Ewch i’r prif gynnwys

Bwyd Cynhanesyddol: newid agweddau at fwyd a gwella arferion treftadaeth

Mae archaeolegwyr o Brifysgol Caerdydd wedi gwrthdroi ein dealltwriaeth o fwyd, ffermio a gwledda cynhanesyddol, gan greu newid mewn arferion treftadaeth.

Stonehenge in Wiltshire

Gan herio rhagdybiaethau ynglŷn â beth oedd pobl yn ei fwyta, a sut, yn y cyfnod cynhanesyddol, mae’r prosiect ymchwil Bwyd Cynhanesyddol wedi cadarnhau arwyddocâd cymdeithasol a diwylliannol bwyd yn y cyfnod cynhanesyddol trwy ymchwil ar raddfa ryngwladol a bioarchaeoleg arloesol.

Archwiliodd y tîm ffermio, gwledda a bwyd yn y cyfnod cynhanesyddol mewn cyfres o brosiectau mawr (2008-2019) i ddatgelu newidiadau mewn arferion ffermio, milltiroedd bwyd gwledda rhyfeddol a diet llawer mwy amrywiol nag a ddeallwyd yn flaenorol.

Gan gyfuno tactegau ymgysylltu Archaeoleg Guerilla arloesol a’u canfyddiadau blaengar, ymgysylltodd y tîm ymchwil â dros hanner miliwn o bobl, gan rannu eu canfyddiadau mewn safleoedd treftadaeth, gweithdai cymunedol, a gwyliau mawr y Deyrnas Unedig.

Mae llwyddiant meintiol ac ansoddol y prosiect i’w weld yn y ffaith bod yr ymchwil wedi dylanwadu ar arferion treftadaeth, gan ymgorffori newid a arweinir gan ymchwil yn y defnydd a wneir o safle heneb gynhanesyddol enwocaf Prydain, Côr y Cewri. Ffurfiodd yr ymchwil ar y cyd yr arddangosfa 'Gwledd' yng Nghôr y Cewri a chreu rhaglen o ddigwyddiadau yng Nghôr y Cewri a ledled y Deyrnas Unedig. Roedd English Heritage wedi elwa o gynnydd yn nifer yr ymwelwyr blynyddol, gwell profiad i ymwelwyr, a gwell sgiliau gwirfoddolwyr.

Rôl bwyd yn y gymdeithas gynhanesyddol

Mae’r ymchwil wedi helpu trawsnewid dealltwriaeth o rôl economaidd, gymdeithasol a diwylliannol bwyd yn y gorffennol.

Fe wnaeth cymhwyso dyddio uniongyrchol ac ystadegau Bayesaidd ar raddfa fawr wella’r ddealltwriaeth o gyflwyno ffermio yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop, sef newid mawr mewn caffael bwyd. Datblygodd bioarchaeolegwyr Prifysgol Caerdydd fethodolegau newydd hefyd i ymchwilio i ddiet hynafol a tharddiad bwyd trwy fireinio dadansoddiad isotopau strontiwm ac integreiddio sŵarchaeoleg â dadansoddiadau o weddillion lipid. Yn arwyddocaol, canfu’r prosiect Bwyd Cynhanesyddol fod ffafriaeth (o bysgota i ffermio llaeth) ac effaith (goresgyn anoddefiad i lactos trwy brosesu llaeth) yn drech o lawer na dewisiadau pragmatig mewn diet cynhanesyddol.

Datgelodd y prosiect ddarlun o symudedd helaeth, gan roi’r ddealltwriaeth fanylaf hyd yma o amrywiaeth y bobl a oedd yn ymgymryd â defodau mewn henebion Neolithig, gyda chyflenwi’n ymestyn ar draws Ynysoedd Prydain.

Mynd â chynhanes i'r 21ain ganrif drwy ymgysylltu ac arferion treftadaeth

Wedi’i hategu gan ymchwil Prifysgol Caerdydd, roedd arddangosfa’r Wledd yng Nghôr y Cewri (2017-18) wedi denu dros 560,000 o ymwelwyr, gwella’r profiad i ymwelwyr, ac ailddiffinio’r ffordd y cyflwynir y gorffennol. Dywedodd un o bob saith ymwelydd fod yr arddangosfa wedi dylanwadu’n gryf ar eu penderfyniad i ymweld, a bu’n rhan o gynnydd 14.5% yn nifer yr ymwelwyr ers y flwyddyn flaenorol.

