Ewch i’r prif gynnwys

Scott Campbell

Scott Campbell

Drwy astudio BSc Daeareg Fforio ym Mhrifysgol Caerdydd cefais y sgiliau a'r wybodaeth hanfodol i ddilyn fy newis yrfa yn y diwydiant echdynnu mwynau a fforio.

Cynigiodd ehangder yr arbenigedd a'r dewis o fodiwlau gyfle i mi archwilio amrywiaeth o bynciau, a chael teimlad am yr hyn sydd o ddiddordeb i mi. Galluogodd yr amrywiaeth helaeth hwn imi deilwra fy nhrydedd flwyddyn yn benodol i fy niddordebau ac anghenion.

Rhoddodd ansawdd yr addysgu a'r modiwlau penodol i ddiwydiant sylfaen wych i fi oedd yn cwmpasu pob elfen roeddwn i'n awyddus i'w dilyn yn fy ngyrfa.

Yn dilyn fy astudiaethau yng Nghaerdydd dilynais radd Meistr mewn Daeareg Mwyngloddio, a theimlais fod yr egwyddorion sylfaenol a'r ddealltwriaeth bellach o fy BSc yn golygu fy mod yn gallu rhagori yn y rhaglen Meistr.

Dilyniant gyrfaol

Ar ôl gadael addysg, mae gen i nawr swydd fel Daearegwr Fforio Iau yn gweithio yn Coté d’Ivioré i gynhyrchydd aur cyfryngol. Mae fy rôl yn cynnwys mapio daearegol, cofnodi craidd a dehongli drilio, modelu ac ysgrifennu adroddiadau. Mae'r diwydiant adnoddau mwynau wedi fy nghyffroi erioed, a deilliodd y diddordeb hwn o Brifysgol Caerdydd. Y radd mewn Daeareg o Gaerdydd yn y pen draw yw'r hyn a roddodd yr wybodaeth a'r profiad i fi allu dilyn fy newis yrfa.

Allwn i ddim argymell Caerdydd ddigon. Mae maint y ddinas yn ddelfrydol ac mae'n elwa hefyd o fod yn brifddinas gyda llawer o ddigwyddiadau a chyfleoedd rhyfeddol.