Ewch i’r prif gynnwys

Caitlin Gilmour

Caitlin Gilmour

Mae gan Gaerdydd nid yn unig brifysgol wych, ond mae'r ddinas ei hun a'r ardal gyfagos yn anhygoel. P'un a ydych yn ffafrio diwylliant a noson allan neu'r awyr agored, mae gan Gaerdydd rywbeth i bawb.

Ar ôl astudio ar gyfer fy ngradd mewn Daearyddiaeth Forol yng Nghaerdydd, astudiais ar gyfer gradd Meistr mewn Ymchwil ym maes Gwyddor y Môr ym Mhrifysgol Southampton. Er bod yr olaf yn wych o ran ehangu fy sgiliau labordy, fy ngradd gyntaf a osododd y sylfeini ar gyfer fy swydd bresennol, sef Ymgynghorydd Pysgodfeydd a Dyframaethu.

Barn ar y cwrs

Roeddwn yn hoff iawn o’r dewis amrywiol o fodiwlau, y cyfleoedd i wneud gwaith maes a’r darlithwyr a wnaeth y profiad yn un mor gofiadwy. Gwnaeth y flwyddyn yn y diwydiant gyflawni fy nisgwyliadau. Treuliais flwyddyn yn y Maldives yn gwella fy sgiliau ymchwil i ecoleg forol, sgiliau plymio gwyddonol a sgiliau allgymorth cymunedol. Mae llawer o'r sgiliau hynny wedi bod yn amhrisiadwy – nid yn unig ar gyfer fy ngradd meistr, ond hefyd ar gyfer fy swydd bresennol.

Fy ngyrfa ar ôl graddio

Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio i wasanaeth ymgynghori ar bysgodfeydd a dyframaethu yn y DU, ond mae ein gwaith fel arfer yn canolbwyntio ar leoedd dramor, yn enwedig yn nwyrain a gorllewin Affrica a de Asia. Mae prosiectau'n amrywio'n fawr, o gynghori ar strategaethau rheoli pysgodfeydd sy'n cynnwys nodi atebion monitro, rheoli a goruchwylio, asesu stoc ac adolygu polisïau a deddfwriaethau i wneud asesiadau o effaith pysgodfeydd a datblygu cynlluniau rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yn gyffredinol.

Er mai amrywiaeth y prosiectau sy'n sicrhau bod y swydd bob amser yn un gyffrous, rwyf hefyd yn mwynhau'r amrywiaeth ymhlith y rhanddeiliaid rydym yn gweithio gyda nhw, o'r Llywodraeth a chymunedau lleol i sefydliadau preifat. Mae fy rôl yn amrywio o wneud cyfraniadau technegol a rheoli prosiectau i arwain timau. Felly, nid wyf byth yn gwneud yr un peth yn rhy hir!