Ewch i’r prif gynnwys

Newyddion

Myfyrwyr o Gaerdydd yn gweithio gyda busnesau lleol i ddatblygu atebion arloesol i’w problemau digidol.

Ar 24 Mai, bu myfyrwyr BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol o Academi Feddalwedd Genedlaethol Prifysgol Caerdydd yng Nghasnewydd yn arddangos yr atebion meddalwedd roedden nhw wedi’u datblygu fel rhan o’u prosiectau blwyddyn olaf.

Cafodd y myfyrwyr nodiadau briffio penodol gan gleientiaid go iawn oedd yn gofyn eu bod yn gweithio mewn timau i ddatblygu ystod o gymwysiadau symudol ac i’r we, systemau diogelwch, roboteg, a chymwysiadau realiti estynedig (AR), ac gyfer amrywiaeth o noddwyr prosiectau.

Ymhlith y prosiectau y bu’r myfyrwyr yn gweithio arnynt roedd:

  • Prosiectau monitro llygredd aer a sŵn ar gyfer Cyngor Caerdydd
  • ateb digidol i gefnogi ad-drefnu gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru, ar y cyd â Trafnidiaeth i Gymru
  • cymhwysiad Realiti Estynedig (AR) ymarferol i liniaru pryder plant wrth ymweld ag ysbyty deintyddol Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd
  • prototeip ffisegol ar gyfer system ddiogelwch i alluogi pobl sy’n gweithio mewn lleoliadau pellennig i gael mynediad i leoliad cydweithio mewn swyddfa trwy ddefnyddio ap symudol clyfar

Roedd y prosiectau’n rhoi profiad hanfodol uniongyrchol i’r myfyrwyr o reoli problemau datblygu meddalwedd yn y byd go iawn.  Yn ystod y prosiectau, roedd rhaid iddynt gyflwyno’u hatebion a’u hargymhellion i’r busnesau dan sylw, eu goruchwylwyr academaidd, a’u cyd-fyfyrwyr.

Roedd sawl busnes yn bresennol yn y digwyddiad, gan gynnwys cynrychiolwyr o Admiral, Sony UK, Cisco, Confused.com, GoCompare, Red Hat a CapGemini.

Creodd myfyrwyr yr Academi argraff ar Stephen Meredith, Pensaer Mentergarwch Cyngor Sir Caerdydd, a gwnaeth y sylw canlynol, “Maen nhw’n gyfuniad da o unigolion disglair, brwd, sy’n gallu edrych ar broblemau o bersbectif gwahanol, a darparu atebion amserol o ansawdd uchel.” Ymhlith y rhai oedd yn bresennol, roedd David Sadler, Pennaeth Recriwtio TG yn Acorn Jobs, a fu’n trydar yn ddiweddarach: “Arddangosfa wych o ddoniau @CUSoftAcademy bore ma. Creodd eu sgiliau technegol clir, a hefyd eu gallu i gyflwyno a mynegi eu syniad/ateb, argraff aruthrol arna i.”

Dywedodd Carl Jones, Darlithydd o Academi Feddalwedd Genedlaethol Prifysgol Caerdydd, “I baratoi ein graddedigion ar gyfer byd gwaith, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn ymwybodol o holl ystod prosiect diwydiannol go iawn. Trwy ein prosiectau tîm, rydyn ni’n helpu ein myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau masnachol a rheoli pobl sy’n ofynnol i sicrhau swyddi da fel graddedigion ar ddiwedd eu hastudiaethau.”

Y myfyrwyr hyn yw’r ail garfan i raddio o’r Academi Feddalwedd Genedlaethol i fyd gwaith. Mae gan rai myfyrwyr eisoes swyddi graddedig amser llawn y maen nhw wedi’u sicrhau trwy gysylltiadau a wnaed yn ystod eu hastudiaethau yn yr Academi Feddalwedd Genedlaethol.

Mae pawb ohonom yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn dymuno pob llwyddiant i raddedigion 2019 yn eu gyrfaoedd i’r dyfodol.

Cafodd ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd gyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl o fyd technoleg a’r byd digidol, gyda Llysgenhadon STEM, yn staff a myfyrwyr, o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Fel rhan o ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i iaith a diwylliant Cymru, roedd y Brifysgol yn falch o fod yn bartner yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Rhwng 27 Mai a 1 Mehefin, bu’r ŵyl ieuenctid deithiol ar gyfer llenyddiaeth, cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio yn denu dros 90,000 o bobl, gan gynnwys 15,000 o bobl ifanc, i Fae Caerdydd.

Rhoddodd y tîm o’u hamser a’u brwdfrydedd i ennyn diddordeb yr Eisteddfodwyr mewn amrywiaeth o gêmau a heriau hwyliog, llawn ysbrydoliaeth i’r teulu, gan archwilio cysyniadau allweddol Cyfrifiadureg a meddwl yn gyfrifiadurol. Daeth llu o bobl o bob oed i’r stondin yn y Babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg i fwynhau’r amrywiaeth o weithgareddau oedd ar gael.  Roedd y rhain yn cynnwys llawer o weithgareddau heb gyflenwad trydan, adeiladu creadigaethau robotig rhyngweithiol â Lego Mindstorms, rhaglennu blociau gweledol â Scratch, a phrofi amgylchedd trochi trwy gogls Realiti Rhithwir (VR).

