Ewch i’r prif gynnwys

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a dathlu amrywiaeth.

Rydym yn gwneud hyn drwy feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol ar gyfer y myfyrwyr a’r staff, beth bynnag fo’u rhyw, anabledd, tarddiad ethnig, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, oedran a’u cenedligrwydd, a thrwy hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.

Rydym yn gymuned fywiog ac amrywiol, ac mae’r myfyrwyr a’r staff yn dod o nifer o wledydd a chefndiroedd ethnig. Mae hil, crefydd, anabledd, rhyw a rhywioldeb oll yn rhannau craidd o’n haddysgu a meysydd ymchwil gweithredol ar gyfer sawl aelod o’n staff.

Yn rhan o’n hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac er mwyn ychwanegu at ein hymdrechion, yn enwedig ym maes cydraddoldeb rhywiol, aethom ati i gyflwyno cais am wobr Athena SWAN yn mis Gorffennaf 2022.

Athena SWAN

Sefydlwyd Siarter Athena SWAN yn 2005 i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau, ac yn arbennig, y ffaith bod menywod yn cael eu tangynrychioli yn y gwyddorau. Ers hynny, mae wedi’i ehangu i gynnwys y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol, hefyd. Mae Prifysgol Caerdydd wedi dal gwobr Efydd sefydliadol ers 2009. Rydym yn falch o’r ffaith bod ein gwobr Efydd ein hunain wedi’i dyfarnu i ni ym mis Ionawr 2023.

Ar gyfer materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth, cysylltwch ag Arweinydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Ysgol, Dr Jane Moore.

Dr Jane Moore

Dr Jane Moore

Reader

Email
moorejv@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5669