Canolfan Datblygu Ysgrifennu
Mae'r Ganolfan Datblygu Ysgrifennu yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu myfyrwyr yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu academaidd ac iaith ysgrifenedig.
Ein nod yw eich helpu i bontio o ysgrifennu lefel uwchradd i lefel brifysgol, ac rydym yn cefnogi datblygiad eich sgiliau ysgrifennu trwy gydol eich rhaglen radd. Byddwn yn eich helpu i ddod yn ysgrifenwyr hyderus ac annibynnol.
Sesiynau datblygu ysgrifennu un i un
Mae ein tiwtoriaid profiadol yn mynd trwy'r darn o waith o'ch dewis, gan eich helpu i nodi meysydd sy’n peri problem, megis eglurder, strwythur, crynoder, a rhagor. Ein nod yw eich grymuso i ddod o hyd i atebion i chi'ch hun a magu eich hyder yn eich sgiliau ysgrifennu.
Gallwn weithio gyda chi ar unrhyw gam o’r broses ysgrifennu, o gynllun traethawd neu ddrafft cychwynnol, hyd at draethawd wedi'i farcio gydag adborth.
Gweithdai ysgrifennu
Rydym hefyd yn cynnig gweithdai ysgrifennu drwy gydol y flwyddyn academaidd, sy'n caniatáu i fyfyrwyr ddyfnhau eu dealltwriaeth o wahanol agweddau ar ysgrifennu a dadansoddi a thrafod y materion hyn gydag enghreifftiau o draethodau blaenorol. Mae'r pynciau'n cynnwys ysgrifennu cyflwyniadau a chasgliadau, strwythuro paragraffau, cydlyniant a llif, bod yn gryno, a llawer mwy.
Adnoddau ychwanegol
Rydym wedi datblygu ystod eang o fideos rhyngweithiol i gynyddu eich ymwybyddiaeth o arferion ysgrifennu academaidd, i'ch helpu chi i fagu hyder ac i wella'ch cyflogadwyedd.
Mae cynnwys y fideo yn amrywio o strwythur traethawd ac arddulliau cyfeirnodi Modern Humanities Research Association (MHRA) a Harvard i ddarllen hunanfeirniadol a golygu.