Dywedodd Cheryl McNamee-Brittain, Swyddog Cyswllt Ysgolion a Cholegau yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: “Roeddem ni wrth ein bodd yn cael cymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd 2019. Rydym ni’n gobeithio ein bod wedi helpu’r rhai a ddaeth i ymweld â ni i ddatblygu dealltwriaeth o systemau cyfrifiadurol a chysyniadau meddwl yn gyfrifiadurol, a’u bod nhw wedi mwynhau’r profiad.  Mae’r rhain yn sgiliau pwysig i bawb, nid dim ond gwyddonwyr cyfrifiadurol, ac rydym am eu gwneud yn fwy hygyrch i bobl o bob oed.”

Dywedodd Anastasia Ugaste, Llysgennad STEM yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: “Roeddwn i wrth fy modd yn cyflwyno ymwelwyr ifanc i sbectol VR a robotiaid Mindstorm.  Mae eu cyffro ynghylch rhaglennu mor galonogol ac yn caniatáu i ni greu gweithdai mwy diddorol.  Roedd yn ddiddorol dros ben gweithio a chyfnewid gwybodaeth gyda phobl o wahanol adrannau, a Phrifysgolion hyd yn oed, ar hyd y digwyddiad.”

Ar hyd y dydd, bu’r tîm yn arddangos gweithgareddau o’r rhaglen Cyfrifadura Maes Chwarae y mae Prifysgol Caerdydd yn ei chyflwyno trwy’r fenter Technocamps.

Prosiect yw Technocamps sy’n cwmpasu saith Prifysgol yng Nghymru, gyda’r nod o ysgogi a chynnwys pobl ifanc 11-19 oed ym maes Cyfrifiadureg.   Mae’r rhaglen wedi cyflwyno dros 1500 o weithdai i fwy na 35,000 o bobl ifanc ledled Cymru ar raglennu, datblygu apiau, datblygu gêmau, a roboteg.

Mae Prifysgol Caerdydd yn trefnu gweithdai rheolaidd ar feddwl yn gyfrifiadurol a rhaglennu yn rhanbarth Caerdydd.  Cysylltwch â Cheryl McNamee-Brittain neu Dr Catherine Teehan i gael rhagor o wybodaeth.

Mae myfyrwyr a staff o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg wedi bod yn rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i helpu i sicrhau bod Casnewydd yn brifddinas sgiliau digidol Cymru.

Ar 24 Mai, daeth timau o dair ysgol gynradd yng nghlwstwr Llanwern at ei gilydd ar gyfer dathliad Cracio’r Côd. Roedd ysgolion cynradd Always ac Eveswell yn bresennol a chynaliwyd y digwyddiad yn ysgol gynradd Milton.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i blant rhwng 8 a 10 oed, sydd wedi bod yn dysgu ysgrifennu côd cyfrifiaduron, arddangos eu sgiliau newydd. Rhoddwyd y dysgwyr mewn timau cymysg am y dydd i feithrin eu sgiliau digidol ar y cyd, fel clwstwr, a chael cyfle i gwrdd â ffrindiau newydd.

Dywedodd Sian Roche, athro yn ysgol gynradd Milton: “Roedd yn gyfle gwych i’r plant, oedd yn llawn chwilfrydedd, diddordeb a chyffro ar hyd y dydd. Roedd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn hyderus, yn gefnogol ac yn frwd wrth ateb unrhyw gwestiynau, allwn i ddim wedi gwneud hyn hebddyn nhw.”

Ychwanegodd un o’n myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd: “Roedd yn cynhesu’r galon gweld y plant mor frwd am yr holl wahanol weithgareddau.”

Am fisoedd cyn y digwyddiad, mae myfyrwyr o bum ysgol yn yr ardal wedi bod yn mynychu Clwb Codio ar ôl ysgol.   Myfyrwyr o’r Brifysgol oedd yn mynychu ac yn cynnal y clybiau, fel bod y plant yn cael mynediad at gyfarpar, yn dysgu sgiliau newydd, ac yn eu cymhwyso i’r gwahanol weithgareddau.

Bu’r disgyblion cynradd yn adeiladu ar eu gwaith a’u dysgu yn y Clwb Codio trwy gwblhau cyfres o sesiynau codio a gweithdy yn y digwyddiad llawn hwyl.

