Ewch i’r prif gynnwys

Rhieni a chefnogwyr

Sut y gallwn ni eich helpu i asesu ac ymdrin â chyflwr llesiant eich oedolyn ifanc tra ei fod yn y brifysgol.

Cymorth i rieni

Os bydd argyfwng

Os oes gennych chi unrhyw bryderon brys a difrifol ynghylch iechyd neu les myfyriwr, cysylltwch â'r Swyddfa Diogelwch drwy ffonio +44 (0)29 2087 4444.

Mae'r swyddfa ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Pryderu am Fyfyriwr

Os ydych chi'n pryderu am fyfyriwr, ond nad yw’r pryder yn fater o frys, llenwch y ffurflen pryder myfyrwyr.

Ein nod yw ateb eich ymholiad ymhen 1 diwrnod gwaith. Mae ein swyddfa ar agor 10:00 - 16:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor yn unig.

Sut i godi pryder

Cysylltu â myfyriwr

Deallwn efallai y byddwch chi eisiau cysylltu â'ch myfyriwr o bryd i’w gilydd, ond nad yw hynny wastad yn bosibl.

Rydyn ni’n cydnabod mai oedolion annibynnol yw ein myfyrwyr, felly mae angen cael eu caniatâd inni fedru siarad ag unrhyw un y tu allan i'r brifysgol yn eu cylch, gan gynnwys rhieni a gwarcheidwaid.

Ni fedrwn ni ddatgelu i riant neu warcheidwad os myfyriwr yn y brifysgol ydy’r unigolyn dan sylw, na roi gwybod iddo am leoliad y person, ond gwawn ein gorau i ddilyn trywydd unrhyw bryderon a godwyd.

Cysylltiadau Dibynadwy

Mewn rhai amgylchiadau, pan godiff bryder difrifol o ran iechyd neu les myfyriwr, efallai y byddwn ni’n cysylltu â'i gyswllt dibynadwy.

Cyswllt dibynadwy yw unigolyn y mae'r myfyriwr wedi’i enwebu, gan ei fod yn ymddiried ynddo i drin â gwybodaeth sensitif yn ei gylch, a gall y brifysgol gysylltu ag ef os daw pryder difrifol ynghylch y myfyriwr i’r golwg.

Ym mhob achos, byddwn yn cysylltu â chyswllt dibynadwy y myfyriwr gyda budd gorau'r myfyriwr mewn golwg. Ei nod yw ymgysylltu â rhwydweithiau cymorth y myfyriwr, a all helpu i gadw'r myfyriwr dan sylw yn ddiogel ac yn iach. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, byddwn ni’n cytuno ar hyn gyda'r myfyriwr yn y lle cyntaf.

Rydyn ni’n dibynnu ar fyfyrwyr i ddarparu manylion cyswllt y cyswllt dibynadwy ar adeg gofrestru gyda'r Brifysgol, a chadw'r manylion hynny’n gyfredol a phriodol.

Gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i roi arweiniad i fyfyriwr

Gwasanaethau i fyfyrwyr presennol yn unig.

Cyfeiriwch eich myfyriwr at yr adnoddau sydd ar gael iddyn nhw ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cefnogi myfyriwr newydd

Awgrymiadau da i'r rheiny sy'n cefnogi myfyrwyr newydd wrth iddyn nhw baratoi at ddechrau yn y brifysgol.