Roedd y dadansoddiadau isotop a’r dehongliadau a gynhaliwyd gan Richard Madgwick a Jacqui Mulville yn rhan arwyddocaol o’r ymchwil a gyflwynwyd yn arddangosfa’r Wledd. Mae gwybod bod pobl ac anifeiliaid wedi teithio’n bell i’r ardal yn newid yn llwyr sut rydym yn meddwl am y bobl a adeiladodd Côr y Cewri, pwy oedden nhw ac o ble y daethon nhw.
Dr Susan Greaney Uwch Hanesydd Eiddo English Heritage

Dan arweiniad yr Athro Jacqui Mulville, mae’r grŵp ymgysylltu Archaeoleg Guerilla yn manteisio ar archaeoleg i herio tybiaethau cyffredin, gan ddefnyddio ei fframwaith ymgysylltu arloesol mewn lleoliadau anhraddodiadol gyda chynulleidfaoedd anodd eu cyrraedd.

Gan fabwysiadu’r fframwaith profedig hwn, creodd y tîm Bwyd Cynhanesyddol raglen o ddigwyddiadau rhyngweithiol a welodd dros 20,000 o bobl yn cael profiad ymarferol o weithgareddau yn amrywio o greu ryseitiau a garddio cynhanesyddol, i’r siop dros dro Neolithig ymdrwythol, Stonehengebury’s. Daeth i ben gyda gŵyl Penwythnos y Wledd Fawr a gynhaliwyd yng Nghôr y Cewri, a ddefnyddiodd y safle mewn ffordd newydd.

Key stats: Guerilla Archaeology – Feast engagement, 17 events held in 13 UK locations (including Glastonbury). Travelled back 5,000 years. Engaged with 20,000 visitors. 5,500 hours of volunteer time. 10 feasts cooked. 12kg of grain ground (262 hours of grinding). 40 ingredients in Stonehengebury’s pop-up. 9,354 recipes shared. 1,220 grow your own kits given away. 190k Twitter views. 40k Facebook views.
Ffeithlun yn dangos ymgysylltu gan y prosiect Cynhanes Treulio (Credyd Llun: Kirsty Harding).

Ystadegau allweddol: Archaeoleg Guerilla – Ymgysylltu â Feast

  • 17 o ddigwyddiadau wedi’u cynnal mewn 13 o leoliadau yn y DU (gan gynnwys Glastonbury)
  • Wedi teithio yn ôl 5,000 o flynyddoedd
  • Wedi ymgysylltu ag 20,000 o ymwelwyr
  • 5,500 awr o amser gwirfoddolwyr
  • 10 gwledd wedi eu harlwyo
  • 12kg o rawn a falwyd (262 awr o falu)
  • 40 o gynhwysion yn stondin dros dro Côr y Cewri
  • Rhannwyd 9,354 o ryseitiau
  • 1,220 o becynnau tyfu wedi'u rhoi i ffwrdd
  • 190k o weliadau Twitter
  • 40k o weliadau Facebook

Ers hynny, mae English Heritage wedi mabwysiadu dull Gwledd fel arfer gorau, gan ymgorffori ymchwil newydd a defnydd amrywiol o safleoedd yn eu strategaeth ymgysylltu tymor hwy. Fe wnaeth digwyddiadau hyfforddi dan arweiniad y tîm ymchwil gyda gwirfoddolwyr English Heritage agor mynediad at wybodaeth newydd, cynyddu hyder, a'u grymuso i gyflwyno arddangosiadau a phrosiectau newydd.

Gyda’i gilydd, rhoddodd arddangosfa’r Wledd a Phenwythnos y Wledd Fawr ddangosyddion pwerus o brofiad, gan gynnwys cyfraddau boddhad uwch, mwy o amrywiaeth ymhlith ymwelwyr, ac ymweld am gyfnod hwy. Gwnaethant hwy, ynghyd â gwyliau ehangach ar draws y Deyrnas Unedig newid gwybodaeth ymwelwyr o ran eu dealltwriaeth o dechnoleg a bwyd cynhanesyddol, gan ysgogi’r cyfranogwyr i wneud cysylltiadau trawiadol â phrofiadau modern.

Doedd gen i ddim syniad bod y ffermwyr cyntaf yn anoddefgar i lactos…mae’n gwneud y gorffennol yn haws uniaethu ag ef ac yn rhoi tystiolaeth i mi pan fydd pobl yn dweud mai ffasiwn gyfoes yw anoddefiadau!
Cyfranogwr Guerilla Archaeology

Mae’r prosiect wedi newid dealltwriaeth y cyhoedd o fwyd cynhanesyddol yn fyd-eang, gyda:

Gan ysgogi trafodaeth am fwyd Neolithig mewn gwyliau, safleoedd archaeolegol, ac ar-lein, mae'r prosiect Bwyd Cynhanesyddol wedi cael effaith barhaol ar gyflwyno bwyd mewn arferion cynhanesyddol a threftadaeth.