Yn gyntaf her Dechrau o Ddim, lle bu’n rhaid i’r disgyblion gasglu pwyntiau trwy ddatrys cyfres o heriau codio.  Nesaf roedd her Lego Wedo, lle bu’r disgyblion yn adeiladu car ac yn ei raglennu i stopio.  Yn olaf, buon nhw’n cymryd rhan mewn gweithdy sgiliau newydd, yn datblygu galluoedd gyda BBC MicroBits.  Mae Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd wedi dod â’r myfyrwyr sy’n Llysgenhadon STEM ym maes Cyfrifiadureg i gefnogi’r clybiau, gyda chefnogaeth Richard Sheppard o Interceptor Solutions a Simon Renault.

Mae cracio’r côd yn rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i gefnogi estyn galluoedd digidol yn ysgolion Cymru.  Nod y fenter yw cynyddu ymwybyddiaeth o Gyfrifiadureg ac annog pobl ifanc i gyfranogi’n fwy a chael mwy o brofiad o weithgareddau codio.

Oherwydd llwyddiant y dull clwstwr hwn o ymdrin â chodio, rydym ni’n bwriadu parhau i gefnogi’r ysgolion â’r digwyddiad nesaf, a gynhelir ddiwedd y flwyddyn yn yr Academi Feddalwedd Genedlaethol yng Nghasnewydd.

Os oes gan ysgolion ddiddordeb mewn cynnal eu prosiect codio clwstwr a’u digwyddiad dathlu eu hunain, neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Cheryl McNamee-Brittain.

Bydd busnesau Cymru yn elwa o ganolfan arloesedd newydd ar gyfer gwyddor data i ddefnyddio dulliau blaengar wrth ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd. Bydd y Cyflymydd Arloesedd Data (DIA) yn ymateb i'r galw gan Fusnesau Bach a Chanolig (BBaCh) sydd ag uchelgais i integreiddio AI i galon eu busnes ond sydd heb arbenigedd gwyddor data i'w helpu i dyfu.

Wedi'i hariannu gan £1.8m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, mae'r Cyflymydd yn cynnig cyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd gan ymchwilwyr rhyngwladol blaenllaw. Bydd hyn yn sail ar gyfer mynd ati'n gyflym i ddatblygu syniadau newydd ynglŷn â'r ffordd orau o ddefnyddio data o fewn gweithrediadau cwmnïau o ddydd i ddydd.

Mae croeso i fusnesau bach a chanolig sy'n chwilio am ffyrdd o arloesi gyda data ac AI fynd i ddigwyddiad lansio’r Cyflymydd gyda'r nos ar 18 Mehefin.

“Mae'n fenter hynod gyffrous sy'n cael ei hysgogi gan y galw,” meddai cyd-gyfarwyddwyr y DIA, yr Athrawon Roger Whitaker a Pete Burnap.

“Datblygwyd y cysyniad o’r cyflymydd ar ôl i ni ddechrau cael nifer gynyddol o ymholiadau gan fusnesau yn gofyn i ni sut y gallent ddefnyddio eu data i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio.

“Ein gweledigaeth yw cyfrannu at gryfder busnesau yng Nghymru drwy wyddor data. Rydym am ysbrydoli cwmnïau bach i integreiddio modelu data, peirianneg a dadansoddi yn eu harferion. Rydym yn annog cwmnïau i weithredu nawr - mae gennym gyllid tan Awst 2021 ”

Mae gan brototeipiau cyflym cydweithredol y Cyflymydd gyda busnesau bach a chanolig nodau diffiniedig - er enghraifft, i edrych ar yr hyn y gellir ei ddysgu drwy edrych ar setiau data sy’n bodoli yn barod i helpu gynnyrch neu wasanaeth newydd i gyrraedd y farchnad - a gall hwyluso mynediad at bartneriaid ychwanegol sydd ag arbenigedd a gwybodaeth flaenllaw.

Mae nifer o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru eisoes yn manteisio ar arbenigedd Caerdydd.

Dywedodd Chrissy Woodman, Cyfarwyddwr Sustainable Energy Ltd, o Gaerdydd: "Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda'r Cyflymydd Arloesedd Data ac yn elwa o'u sgiliau a'u gwybodaeth data i'n helpu i ddatblygu ein atebion rhwydwaith ynni dinas glyfar."

Mae'r Cyflymydd yn cydweithio â busnesau bach a chanolig yn rhanbarth ‘Dwyrain Cymru', sy'n cwmpasu Caerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Powys, Wrecsam a Sir y Fflint.

Cynhelir digwyddiad sy'n agored i bobl â gwahoddiad yn unig o 5.30pm i 7.30pm ddydd Mawrth 18 Mehefin yn Milk & Sugar, Yr Hen Lyfrgell, Yr Aes, Caerdydd, CF10 1BH. Bydd yn dwyn ynghyd amrywiaeth o siaradwyr o fusnesau bach a chanolig, Llywodraeth Cymru a'r DU a Phrifysgol Caerdydd.

Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael. Cysylltwch â dia@caerdydd.ac.uk i gadw eich lle.

Bydd academydd blaenllaw o Brifysgol Caerdydd yn ymuno â’r Cyngor Deallusrwydd Artiffisial (AI) – pwyllgor arbenigol annibynnol sy’n helpu i roi hwb sylweddol i sector deallusrwydd artiffisial y DU.

Bydd Pete Burnap, Athro Gwyddor Data a Seiberddiogelwch, yn gweithio gyda grŵp o tua 20 arbenigwr, o sefydliadau diwydiannol, academaidd ac iawnderau data.

Byddant yn pennu sgiliau, data a moeseg i helpu’r DU i fanteisio’n llawn ar dechnolegau AI.

Mae’r aelodau’n cynnwys yr Athro Syr Mark Walport, Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesedd y DU; Prif Swyddog Technoleg Ocado, busnes sy'n gwerthu ar-lein yn unig, Paul Clarke; Aelod o’r Comisiwn Annibynnol Rhyddid Gwybodaeth, y Fonesig Patricia Hodgson, a Phrif Weithredwr Sefydliad Alan Turing, yr Athro Adrian Smith.

Dywedodd Pete Burnap, Cyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Airbus mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch: “Rydw i wrth fy modd yn ymuno â chorff o arweinwyr mor fawr eu bri ym maes AI.

“Mae aelodau’r cyngor eisoes yn ar flaen y gad o ran datblygu technolegau. Mae Ocado’n defnyddio AI i chwyldroi ei brosesau ffatri, rhag-weld galw a phersonoli siopa, a hynny mewn ffordd ddiogel. Hefyd, mae Sefydliad Alan Turing yn canfod ac yn chwalu’r rhwystrau rhag mabwysiadu AI mewn cymdeithas, fel sgiliau, ymddiriedaeth cwsmeriaid a sicrhau diogelwch data sensitif.

“Y llynedd, cafodd Caerdydd ei chydnabod yn Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seibrddiogelwch (ACE-CSR), gyda ffocws craidd ar gyfuno AI, seibrddiogelwch a risg yn rhyngddisgyblaethol. Yn 2017, daeth Caerdydd yn bartner ag Airbus i lansio’r Ganolfan Ragoriaeth mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch Airbus - yr un gyntaf o’i math yn Ewrop.

Meddai’r Athro Kim Graham, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter Prifysgol Caerdydd: “Rydw i wrth fy modd bod yr Athro Burnap wedi ymuno â’r panel urddasol ac annibynnol hwn, a gynhelir gan y llywodraeth. Deallusrwydd artiffisial a data yw un o bedair Prif Her y DU: Mae ymchwil ardderchog yr Athro Burnap yn helpu’r Brifysgol i alinio’i hun yn ôl y flaenoriaeth strategol hon a chadw’r DU ar reng flaen y chwyldro AI a data.”

Mae newyddion ynghylch aelodau cyngor newydd yn dod wrth i Lywodraeth y DU ddathlu pen-blwydd cyntaf Cytundeb y Sector AI yn rhan o’r Strategaeth Ddiwydiannol gyfoes – cytundeb gwerth biliwn o bunnoedd rhwng y llywodraeth a byd diwydiant i roi’r DU ar flaen y gad o ran technolegau newydd a gwireddu potensial llawn AI i’r economi.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Digidol, Jeremy Wright, aelodau’r Cyngor yng Nghynhadledd Vivatech ym Mharis.

“Mae Prydain eisoes yn awdurdod blaenllaw ym maes AI. Mae Prydain yn gartref i rai o sefydliadau academaidd gorau'r byd, ac yn nodi lefelau record o fuddsoddiadau i’r sector ac yn denu talent dechnolegol orau’r byd, ond rhaid i ni beidio â bod yn hunanfoddhaus,” meddai’r Gweinidog.

“Drwy ein Cyngor AI, byddwn yn cynnal y momentwm hwn drwy fanteisio ar wybodaeth arbenigwyr o ystod o sectorau i gynnig arweiniad ynghylch defnyddio a mabwysiadu deallusrwydd artiffisial ar draws yr economi yn y ffordd orau.”

Ers ei lansiad yn 2018, mae Cytundeb y Sector AI wedi sefydlu’r Ganolfan Moeseg ac Arloesedd Data, wedi cyhoeddi 16 o Ganolfannau Hyfforddiant Doethurol newydd ar draws y DU (gan gynnwys Caerdydd) i gynnig 1,000 o PhDs newydd dros y pum mlynedd nesaf, ac wedi datblygu’r don gyntaf o gyllid diwydiannol ar gyfer lleoedd gradd Meistr AI newydd mewn sefydliadau blaenllaw yn y DU.

Fe wnaeth ymchwilwyr, cleifion, clinigwyr a sefydliadau amrywiol ddod at ei gilydd yng Nghaerdydd ar 24-25 Ebrill i archwilio'r datblygiadau diweddaraf wrth brosesu testun rhydd o ofal iechyd a rhannu profiadau, canlyniadau a heriau.

Mae naratifau gofal iechyd a gofnodir mewn dogfennau fel nodiadau clinigol, llythyrau, postiadau cyfryngau cymdeithasol a llenyddiaeth yn cynrychioli ffrwd gyfathrebu allweddol sy'n cynnwys cyfoeth o wybodaeth weithredol a chyd-destunol. Er eu bod ar gael yn fwyfwy ar ffurf ddigidol, hyd yma nid ydynt wedi cael eu dadansoddi a'u hintegreiddio'n rheolaidd gyda data gofal iechyd eraill ar raddfa fawr.

HealTAC 2019 yw'r ail gynhadledd mewn cyfres o gynadleddau dadansoddi testun gofal iechyd y DU a gynhelir gan rwydwaith dadansoddi testun gofal iechyd y DU (HealTex) sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r mater hwn.

Daeth y gynhadledd â rhwydwaith amlddisgyblaethol o gymunedau academaidd, clinigol, diwydiannol a chleifion at ei gilydd i fynd i'r afael â heriau cyffredin wrth brosesu testun rhydd o ofal iechyd, rhannu arfer gorau ac archwilio canlyniadau allweddol.

Ymhlith y digwyddiadau roedd 100 o fynychwyr yn academyddion o brifysgolion yn y DU a rhyngwladol, cleifion a chlinigwyr o ofal iechyd cyhoeddus a phreifat, yn ogystal ag unigolion o ddetholiad o fusnesau byd-eang.

Roedd y rhaglen yn cynnwys papurau ymchwil, paneli trafod, fforwm diwydiant, arddangosiadau meddalwedd, fforwm PhD a sesiynau poster, ynghyd â chyflwyniadau craff gan y prif siaradwyr yr Athro Hongfang Liu, Coleg Meddygaeth Clinig Mayo a'r Athro Stephane Meystre, Prifysgol Feddygol De Carolina (MUSC).

Mae Hongfang Liu yn Athro Gwybodeg Fiomeddygol ac yn ymgynghorydd yn yr Adran Ymchwil Gwyddorau Iechyd yng Nghlinig Mayo. Fel ymchwilydd, mae hi'n arwain rhaglen brosesu iaith naturiol glinigol (NLP) Clinig Mayo gyda'r genhadaeth o ddarparu cymorth i gyrchu gwybodaeth glinigol wedi ei storio mewn testun anstrwythuredig ar gyfer ymchwil ac ymarfer.

Dr Meystre yw Sylfaenydd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Hysbysrwydd Fiomeddygol Drosiadol yn MUSC. Mae wedi datblygu a gwerthuso systemau NLP ar gyfer ymarfer clinigol ac ymchwil ac wedi arwain sawl prosiect sy'n cymhwyso NLP i destun clinigol ar gyfer dadadnabod testun yn awtomatig, neu echdynnu gwybodaeth glinigol.

Dywedodd yr Athro Irena Spasić, Cyd-sylfaenydd y rhwydwaith 'HealTex': "Rydym wedi gweld tystiolaeth o gymuned drawsddisgyblaethol gref yn cael ei datblygu gan gynnwys ymchwilwyr, cleifion, clinigwyr a'r diwydiant. Mae HealTex wedi catalyddu cyfranogiad ehangach a chydweithredu newydd rhwng sefydliadau, a oedd yn amlwg o'r astudiaethau dichonoldeb a gyflwynwyd yn y gynhadledd. "

Ychwanegodd Dr Sumithra Velupillai o King's College Llundain: "Mae HealTex yn mynd ati i feithrin cenhedlaeth newydd o wyddonwyr mewn dadansoddeg testunau gofal iechyd. Mae'r Fforwm PhD yn y gynhadledd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr PhD ar wahanol gamau o'u prosiectau arddangos eu hymchwil i gynulleidfa eang. Mae fformat y gynhadledd wedi’i gynllunio'n benodol i gynnig cyfle i dderbyn adborth manwl gan yr ymchwilwyr gorau mewn Gwyddorau Iechyd a chloddio am destun fel ei gilydd. "

Prif noddwr y gynhadledd oedd EPSRC drwy rwydwaith Dadansoddi Testun Gofal Iechyd y DU. Fe'i cefnogwyd hefyd gan y Dinasoedd Iechyd Cysylltiedig, cronfa ddata SAIL a Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data Prifysgol Caerdydd, yn ogystal ag Averbis Text Analytics a DeepCongito.

Cynhelir y gynhadledd nesaf yn 2020 a chaiff ei threfnu gan Kings College Llundain.

Ymgasglodd panel o ymchwilwyr, cleifion, clinigwyr a chwmnïau yng Nghynhadledd Dadansoddi Testun Gofal Iechyd (HealTAC) yng Nghaerdydd i drafod y gwaith gorau o ran prosesu testun gofal iechyd rhydd pan fydd rhwystrau iaith yn bodoli.

Pan fydd claf a'r gweithiwr iechyd proffesiynol sy'n gofalu amdano ill dau yn meddu ar ieithoedd cyntaf heblaw Saesneg, beth yw'r ffordd orau o gynnal ymgynghoriadau, cadw cofnodion a'u rhannu? Gan i Gynhadledd Dadansoddi Testun Gofal Iechyd y DU eleni gael ei threfnu ym mhrifddinas Cymru, ystyriodd grwpiau paneli’r gynhadledd y mater hwn yn achos y Gymraeg.

