Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol

Monitro symudiadau yn y Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Cyhyrysgerbydol
Monitro symudiadau yn y Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Cyhyrysgerbydol.

Rydym yn cynnig canolfan integredig, flaenllaw ar gyfer ymchwil i fiofecaneg gyhyrysgerbydol a biobeirianneg.

Ein nodau

Sefydlwyd y cyfleuster i ehangu ein hymchwil i osteoarthritis a biofecaneg gyhyrysgerbydol. Ein nod yw:

  • datblygu ymchwil i glefydau a thriniaethau, gan gynnwys monitro adsefydlu a llawdriniaethau
  • cefnogi ymchwil ac addysg ar draws y Brifysgol
  • cynnig adnodd i glinigwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid
  • sefydlu man atgyfeirio yn y GIG ar gyfer dadansoddi cerddediadau’n glinigol
  • rhoi mynediad at dimau chwaraeon a busnesau y mae angen data biofecanyddol, clinigol neu ffisiolegol arnynt
  • denu ymchwilwyr rhyngwladol a chynnal rhagoriaeth ymchwil.

Ein cyfleuster

Mae ein cyfleuster ar lawr gwaelod Adeilad Trevithick yn yr Ysgol Peirianneg. Ar hyn o bryd, mae’n cynnal:

  • labordy dadansoddi symudiadau dynol yn glinigol
  • labordy addysgu symudiadau dynol
  • labordy fflwrosgopeg a symudiadau dynol
  • ystafell sganio MicroCT
  • ystafell asesu clinigol / tynnu gwaed.

Mae gennym hefyd ystafelloedd hyfforddi a chyfarfod, swyddfeydd ymchwil, man aros i ymwelwyr, mynediad a reolir ynghyd â chyfleusterau newid ac ymolchi i gleifion.

Nodweddion technegol

  • Mae pob labordy symudiad dynol yn cynnwys 12 camera cofnodi symudiadau Qualisys, 4-6 plât grym Bertec, synwyryddion electromyograffeg (EMG) arwynebol di-wifr Delsys, grisiau wedi'u hofferynnu a meddalwedd arbenigol ar gyfer segmentu delweddau, dadansoddi a modelu.
  • Mae gan y labordy fflworosgopeg system radiograffeg fideo deu-blân cyflymder uchel pwrpasol ar gyfer delweddu cymalau in-vivo.
  • Yn y labordy clinigol ceir dynamomedr isocinetig Biodex, a melin draed wedi'i hofferynnu.
  • Mae’r labordy addysgu’n cynnwys sganiwr Hologic DXA.
  • Mae system llwyfan ar gyfer mesur pwysedd/grym, mat gwasgedd Gaitrite a system Uwchsain Samsung RS80A yn gludadwy ar draws y cyfleuster.
  • Mae’r cyfarpar sy’n gwbl gludadwy’n cynnwys synwyryddion mesur inertiaidd corff llawn XSens, sganiwr 3D Artec, monitorau gweithgarwch Gene Active, system dadansoddi cymalau dynol celaneddol, system ddi-wifr ar gyfer mesur gwasgedd mewn esgid at ddibenion ymchwil, camerâu fideo Qualisys i gofnodi symudiadau, platiau grym ac Unedau Mesur Inertiaidd/EMG arwynebol (IMUs).
  • Mae ystafell microCT yn cynnwys Bruker SkyScan 1271.

Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth gan dechnegwyr i ddefnyddio’r cyfarpar.

Cyfarwyddwr y cyfleuster

Yr Athro Cathy Holt

Yr Athro Cathy Holt

Professor

Email
holt@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4533

Cysylltwch â ni

Cysylltwch os hoffech weld ein cyfleusterau neu drefnu i’w defnyddio.

MCyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol