Ewch i’r prif gynnwys

Michael Finch

Michael Finch

Ar ôl ymweld â Phrifysgol Caerdydd am y tro cyntaf yn ystod fy nghwrs Safon Uwch roeddwn yn siŵr fy mod am ddod yma i astudio. Roedd Caerdydd yn bopeth roeddwn i'n chwilio amdano, cydbwysedd perffaith rhwng addysg o'r radd flaenaf mewn Gwyddorau Daear, byw mewn dinas fach a mynediad rhwydd at yr awyr agored.

Mae'r ddinas yn sicr yn haeddu ei henw am un o'r 'nosweithiau allan' gorau yn y DU, ond mae'n cynnig cymaint mwy yn nhermau siopa, tai bwyta, chwaraeon byw a lleoliadau cerddoriaeth gwych. Mae safle'r Brifysgol yn berffaith, ac mae'r neuaddau preswyl gerllaw'n golygu bod popeth ar stepen y drws.

Roedd cyfleusterau'r Brifysgol ac yn benodol Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd yn wych, tra bo Undeb y Myfyrwyr, yn cynnig canolfan wych i gyfarfod â ffrindiau a dechrau fy ngyrfa.

Astudiais gwrs Daeareg (BSc), cwrs tair blynedd oedd yn sylfaen angenrheidiol ar gyfer fy ngyrfa'n ddiweddarach. Dwi ddim yn cyfeirio'n unig at yr wybodaeth dechnegol a ddatblygwyd dan arweiniad darlithwyr o safon fyd-eang, ond hefyd sgiliau mwy 'sylfaenol' ond lawn mor bwysig fel ymchwil, ysgrifennu adroddiadau a dadansoddi, ac mae'r rhain oll yn hanfodol yn fy swydd o ddydd i ddydd fel dadansoddwr nwyddau yn Uned Ymchwil Nwyddau.

Addysg bellach

Dilynais raglen Meistr mewn Daeareg Mwyngloddio yn Ysgol Cloddfeydd Camborne, Prifysgol Caerwysg. Er ei bod yn anodd cael lle yma, roeddwn i mewn safle da oherwydd natur rhaglen Daeareg Caerdydd oedd yn cynnwys llawer o waith maes a'r sgiliau sylfaenol cryf a drosglwyddwyd gan y darlithwyr rhagorol.

Roedd y cwrs blwyddyn yn adeiladu'n dda ar fy BSc ac ar ôl graddio gyda rhagoriaeth es yn fy mlaen i gael profiad fel daearegwr fforio gan ganolbwyntio ar fwyneiddio metel gwerthfawr a chyffredin yng ngogledd Affrica. Er i mi fwynhau fy nghyfnod yn y maes i ddechrau, penderfynais nad oedd patrymau shifft hir at fy nant.

Teithio’r byd

Des i o hyd i CRU (Uned Ymchwil Nwyddau) yn Llundain, cwmni ymgynghori mwyngloddio a metelau a chefais swydd fel dadansoddwr ymchwil. Er bod y swydd ar y cyfan yn un ddesg, ceir cyfleoedd rhagorol i deithio, ynghyd â secondiadau ac ymweliadau niferus â chloddfeydd.

Ar ôl 4 blynedd o weithio mewn swyddi lefel is, rwyf i bellach yn arwain y tîm sydd â 5 aelod, yn gyfrifol am bum adroddiad ymchwil sy'n cynhyrchu dros £1 miliwn o refeniw i'r cwmni. Rwyf i wedi teithio'n rhyngwladol 8 gwaith eleni ac wedi cyflwyno prif sesiynau mewn cynadleddau niferus yn fyd-eang.