Bydd y drafodaeth, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Park Plaza ar 24 – 25 Ebrill, yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu methodolegau arolygu, prosesau ac adroddiadau newydd i gefnogi'r broses o weithredu 'Mwy na geiriau: Fframwaith strategol dilynol', a gyhoeddwyd yn 2012 gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru.

Nod y fframwaith oedd sicrhau bod sefydliadau perthnasol yn cydnabod bod iaith yn rhan gynhenid o ofal ac y cynigir gwasanaethau yn Gymraeg i'r bobl sydd angen gwasanaethau hynny. Yr enw ar hyn yw'r 'Cynnig Rhagweithiol'.

Bwriad y fframwaith strategol dilynol 2016-2019 oedd cadw momentwm ac adeiladu ar y strategaeth flaenorol, gan gynnwys cefnogaeth ymarferol i weithredu'r 'Cynnig Gweithredol'.

Ystyriodd y panel ddulliau technegol a all hwyluso'r ddarpariaeth o wasanaethau yn y Gymraeg, gan gynnwys adnoddau terminolegol, lleoleiddio meddalwedd a chyfieithu peirianyddol, yn ogystal ag amrywiaeth o feysydd cymhwyso, megis presgripsiynau, iechyd meddwl ac alergeddau.

Cafwyd cyfraniadau gwerthfawr gan ymchwilwyr lleol, clinigwyr a chyfranogwyr rhyngwladol sydd â phrofiad o ymdrin â sawl iaith, gan gynnwys Dr Antoine Pironet o Gofrestrfa Canser Gwlad Belg a gyflwynodd eu gwaith ar brosesu data o adroddiadau patholeg dwyieithog.

Trefnwyd y panel gan Gareth Morlais o Lywodraeth Cymru ac aelodau tîm CorCenCC, Dawn Knight, Laura Arman ac Irena Spasić. Mae Prifysgol Caerdydd yn rhan o brosiect CorCenCC (Corpws Cenedlaethol Cymraeg cyfoes), sy'n creu adnodd iaith mawr i siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg, ymchwilwyr y Gymraeg ac unrhyw un sy’n ymddiddori yn y Gymraeg. Prosiect a yrrir gan y gymuned yw CorCenCC, a gall siaradwyr Cymraeg o bob math o gefndiroedd ac o bob gallu gymryd rhan.

Dywedodd Dawn Knight, o dîm CorCenCC: "Oherwydd pryderon ynghylch preifatrwydd, nid ydym yn casglu naratifau gofal iechyd ar hyn o bryd, ond gellir defnyddio seilwaith casglu a rheoli data CorcenCC yn hawdd mewn amgylchedd diogel er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu offer cloddio testun a allai hwyluso ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn Gymraeg."

Ychwanegodd Irena Spasić, cyd-sylfaenydd y rhwydwaith HealTex: "Rydym wedi bod yn datblygu offer ac adnoddau a all awtomeiddio'r gwaith o brosesu testun Cymraeg. Gall ein meddalwedd FlexiTerm echdynnu terminoleg sy'n benodol i barth o ddogfennau Cymraeg a gall wneud hynny'n syth. Roedd ein harbrofion cynnar gyda chorpora cyfochrog yn dangos y gellir echdynnu terminolegau sy'n benodol i'r parth yn awtomatig a'u mapio rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Gall swyddogaethau o'r fath wella perfformiad o ran cyfieithu peirianyddol ar gyfer testunau arbenigol fel y rhai a geir mewn gofal iechyd."

Noddwyd y gynhadledd gan EPSRC drwy rwydwaith 'Testun Gofal Iechyd y DU', y dinasoedd iechyd cysylltiedig, cronfa ddata SAIL a'r Sefydliad Ymchwil i Arloesi mewn Data ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal ag Averbis Text Analytics a DeepCongito.

Trefnir y gynhadledd nesaf gan Kings College London yn 2020

Bydd Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan allweddol mewn Canolfan Rhagoriaeth genedlaethol gwerth £13.8 miliwn ar gyfer diogelwch systemau sy'n gysylltiedig â'r Rhyngrwyd Pethau (IoT).

Bydd Canolfan Ymchwil Seibr-ddiogelwch y Brifysgol yn arwain ffrwd systemau hanfodol ar gyfer diogelwch y Ganolfan Rhagoriaeth Genedlaethol ar gyfer Systemau Seibr-ddiogelwch y Rhyngrwyd Pethau. Mae hyn yn rhan o fenter ehangach Llywodraeth y DU i arwain y byd o ran y Rhyngrwyd Pethau a’r systemau diogelwch cysylltiedig.

