac i adlewyrchu a dadansoddi dadleuon cyfoes am grefydd a throsglwyddo diwylliannol mewn cyd-destunau hanesyddol a rhyngwladol.

Er mwyn gwneud testunau crefyddol pwysig yn fwy hysbys a dealladwy, mae ein hacademyddion wedi cyhoeddi cyfieithiadau ac astudiaethau cyflawn o'r Harivaṃśa, yr atodiad i'r epig Indiaidd mawr Mahābhārata, a stele Nestorian Xi'an, dogfen bwysig o'r eglwys Gristnogol ganoloesol yn China.

Rydyn ni hefyd yn gweithio ar y cyd â'n cydweithwyr yn yr Ysgol Archeoleg a Hanes i sicrhau dealltwriaeth well a dyfnach o ddatblygiad y traddodiadau crefyddol rydyn ni'n eu hastudio.