Ewch i’r prif gynnwys

Jack Le Bon, a raddiodd o COMSC, yn hedfan i Berlin i arddangos ei brosiect blwyddyn olaf mewn cynhadledd oncoleg ryngwladol

28 Hydref 2022

Mae Jack Le Bon, a enillodd y brif wobr i raddedigion eleni, yn Berlin yr wythnos hon i arddangos ei brosiect blwyddyn olaf yng Nghyngres Cymdeithas Oncoleg Gynaecolegol Ewrop (ESGO).

Datblygodd Jack raglen ar y we sy’n seiliedig ar dechnoleg cwmwl a ddyluniwyd i leihau oedi wrth drin canser yr ofari trwy leihau llwyth gwaith gweinyddol clinigwyr. Mae'r GIG wedi croesawu'r gwaith, a chafodd ei ganmol gan yr Ymgynghorwyr yn Ysbyty Athrofaol Cymru am ei ddiogelwch a'i ymarferoldeb (er enghraifft drwy anfon ffurflenni adborth cleifion a dadansoddi canlyniadau). Cafodd glod hefyd am ei gallu i hysbysu timau clinigol yn awtomatig ar adegau hanfodol bwysig yn ystod y llwybr gofal. Mae pob un o’r elfennau hyn yn arbed amser gwerthfawr gan alluogi timau meddygol i ganolbwyntio ar y pethau pwysicaf. Awgrymodd y timau hyn y gallai newid bywydau.

“Doedd gen i ddim syniad y byddai fy ngradd mewn Cyfrifiadureg yn dod â mi yma,” meddai Jack, cyn-lywydd CyberSoc yn yr Ysgol ac enillydd wobr y Myfyriwr Gorau eleni.

“Roedd y darlithwyr yn wych yn ystod fy astudiaethau ac wrth fy helpu i gael blwyddyn mewn diwydiant a adeiladodd fy mhrofiad ym maes awtomeiddio,” meddai Jack.

Eglurodd mai yn ystod ei flwyddyn olaf y cysylltodd y brifysgol ag ef i helpu gyda phrosiect sy'n awtomeiddio tasgau gweinyddol a llafurus y mae meddygon yn gorfod eu gwneud.

“O ganlyniad i'r gwaith yma, hwn oedd fy mhrosiect blwyddyn olaf, ac roedd yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â'r GIG ac ymgynghori â’r sefydliad. Roedd yr adborth a gefais ar gyfer fy mhrototeip yn anhygoel ac fe wnaethon nhw fy annog i wneud cais i siarad amdano mewn cynadleddau rhyngwladol fel yr yma. Rwyf am barhau i weithio ar y prototeip hwn, ond mae mor gyffrous bod yma i weld gwaith pobl eraill a rhannu fy ngwaith i.”

Rhannu’r stori hon