Bydd Caerdydd yn parhau i weithio gyda phrifysgolion a diwydiannau arweiniol eraill yn rhan o PETRAS (Preifatrwydd, Moeseg, Ymddiriedaeth, Dibynadwyedd, Derbynioldeb, a Diogelwch), Canolfan Rhagoriaeth Genedlaethol ar gyfer Systemau Seibr-ddiogelwch y Rhyngrwyd Pethau.

Bydd PETRAS yn ymchwilio i gyfleoedd a bygythion sy’n codi pan mae technolegau Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peiriannol yn datblygu o fod yn systemau canolog i weithio ar gyrion y rhyngrwyd a rhwydweithiau lleol y Rhyngrwyd Pethau.

Pete Burnap, Athro Gwyddor Data a Seiberddiogelwch yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, fydd yn arwain ffrwd Caerdydd.

“Bydd y Rhyngrwyd Pethau yn ganolog i'r gymdeithas yn y dyfodol, a Phrifysgol Caerdydd fydd yn arwain yr elfen ddiogelwch yn y cadwyni cyflenwi a’r systemau rheoli sy’n hanfodol i’n seilwaith cenedlaethol. Rydym yn gweithio ar asio Deallusrwydd Artiffisial â modelu risg er mwyn deall methiannau rhaeadrol yn wyneb ymosodiadau seibr. Bydd hyn yn trawsffurfio’r genhedlaeth nesaf o fethodolegau diogelwch seibr sy’n gwarchod dyfeisiau’r Rhyngrwyd Pethau yn seilweithiau critigol y dyfodol,” meddai.

Cyngor Ymchwil ac Arloesedd y DU sy’n ariannu’r gwaith, drwy Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) yn rhan o raglen Diogelu Technolegau Digidol ar y Cyrion (SDTaP). Bydd yr ail gam hwn o PETRAS yn cryfhau llwyfan llwyddiannus sydd wedi’i sefydlu’n barod.

Ers 2016, mae PETRAS wedi cydlynu a chynnull 11 o brifysgolion a 110 o Bartneriaid Defnyddiwr diwydiannol a llywodraethol ar gyfer cydweithio trawsddisgyblaethol.

Dywedodd yr Athro Lynn Gladden, Cadeirydd Gweithredol Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC): “Cronfa Blaenoriaethau Strategaethol UKRI sy’n ariannu’r Ganolfan Genedlaethol hon dros Ragoriaeth ar gyfer y Rhyngrwyd Pethau, a bydd y Ganolfan yn adeiladu ar ein buddsoddiad blaenorol yn Hwb PETRAS cychwynnol yn 2016. Mae gwaith y Ganolfan newydd hon yn hanfodol ar gyfer esblygiad y technolegau cydgysylltiedig fydd yn treiddio i mewn i’n cymdeithas dros y blynyddoedd nesaf. Mae cadernid ac amrywiaeth yr holl bartneriaid diwydiannol ac academaidd yn dystiolaeth o gryfder tîm PETRAS, a phwysigrwydd ymchwil ac arloesedd yn y maes hwn.”

Mae myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd wedi bachu'r wobr gyntaf mewn cystadleuaeth seibr-ddiogelwch genedlaethol.

Trechodd myfyrwyr israddedig o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg dimau o Brifysgol Caergrawnt a Choleg Imperial Llundain i gael y wobr gyntaf yn yr Her Seibr Addysg Uwch.

Ar dîm Prifysgol Caerdydd roedd Lewis Parsons, Benjamin Hughes, Jack Furby a David Buchanan, wnaeth gipio'r wobr hefyd ar gyfer yr unigolyn â'r sgôr uchaf.

Yn ôl David: "Roedd yn brofiad gwerthfawr iawn wnaeth ein galluogi i ymarfer ein sgiliau seibr-ddiogelwch mewn amgylchedd diogel, ein helpu i rwydweithio gyda myfyrwyr eraill â diddordebau ar y cyd, ac a wnaeth hawlio sylw cyflogwyr a recriwtwyr sydd â galw mawr am raddedigion â sgiliau seibr sy'n barod ar gyfer byd gwaith.

"Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys ystod o dasgau, o beirianneg wrthdro, manteisio deuaidd, fforenseg a rhwydweithio, hyd at cryptograffeg, rhaglennu, a sgiliau eraill. Fel tîm, fe sgorion ni ddigon i drechu Caergrawnt ac Imperial o drwch blewyn."

Roedd 26 tîm i gyd, o 14 o brifysgolion y DU. Bu myfyrwyr wrthi'n brwydro mewn twrnamaint 'Hawlio'r Faner' lle'r oedd un tîm yn amddiffyn rhwydwaith neu weinydd, tra bod yr un arall yn ceisio ymosod arno.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal ym Mhrifysgol Southampton, ac roedd yn agored i bob Canolfan Ragoriaeth yn y DU ym maes Ymchwil Diogelwch Seibr (ACE-CSR).

Dyfernir statws ACE-CSR i brifysgolion y DU gan y Ganolfan Seibr-ddiogelwch Genedlaethol ac mae'n cydnabod ymchwil sy'n rhagorol ar lefel ryngwladol a gynhaliwyd mewn sefydliad penodol.

