Ewch i’r prif gynnwys

Lucy Daniels

Lucy Daniels

Yn dod o bentref bach, roedd gan Gaerdydd bopeth roeddwn i ei angen ar gyfer fy symudiad cyntaf oddi cartref - digonedd o weithgareddau awyr agored, dinas fywiog a chyfeillgar, ac adran groesawgar y Ddaear a'r Gwyddorau Amgylcheddol.

Rhoddodd fy ngradd drosolwg ardderchog i mi o'r Gwyddorau Daear, gan gadw'r drws yn llydan agored i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Drwy gydol fy nhair blynedd o astudio, datblygais lawer o sgiliau trosglwyddadwy a chefais y cyfle i ddewis modiwlau a oedd yn addas ar gyfer fy niddordebau.Ochr yn ochr â fy astudiaethau, gwnes ffrindiau oes ac atgofion trwy Glwb Mynydda Prifysgol Caerdydd, gan wneud y gorau o'r golygfeydd anhygoel (a bywyd nos !) yn Ne Cymru.

Cefais hefyd y cyfle i deithio ymhellach fel rhan o fy ngradd, gan gynnwys ymweliad wythnos o hyd i ddysgu am systemau amddiffyn rhag llifogydd trawiadol yr Iseldiroedd. Datblygodd fy niddordeb mewn llifogydd ar y daith maes hon yn ffactor pwysig yn fy mywyd, gan fy arwain at fy rôl bresennol.

Gyrfa raddedig

Fel Ymgynghorydd yn Wallingford Hydro Solutions, mae fy rôl yn ymwneud â'r amgylchedd dŵr. Mae fy swydd yn hynod amrywiol a fy hoff brosiectau yw'r rhai sy'n ymwneud ag asesiadau risg llifogydd a modelu hydrolig, yn ogystal â gwaith maes hydrometrig. Rhoddodd fy mhrofiad ym Mhrifysgol Caerdydd sylfeini academaidd a phersonol cryf i mi adeiladu arnynt yn fy ngyrfa.

Rwy’n defnyddio sgiliau a ddatblygwyd yn ystod fy ngradd o ddydd i ddydd, gan gynnwys GIS, hydroleg a sgiliau ysgrifennu adroddiadau yn ogystal â sgiliau meddalach yn ymwneud â gwaith tîm a chyfathrebu. Ni allaf argymell Caerdydd ddigon.

Mae'n ddinas wych ac rydw i wastad wedi teimlo'n ddiogel yma. Roedd ganddo bopeth roeddwn i ei angen pan ddes i’r brifysgol am y tro cyntaf, ac mae’n dal i wneud nawr rydw i yn y byd gwaith!