Prifysgol Caerdydd oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru a gafodd ei gydnabod yn ACE-CSR y llynedd.

Roedd y dyfarniad yn gydnabyddiaeth o'r ymchwil flaenllaw a ddatblygwyd yn y Brifysgol dros nifer o flynyddoedd, ac mae'n caniatáu i academyddion fwydo'n uniongyrchol i strategaeth Llywodraeth y DU sy'n sicrhau bod y wlad yn gallu gwrthsefyll ymosodiadau seibr yn well.

Mae'r achrediad yn helpu'r Brifysgol i feithrin talent ifanc ac yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes seibr-ddiogelwch.

Yn ôl Pete Burnap, o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: "Mae'n wych gweld ein myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol fel yr un hwn, ac yn defnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth i fynd i'r afael â heriau cymhleth ym maes seibr-ddiogelwch. Nhw yw dyfodol seibr-ddiogelwch yn y DU ac rydym yn falch i'w gweld yn cofleidio heriau o'r fath er mwyn sefydlu eu henwau da eu hunain yn y maes. Bydd yn agor drysau iddynt ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol ac mae'n helpu i adeiladu eu rhwydweithiau proffesiynol."

Mae bodau dynol yn glynu, heb sylweddoli, i batrwm cyffredinol wrth fynd o un ap i'r llall ar eu ffonau clyfar, yn ôl canfyddiad gan wyddonwyr.

Mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd wedi dangos, er bod yr amser a dreuliwn yn gaeth i'n sgriniau yn amrywio, mae'r modd y byddwn yn mynd o un ap i'r llall yn hynod o debyg.

Mewn astudiaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw yn y cyfnodolyn Royal Society Open Science, mae'r tîm wedi dangos bod ein defnydd o ffonau clyfar yn cael ei lywio gan 'gyfraith pŵer' gyda'n ail ap mwyaf poblogaidd ar y ffôn clyfar tua 73% mor boblogaidd â'r cyntaf, a'r trydydd tua 73% mor boblogaidd â'r ail, ac ati. Wrth i'r apiau dyfu'n llai poblogaidd, mae canran y tebygrwydd rhwng pa mor boblogaidd ydynt yn cynyddu'n raddol.

Yn ôl yr ymchwil, cyn gynted â'n bod yn datgloi ein ffonau, rydym yn debygol o ddechrau ar batrwm unigryw o ddigwyddiadau pan fyddwn yn cyrchu 'canolfan' o'n apiau mwyaf poblogaidd ac o bryd i'w gilydd, yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng grŵp dipyn yn fwy o apiau sy'n amhoblogaidd i raddau tebyg.

Mae'r tîm o wyddonwyr, oedd hefyd yn cynnwys arbenigwyr mewn seicoleg, yn credu mai cyfyngiadau ymwybodol yr ymennydd sy'n gyfrifol am y patrwm hwn, ac anallu i gofio'r holl apiau sydd ar ein ffonau.

Yn ôl cyd-awdur yr astudiaeth, yr Athro Roger Whitaker, o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd: "Rydym o'r farn bod pwysau amser a chofio yn dylanwadu ar y canlyniadau a welwn – mae'n bosibl y byddwn yn cofio ac yn defnyddio ambell ap poblogaidd, fel y rheini sydd ynghlwm wrth arferion, ac wedyn mae cynffon hir o apiau llai poblogaidd y byddwn yn eu cyrchu o bryd i'w gilydd

Yn ôl prif awdur yr astudiaeth, Dr Liam Turner, o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd: "Mae'n ddiddorol tu hwnt, er yr amrywiaeth yn ein defnydd o ffonau clyfar, bod ein hymddygiad wedi'i strwythuro'n debyg a'i lywio gan ddyrnaid o hoff apiau, ac rydym yn eu gosod mewn trefn glir."

I gyrraedd eu casgliadau, bu'r tîm yn monitro'r modd roedd 53 o wirfoddolwyr yn mynd o ap i ap dros gyfnod o 6 wythnos drwy ap teilwredig o'r enw "Tymer". Ar draws y cyfnod cyfan, aeth y gwirfoddolwyr o un ap i'r nesaf 192,000 o weithiau ar eu ffonau clyfar.

Ar gyfartaledd, roedd gan bob cyfranogwr 60 o apiau unigol ar eu ffonau clyfar, ac roeddent yn mynd o un ap i'r llall ar gyfartaledd o 87 gwaith y dydd.

WhatsApp oedd yr un mwyaf poblogaidd ymhlith y defnyddwyr, sef y mwyaf poblogaidd 34 y cant ohonynt, gyda Facebook yn ail gyda 21 y cant.

Yn dilyn yr astudiaeth hon, mae'r tîm bellach yn edrych ar sut all mynd o un ap i'r llall fod yn gysylltiedig â dibyniaeth a hwyliau.

Roedd yr astudiaeth hefyd yn cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Maastricht a Phrifysgol Massachusetts Amherst.